Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Parc Bellevue

 

Enillodd Y Parciau achrediad y Faner Werdd yn ddiweddar gan yr Ymddiriedolaeth Ddinesig, fel cydnabyddiaeth am y safonau uchel o ran cynnal a chadw tiroedd y parc, cyfleusterau hamdden, cysylltiad y gymuned a rheolaeth y parc yn gyffredinol. Bob blwyddyn, rhaid i barciau sy'n gwneud cais am y wobr gwblhau asesiad wrth y ddesg a chael ymweliad gan feirniaid hyfforddedig. Mae'r wobr yn un barhaus, felly rhaid cynnal y safonau uchel trwy gydol y flwyddyn. Rydym hefyd wedi gwneud cais am y wobr ar ran nifer o barciau eraill yn y fwrdeistref.

Lluniwyd gwobr y Faner Werdd i wella safonau parciau a mannau agored gwyrdd ar draws Cymru a Lloegr, ac mae'n cael ei hystyried fel y safon genedlaethol. Mae cynllun y Faner Werdd yn cydnabod rhagoriaeth ac yn amlygu arferion da a chyraeddiadau'r bobl sy'n creu ac yn gofalu am fannau agored. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ymroddedig i gyflawni'r safonau uchel hyn ym mhob un o barciau a pharciau gwledig y fwrdeistref.

Mae'r Ymddiriedolaeth Ddinesig wedi rheoli cynllun gwobrwyo'r Faner Werdd ers 2000, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, mae nifer y parciau sydd wedi ennill y wobr wedi cynyddu o 55 i 322 o ddyfarniadau ar draws y Deyrnas Unedig yn 2005. Mae'r cynnydd hwn yn dangos bod gwerth mannau gwyrdd fel Y Parciau yn cael ei gydnabod, a bod staff ymroddedig y parciau unwaith eto'n cael y gefnogaeth y maent yn ei haeddu.

Ewch i'r wefan www.greenflagaward.org.uk i gael mwy o wybodaeth am y cynllun gwobrau.

Parc Bellevue

Parc BellevueAil-agorwyd y parc ym mis Mehefin 2000 yn dilyn cynllun helaeth i'w adnewyddu a'i adfer i'w gyflwr gwreiddiol (y cyfnod Edwardaidd). Ariannwyd y cynllun hwn yn rhannol gan y Loteri Dreftadaeth, y prosiect Parciau Trefol, Awdurdod Datblygu Cymru a Chronfa Datblygiad Rhanbarthol Ewrop.

Parcdir wedi ei Dirweddu

Mae'r parc yn cynnwys nifer o goed aeddfed sy'n creu'r rhodfeydd palalwyf cysgodol sy'n ymestyn o'r bandstand. Mae yna hefyd ardaloedd lle plannwyd coed newydd a llwyni addurnol, a ail-gyflenwyd yn ddiweddar fel rhan o gynllun adnewyddu'r Loteri Dreftadaeth. Mae gardd gerrig sy'n cynnwys planhigion o'r cyfnod Edwardaidd yn arwain at y lawntiau bowlio.

Mae rhwydwaith o lwybrau sy'n troi'n araf yn eich arwain trwy'r parc, sy'n cael eu goleuo gan lampau o'r cyfnod gyda'r nos, gan gynnig llwybr dymunol trwy'r parc. Mae'r llwybrau'n arwain at olygfan naturiol o dref Wrecsam, gan gynnwys golygfeydd ysblennydd o Eglwys y Plwyf a'r bryniau o'i chwmpas. Mae yna hefyd ardd synhwyraidd newydd wrth fynedfa'r parc ger cerflun y Frenhines Fictoria.

Meysydd Chwarae'r Plant

Mae gan y parc ddarpariaethau chwarae i blant bach a phlant hŷn. Mae'r ardaloedd hyn wedi'u ffensio er mwyn rhwystro cŵn a darperir arwyneb rwber diogel o dan yr offer chwarae. Adeiladwyd y mannau chwarae fel rhan o raglen adnewyddu'r Loteri Dreftadaeth a gwblhawyd ym mis Mehefin 2000.

Lawntiau bowlio

Mae'r ddwy lawnt fowlio'n boblogaidd iawn, ac yn lleoliad poblogaidd ar gyfer gemau rhyngsirol. Gall y cyhoedd fowlio ar y lawntiau. Mae'r lawntiau hefyd yn gartref i Glwb Bowlio'r Parciau.

