|
Croeso i'r Ffurflen Gais Ar Lein
ar gyfer Cofrestru Eiddo Bwyd.
Mae'r ffurflen ar lein hon yn caniatáu cofrestru
eiddo a ddefnyddir ar gyfer busnes bwyd (gan gynnwys stondinau marchnad,
cerbydau danfon a strwythurau symudol eraill) ac mae angen cofrestru dan
y gyfraith.
Bydd cofrestru yn caniatáu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
gadw rhestr ddiweddaraf o'r holl eiddo felly yn yr ardal er mwyn medru
trefnu ymweliadau. Bydd amlder yr ymweliadau yn dibynnu ar lefel y risg
dan sylw.
Gweler Nodiadau ar Gofrestru Eiddo Bwyd
I gofrestru eich eiddo bwyd, cwblhewch y ffurflen isod a chlicio ar
y botwm cyflwyno.
Anfonir eich manylion at wasanaeth Iechyd
yr Amgylchedd a fydd yn gwirio'r wybodaeth a gyflwynwyd, a chofnodi'r
manylion mewn Cofrestr. Bydd cofrestr yn cynnwys enw'r busnes (os oes
un), y cyfeiriad, rhif ffôn a'r math o fusnes a ymgymerir gan bob
un, a bydd ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd yn gyffredinol.
Ni fydd cofnodion o'r wybodaeth arall a ddarperir ar gael yn gyhoeddus.
Diogelu Gwybodaeth
Bydd yr holl wybodaeth a gyflwynir gennych yn cael ei storio a'i defnyddio
yn unol â thelerau Deddf Diogelu Gwybodaeth 1998. Gweler hefyd ein Polisi Preifatrwydd
Pwrpas y ffurflen hon yw gofyn i ni eich galw chi. Os byddai'n well
gennych wneud ymholiad neu awgrym, defnyddiwch y ffurflen adborth
gwefan.
Gwybodaeth Gyswllt Bellach:
Ffôn: 01978 292040
Ebost: environmental@wrexham.gov.uk
Cwblhau'r ffurflen ymholiadau
cyffredinol ar lein
Cyfeiriad:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Adran Gwarchod y Cyhoedd
Adeiladau'r Goron
Blwch S.P. 1297
Stryt Caer
Wrecsam
LL13 8ZE
|