Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am y Gwasanaethau Wardeiniaid Mwynderau.
Rôl y Swyddogion Gorfodi Amgylcheddol yw cyfyngu ar yr achosion o broblemau baw ci, sbwriel ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y Fwrdeistref Sirol. Er mwyn llwyddo i gyflawni’r amcan hwn, mae’r wardeiniaid yn cwblhau amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys gwybodaeth, addysg cwn a gweithgareddau gorfodi.


Cyflwyniadau i Ysgolion - Mae’r swyddogion ar gael i roi cyflwyniadau anffurfiol i blant ysgol am y materion sy’n ymwneud â baw ci a sbwriel. Anelir y cyflwyniadau hyn at amrywiaeth o wahanol oed o blant ysgolion cynradd a hŷn. Gellir hefyd darparu ystod o ddeunyddiau addysgol a syniadau am waith pellach.
Gweithgareddau Hyrwyddo - Gellir trefnu gweithgareddau megis teithiau casglu sbwriel i blant lleol fel cyfle i addysgu a rhoi gwybodaeth yn ogystal â mynd i’r afael ag ardaloedd sydd â sbwriel. Mae’r swyddogion yn awyddus i gydweithio gydag unrhyw grwpiau sy’n mynegi diddordeb i weithredu a lleihau’r problemau hyn.
Tra bo codi ymwybyddiaeth, hyrwyddo ymagwedd gyfrifol tuag at ein hamgylchedd ac addysgu ein hieuenctid i gyd yn ffyrdd o leihau’r achosion o sbwriel a baw ci, bydd rhai sy’n gwrthod newid eu hymddygiad bob amser. Mae grymoedd gorfodi'r wardeiniaid yn eu galluogi i erlyn unigolion am adael sbwriel a baw ci. Gellir hefyd rhoi rhybuddion cosbau penodedig i droseddwyr sy’n cael eu dal yn gadael eu cŵn faeddu neu beidio â glanhau’r baw. Gosodir y cosbau hyn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac ar hyn o bryd rhoddir cosbau o £75 am faw ci a gadael sbwriel fel rheol. Rhaid talu’r cosbau hyn o fewn 14 diwrnod o dderbyn y rhybudd i rwystro gosod camau pellach. Bydd gadael baw ci yn destun uchafswm cosb o £1000 a gall gadael sbwriel dderbyn cosb o hyd at £2500. Bydd y swyddogion yn mynd ar batrolau aml o ardaloedd yn y Fwrdeistref Sirol er mwyn dal troseddwyr.
Os ydych yn rhoi gwybod am ddigwyddiad byddai o gymorth pe byddech yn nodi’r dyddiad, yr amser a lleoliad y digwyddiad yn ogystal â disgrifiad o’r troseddwr (os yn hysbys) ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall megis, lliw, maint a brid y ci.
Gellir cysylltu รข Swyddogion Gorfodi Amgylcheddol yn Pencadlys Adran yr Amgylchedd, Ffordd Dde yr Abaty, Ystad Ddiwydiannol Wrecsam, LL13 9PW.
Y llinell ffôn ar gyfer ymholiadau ac adrodd am ddigwyddiadau yw (01978) 298989 neu gallwch adrodd am broblemau cwn ar-lein.