|
Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth i chi am y problemau
o ganlyniad i daflu sbwriel.
Sbwriel a Bywyd Gwyllt
Yn ôl arolygon diweddar, mae sbwriel yn ein cymdogaeth yn fater
o bryder mawr. (www.encams.org). Tra
bod yr elfen annifyr a geir gan ardal wedi ei difwyno gan sbwriel yn ddigon
o reswm i leihau’r gwastraff sy’n cael ei daflu’n ddiangen,
mae problemau mwy difrifol eraill yn cael eu creu gan sbwriel.

Mae llawer o eitemau’n gallu bod yn beryglus iawn i fywyd gwyllt
(www.rspca.org.uk). Mae rhai enghreifftiau
cyffredin yn cynnwys bagiau plastig, papur lapio a chynhwyswyr eraill
a all ddal sawl anifail, gwydr sy’n gallu anafu’n ddifrifol
a chaniau aliminiwm sy’n dal ac anafu bywyd gwyllt. Mae sawl peth
arall y byddech yn eu hystyried yn ddibwys i ddechrau. Mae pobl yn credu
nad yw pethau fel ffrwythau neu fara’n beryglus i fywyd gwyllt ond
mae’r math hwn o fwyd yn gallu peryglu iechyd anifeiliaid nad ydynt
yn gyfarwydd â’r sylwedddau sydd ynddynt.
Pryder arall sy’n ymwneud â thaflu sbwriel yw’r cynnydd
ym mhoblogaeth llygod mawr. Gwelodd arolwg diweddar fod y boblogaeth llygod
mawr ym Mhrydain wedi cynyddu 24% rhwng 1998-2000 ac mae nawr oddeutu
60,000 miliwn. Credir bod hyn yn rhannol oherwydd cynnydd yn y sbwriel
bwyd y gellir ei weld ar strydoedd ein trefi.
^ yn ôl i'r brig
Sbwriel a’r Amgylchedd
Pryder arall yw’r hyn sy’n digwydd unwaith iddo gael ei daflu.
Mae cynnyrch gwneuthuredig yn cymryd amser hir iawn i dorri i lawr yn
yr amgylchedd naturiol. Bydd unrhyw beth rydym yn ei daflu i’r amgylchedd
nawr yno am amser hir iawn. Dyma pam y dylem gael gwared ar ein gwastraff
yn gyfrifol ac ystyried pa un a ellir ei ailgylchu neu ei ailddefnyddio
fel nad yw’n dod yn wastraff yn y lle cyntaf.

Mae sbwriel yn ein hamgylchedd yn difwyno apêl weledol ardal ac
mae’n gwneud i ardal edrych yn flêr ac yn frwnt. Mae rhai’n
canfod hefyd os oes sbwriel mewn ardal, nid oes pwrpas cael gwared ar
sbwriel yn gyfrifol – hynny yw, mae ychydig bach o sbwriel yn creu
llawer mwy!
Dyma
rywbeth i chi ei ystyried. Mae’r holl sbwriel rydym yn ei weld o’n
cwmpas yno oherwydd esgeulustod, diogi neu agwedd anghyfrifol rhywun.
Pe bai pawb yn barod i roi eu sbwriel mewn bin neu fynd ag ef adref gyda
nhw, ni fyddai sbwriel o’n cwmpas. Mae mor syml â hynny!
|