Croeso i’r tymor newydd!
Cymdeithas Garddwyr Rhandir a Hamdden yn Gweithio Mewn Partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol.
Gwell Fyth yn 2008!
Roedd 2007 yn flwyddyn brysur a chynhyrchiol iawn i Gymdeithas Garddwyr Rhandir a Hamdden Wrecsam ac ymddengys y bydd 2008 hyd yn oed yn brysurach. Profodd ein siop ar Lôn Price i fod yn fagned arbennig i bob math o arddwyr, un ai yn ddalwyr rhandiroedd, garddwyr preifat, ifanc, hen, arbenigwyr neu ddechreuwyr. Daeth pawb a phrynu swm enfawr oddi wrthym a’i gwneud yn flwyddyn orau eto. Diolch i’n holl gwsmeriaid, rydym yn edrych ymlaen at eich gweld eto o Chwefror 2ail.
Nid ydym yn rhoi rhestr brisiau ar y safwe eleni ond os oes angen gwybodaeth benodol arnoch ymwelwch â Siop Rhandir Lôn Price neu
e-bostio marvellousgardens@btinternet.com.
Oriau Agor Siop
Mae‘r siop wedi ei lleoli ar safle Rhandir Lôn Price, Lôn Price, Wrecsam.
- Chwefror – Hydref – Bob Dydd Sadwrn 10.00am – 12 Canol Dydd
- Ebrill – Gorffennaf – Pob Nos Fercher 6.00pm – 7.00pm
Beth Sydd ar Werth ar Gyfer 2008
Byddwn yn parhau i storio ystod ardderchog o fawn, mawn gostyngol a chynnyrch di-lôm. Yn fwyfwy mae angen inni edrych am gynnyrch
sy’n fwy cynaliadwy ac ymddengys mai’r cynnyrch hyn yw’r ateb. Fel garddwyr mae angen inni fod ar y blaen wrth amddiffyn
ein byd rhyfeddol ac mae’r siop randir yn gweithio’n galed iawn i symud i’r cyfeiriad hwn. Eleni byddwn yn cael rhywfaint
o Strulch hefyd. Ewch i Strulch ar y we am fwy o wybodaeth gyffrous.
Byddwn yn parhau i
werthu ein hystod llwyddiannus eraill o gompost a gwrtaith yn cynnwys compost grugaidd sy’n ddelfrydol i’r planhigion hoff o
asid fel acers, magnolias, grug a llus wrth gwrs.
- Mae gennym ddewis gwych o hadau tatws yn cynnwys amrywiaeth organig. Roedd llawer o bobl yn gweld mallter ar eu tatws yn 2007 ac
eleni rydym wedi prynu ein hadau tatws oddi wrth gyflenwr da iawn o’r Alban.
- Rhinwedd arall y siop yw y gallwch brynu potash neuwrtaithtatws neu halen Epsom a llawer mwy fesul cilo yn lle gorfod
prynu’r bag enfawr sy’n dueddol o ddihoeni yn y sied drwy fynd yn galed. Mae ein gwirfoddolwyr rhyfeddol yn pwyso
faint bynnag o swm rydych ei angen. Hefyd gellir prynu cnu, swigen lapio ac atalydd chwyn ffabrig du fesul metr.
- Gall unrhyw un ddod yn aelod o SHOP a’r gymdeithas drwy dalu tâl aelodaeth bychan o £2.50.
NEWYDDION MAWR AR GYFER 2008 - Gwahoddwyd safle Rhandir Lôn Price i agor fel rhan o ddigwyddiad Cynllun Gardd Genedlaethol am 2008. Y diwrnod agor fydd GORFFENNAF 12fed. Edrychwch yn y Llyfr Melyn am fwy o wybodaeth neu e-bostiwch fi ar marvellousgardens@btinternet.com os oes gennych ddiddordeb mewn mynd am daith o amgylch safle rhandir. Mae'n llawn syniadau y gallwch fynd â nhw'n ôl gyda chi i’ch gardd beth bynnag fo’i maint.
Felly os nad ydych wedi ymweld â’r siop eisoes, dewch draw i ddweud helo. Gwir fonws ein SIOP yw y gweinir arnoch chi gan arddwyr didwyll sy’n gwybod yn iawn beth maent yn siarad amdano ac a fyddai’n hapus iawn i roi o’u profiad cyfoethog. Mae’r garddwyr gwybodus hyn wedi dewis y cynnyrch sydd ar werth felly pa faint mwy sydd angen ei wneud i’ch argyhoeddi?
Tyfiant hapus ichi eleni... |