Parcdir wedi ei Dirweddu
Parcdir wedi ei dirweddu gyda choed aeddfed enghreifftiol a glaswellt tonnog lle plannwyd coed yn ddiweddar. Hefyd mae prysgwydd addurniadol, a rhannau lle plannwyd bylbiau yn wyllt.
Llyn
Y llyn yw nodwedd ganolog y parc. Yn wreiddiol, fe'i adeiladwyd gan ddefnyddio clai wedi ei bwdlo yn y 18fed ganrif ond yn ystod y 1970au cafodd ei ddraenio a'i leinio â butyl. Mae pysgota yn boblogaidd ar y llyn ac mae llwyfannau ar gael i bysgotwyr anabl. (Mae'r llyn ar gau i bysgota yn ystod cyfnod nythu'r adar dwr). Mae gwlyptir hefyd sy'n cynnal amrywiaeth eang o fywyd gwyllt.
Meysydd Chwarae i Blant
Mae darpariaeth yn y parc ar gyfer Babanod a Phlant Iau. Mae'r rhannau hyn wedi eu ffensio i rwystro cwn a darperir arwyneb diogelwch o dan yr offer chwarae.
Grîn Fowlio
Mae'r grîn fowlio yn boblogaidd iawn ac mae nifer o dimau yn ei ddefnyddio i chwarae yng Nghynghreiriau Lleol Wrecsam.
Cyrtiau Tenis
Mae dau gwrt tenis bitwmen macadam yn y parc.
Maes Parcio
Mae dau le parcio ar gyfer nifer cyfyngedig o gerbydau, a leolir yn Herbert Jennings Avenue a tu ôl i Dafarn Cunliffe ar Jeffery's Road.
Cyd-destun Hanesyddol
Y tirfeddiannwr, Syr Foster Cunliffe, a gynlluniodd y parc yn wreiddiol ym 1785. Roedd y parc cyfan wedi ei amgáu gyda mur carreg, fel gerddi Neuadd Aston. Dyluniwyd Acton gan James Wyatt (ar ran Cunliffe). Plannwyd llawer o'r coed aeddfed enghreifftiol sydd wedi goroesi hyd heddiw yn ystod y cyfnod hwn, ac mae cynllun cyffredinol y parc a lleoliad y llyn yn rhan o gynllun gwreiddiol y parc.
Nid arhosodd y stâd ym meddiant teulu Cunliffe ac mae llawer o berchnogion wedi bod dros y blynyddoedd. Ym 1947 cyflwynwyd y plas a'r parcdir i'r Cyngor gan y perchennog bryd hynny, yr Henadur William Aston. Erbyn hynny, roedd y gerddi wedi gordyfu ac fe gychwynnwyd ar raglen i'w hadfer.
Rhwng 1930 & 1970, datblygwyd tua hanner y parc fel ardal ar gyfer tai. Mae'r 55 erw sy'n weddill o'r stâd wreiddiol yn ffurfio'r rhan fwyaf o'r parc fel y mae heddiw.
Er nad oedd yr ardal wedi ei gynllunio yn wreiddiol fel 'parc', bellach mae grîn fowlio, cyrtiau tenis, meysydd chwarae i blant, gardd Siapaneaidd, Cylch yr Orsedd a llyn gyda bywyd gwyllt.
|