Grin Fowlio Parc Bellevue

Cyrtiau Tennis

Mae tri chwrt tennis parhaol sydd wedi'u gwneud o fitwmen macadam yn y parc, ac mae darpariaeth ar gyfer dau gwrt arall yn ystod cyfnodau prysur. Ni chodir tâl am ddefnyddio'r cyrtiau tennis.

Cwrt Pêl Fasged

Mae cwrt pêl-fasged parhaol wedi'i farcio ar gwrt bitwmen macadam.

Llwybr cerdded a loncian

Mae llwybr 0.8km o hyd i gerddwyr a loncwyr yn mynd o amgylch y parc.

Lleoedd Parcio

Mae lleoedd parcio ar gael i bobl anabl y tu allan i'r ganolfan gymunedol.

Toiledau

Darperir cyfleusterau i bob ymwelydd. Lleolir y toiled awtomatig ger y cyrtiau tennis ac mae'n costio 20c.

Bandstand

Mae'r bandstand gwreiddiol, mewn amffitheatr naturiol, yn cael ei oleuo gyda'r nos ac fe'i defnyddir ar gyfer rhaglen o gyngherddau a bandiau trwy gydol yr haf, gyda phob math o gerddoriaeth yn cael ei chwarae. Mae gwybodaeth am raglen ddigwyddiadau cerdd Y Parciau ar gael ar y wefan hon, yn nhaflen y parciau neu ar faneri a leolir ar gatiau mynediad y parc.

Parc Bellevue Bandstand

Rhaglen Digwyddiadau Blynyddol a Gweithgareddau'r Haf

Trefnir digwyddiadau a gweithgareddau i bobl o bob oedran trwy gydol y flwyddyn gan Swyddog Datblygu'r Parc. Am wybodaeth am y rhaglen ddigwyddiadau a gweithgareddau, ffoniwch Swyddog Datblygu'r Parc ar 01978 264150. (Mae Swyddfa'r Swyddog Datblygu drws nesaf i'r pafiliwn bowlio). Mae gwybodaeth ar gael hefyd yn nhaflen y parciau ac ar y wefan hon.

Parc Bellevue cynnarCyd-destun Hanesyddol

Ddiwedd y 19eg ganrif, nodwyd gofynion ar gyfer cael parc, er na sicrhawyd lleoliad 'Y Parciau', fel ychwanegiad i safle mynwent Ffordd Rhiwabon tan 1906. Fe'i lluniwyd i ddathlu Blwyddyn Jiwbilî ymgorfforiad Wrecsam. Datblygwyd Y Parciau o 1910 gyda'r gatiau mynediad a'r porthordy'n cael eu darparu gan danysgrifiadau cyhoeddus. Symudwyd cerflun y Frenhines Fictoria o ganol y dref yn y 1920au i leoliad ger y pafiliwn. Troswyd y pafiliwn yn y 1970au i ddarparu canolfan gymunedol. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd Y Parciau i gynhyrchu bwyd ar gyfer ysgolion lleol. Yn aml, defnyddiwyd y bandstand, a adeiladwyd o fewn ei amffitheatr naturiol ei hunan, ar gyfer cyngherddau pres ar ddydd Sul, ond erbyn diwedd y 1960au roedd yn anniogel a bu bron iddo gael ei ddymchwel. Fodd bynnag, cafodd ei ailwampio yn 1973.

Cyfeillion Y Parciau

Mae Cyfeillion y Parciau'n grwp cymunedol gwirfoddol a sefydlwyd yn 2001. Mae'r grwp yn cyfarfod yn fisol ynghyd â staff i drafod unrhyw ddatblygiadau neu gynlluniau at y dyfodol, ac yn gweithredu fel dull ardderchog o gyfathrebu gyda defnyddwyr y parc a'r gymuned leol. Mae'r grwp yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn, ac yn codi arian i helpu i wella'r Parciau. Os hoffech ymuno ag urdd y cyfeillion, ffoniwch Barbara Jones ar 01978 262035 neu Richard Aram, Swyddog Datblygu ar 01978 264150.

 
English
 

Cyswllt i

Parc Acton
Parc Bellevue
Parc Ponciau
Parc Brynkinalt
Grin Fowlio
Caeau Pêl Droed
Cyfleusterau Parc
Caeau Chwarae
Cyfleusterau Caeau Chwarae
Y Ddarpariaeth Chwarae Ieuenctid
Cyrtiau Tennis

Mynegai i'r Gwasanaethau Amgylcheddol
Gwybodaeth Cyswllt
Gwasanaethau Lleol Arall
Ymateb Gwefan
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint