Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Cyngor ar sut i gompostio'n llwyddiannus yn y cartref

 

Beth allaf ei roi yn fy min compost?

Mae'r micro-organebau a'r pryfetach sy'n ymddatod sylweddau organig yn eich tomen gompost neu'ch compostiwr yn gweithio orau os rhoddir cymysgedd o ddeunyddiau o bob un o'r ddwy restr isod:

Deunyddiau gwlyb:

  • Gwastraff ffrwythau
  • Croen llysiau
  • Bagiau te
  • Coffi mâl
  • Blodau wedi marw
  • Glaswellt
  • Chwyn
  • Planhigion ffres
  • Gweddillion tocio
  • Toriadau gwrychoedd
  • Tail
  • Gwastraff anifeiliaid anwes llysysol
  • Ychydig o bridd o'r ardd

Deunyddiau sych

  • Papur wedi'i dorri'n fân
  • Blychau wyau
  • Cardbord
  • Pecynnau carbord
  • Papur cegin wedi'i ddefnyddio
  • Blew anifeiliaid anwes
  • Gwely hamster / mochyn cwta
  • Gwastraff yr ardd wedi'i droi'n sglodion
  • Gwastraff yr ardd wedi'i dorri'n fân
  • Llwch o sugnwr llwch
  • Gwellt
  • Llwch llif
  • Dail wedi marw
  • Brigau

Ceisiwch ychwanegu symiau cymharol fach o bob deunydd i'ch tomen neu'ch compostiwr bob tro er mwyn cael cydbwysedd da o ddeunyddiau gwlyb a sych.  Bydd hyn yn gwneud i'r gwastraff ymddatod yn gynt.

Os gwneir hyn, ni ddylai fod angen troi'r cynnwys gyda fforch gan y bydd organebau naturiol yn gwneud y gwaith hwnnw i chi.

Beth na allaf ei roi yn fy min compost?

  • Baw cathod / cŵn
  • Gweddillion ar blatiau
  • Cerdyn sgleiniog neu gylchgronnau lliw
  • Gwrthrychau nad ydynt yn pydru
  • Cig (wedi'i goginio nac yn amrwd)
  • Clytiau tafladwy
  • Planhigion wedi marw
  • Hancesi papur

Pa mor hir fydd y deunydd yn ei gymryd i ymddatod

Mae hyn yn dibynnu ar yr adeg o'r flwyddyn a'r hinsawdd.  Yn ystod cyfnodau o dywydd cynnes mae'n bosibl y bydd compostiwr llawn deunyddiau'n dal i fyny â'r broses ymddatod wrth i chi ychwanegu deunyddiau heb ei orlenwi.   Os oes gennych ddigon o le, mae'n syniad da cael mwy nag un compostiwr fel y gallwch adael un i ymddatod tra bo'r llall yn llenwi.

Cyn bo hir, bydd gennych ffynhonnell o gyflyrydd pridd buddiol i'w ddefnyddio yn eich gardd heb fod angen prynu compost sy'n cynnwys mawn.

Gall gerddi bach gompostio hefyd

Hyd yn oed os oes gennych ardd fach heb le i ddefnyddio cyflyrydd pridd, mae gennych le ar gyfer compostiwr cartref a gallwch ei ddefnyddio ar gyfer gwastraff o'r gegin a'r cartref fel y disgrifir yn y rhestrau uchod heb ei lenwi’n rhy gyflym.

Byddwch yn gadael mwy o le yn eich bin du ar gyfer sbwriel arall nad oes modd ei ailgylchu a chyfrannu'n sylweddol at ddargyfeirio gwastraff o domenni gwastraff.

Pam ddylwn i ddefnyddio compostiwr cartref os oes gennyf fin gwyrdd?

Compostio yn y cartref yw'r ffordd orau o ddelio â gwastraff yr ardd a gwastraff addas o'r gegin gan ei fod yn lleihau'r defnydd o garbon wrth gludo a phrosesu gwastraff y biniau gwyrdd.  Compostiwch yn y cartref yn gyntaf a defnyddiwch y bin gwyrdd ar gyfer pethau fel glaswellt dros ben, chwyn lluosflwydd a gwastraff planhigion pren na ellir ei gompostio yn y cartref.  Cofiwch fod y gyfraith yn nodi NA DDYLID RHOI GWASTRAFF Y GEGIN MEWN BIN GWYRDD.

Y rhif ffôn yw 01978 298989 a bydd galwadau'n costio'r un faint â galwadau lleol.

Dolenni

Biniau Compost / Compostio

Compostio Gartref - Cynllun 'Craff am Wastraff'

 Biniau Compost / Compostio

 
English
 

Cyswllt i

Mynegai Gwasanaethau Amgylcheddol
Gwybodaeth Gyswllt
Gwasanaethau Lleol Eraill
Rhifau Argyfwng / Defnyddiol
Cyfleusterau Ar Lein
Ymateb
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint