Gwaith Allanol a Gwaith ar y Stryd
Bydd prosiectau gwaith allgymorth a gwaith stryd yn annog diddordeb pobl ifanc mewn mannau y byddant yn ymgynnull o'u dewis, gall fod ar gornel stryd, parciau, caffis, canolfannau hamdden neu fannau cyhoeddus. Yn aml bydd gweithwyr ar y stryd yn gallu cysylltu â phobl ifanc sydd heb unrhyw ddarpariaeth ieuenctid arall yn eu hardal neu sydd am ba bynnag reswm yn dewis peidio â defnyddio'r cyfleusterau.
Tîm Allanol Acton
Gwaith ar y stryd
Dydd Llun - Dydd Iau 6.30pm - 9.30pm |
Gweithiwr Datblygu Acton
Canolfan Pobl Ifanc
Garden Village
Ffordd Clawdd Wat
Garden Village
Wrecsam
|
| |
|
Tîm Allanol Brynteg a Southsea
Gwaith ar y stryd
Dydd Mawrth a Dydd Iau 6.30pm - 9.00pm |
Arweinydd Tîm Ardal
"Gafneys"
Canolfan Pobl Ifanc Brynteg a Southsea
Ffordd Bryn Issa
Wrecsam |
| |
|
Tîm Allanol Johnstown
Dydd Mawrth 7.00pm - 9.30pm |
Arweinydd Tîm Ardal
Ysgol y Grango
Allt Ty Gwyn
Rhos
Wrecsam |
| |
|
Tîm Allanol Penycae
Gwaith ar y stryd
Dydd Mawrth 7.00pm - 9.30pm
Dydd Iau - 7.00pm - 9.30pm |
Arweinydd Tîm Ardal
Canolfan Ieuenctid Penycae
Penycae
Wrecsam |
| |
|
Tîm Allanol Rhosllanerchrugog
Prosiect Stryd-ddoeth
Fforwm Ieuenctid
Gwaith ar y stryd
Dydd Mawrth 6.30pm - 9.00pm
Dydd Iau 6.30pm - 9.00pm |
Arweinydd Tîm Ardal
Ysgol y Grango
Allt Ty Gwyn
Rhos
Wrecsam |
| |
|
Gwaith ar y Stryd Canol Tref Wrecsam
Ffoniwch am fanylion |
Gweithiwr Ieuenctid Canol y Dref
Canolfan Pobl Ifanc Y Vic
13, Stryt yr Allt
Wrecsam
|
| |
|
Tîm Allanol Penycae
Gwaith ar y stryd |
INFO i Bobl Ifanc
2 Arcêd Porth y Gogledd
Stryt Caer
Wrecsam |
Cyswllt i Glybiau Ieuenctid
Cyswllt i Ganolfannau Pobl Ifanc
Cyswllt i wybodaeth am Ganolfan Adnoddau Parc Llai
Cyswllt i Ffurflen Cais Cyffredinol Arlein
yn ôl i'r brig
Addysg yn yr Awyr Agored
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam yn cynnig ystod eang o gyfleodd addysg yn yr awyr agored gyda hyfforddwyr cymwys a chyfleodd i ennill cymwysterau.
Mae'r gweithgareddau'n cynnwys:
- Sgramblo Ceunentydd
- Datblygu Tim
- Cyfeiriadu
- Cerdded Mynyddoedd
- Canwio
- Caiacio
- Abseilio
- Dringo
- a llawer mwy...
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam yn cynnig ystod eang o gyfleodd addysg yn yr awyr agored gyda hyfforddwyr cymwys a chyfleodd i ennill cymwysterau. Mae gan Wasanaeth Ieuenctid Wrecsam drwydded Gweithgareddau Antur (Trwydded Rhif. L4724).
Cyswllt i Ffurflen Cais Cyffredinol Arlein
Canolfan Addysg Awyr Agored Nantyr
Mae'r daflen ar gael i'w lawr lwytho yn y fersiynau canlynol:
Canolfan Addysg Awyr Agored Nantyr - fersiwn PDF 93Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
yn ôl i'r brig
Gwobr Dug Caeredin yn Wrecsam
Mae Gwobr Dug Caeredin yn rhaglen o weithgareddau gwirfoddol ar gyfer pobl ifanc sydd rhwng 14 a 25 oed. Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau sy'n cynnwys alldaith dan ganfas, rhoi gwasanaeth i'w cymuned, dilyn sgìl o'u dewis a chymryd rhan mewn chwaraeon. Gallant un ai ddewis gweithgaredd sy'n newydd iddynt neu ddefnyddio'r Wobr i gael achrediad i'w gweithgareddau blaenorol. Mae dros 600 o weithgareddau cymwys yn y wobr.
Yn Wrecsam yn 2003/04 cymerodd, 7.9% o'r boblogaeth oedd yn 14 - 17 oed ran yn y wobr. Gallant gwblhau pethau drwy eu hysgol, sefydliad gwirfoddol canolfan ieuenctid neu un o'r canolfannau gwobrau awyr agored yn yr ardal. Yr ysgolion sy'n cymryd rhan yn y wobr yw Ysgol Morgan Llwyd, Ysgol Clywedog, Grango, Rhiwabon, Sant Christopher, Ysgol Maelor a Sant Joseff. Mae gan The Venture , Parc Caia, Grwp Gofal Coedpoeth, y Sgowtiaid Archwilio, Coleg Iâl, Canolfan Ieuenctid Bettisfield, Canolfan Ddatblygu Plant y Coetir a'r Gwasanaeth Prawf hefyd bobl ifanc sy'n cymryd rhan yn y wobr.
Canolfan Gwobrau Agored Wrecsam
Canolfan Gwobrau Agored Wrecsam - cynhelir cyfarfodydd ar nos Fawrth rhwng 7-9pm yn Ysgol Clywedog Wrecsam (adeg tymor yn unig). Mae croeso i bobl ifanc ymweld â ni i gael cyngor, cyfarwyddyd neu sgwrs am wobr Dug Caeredin.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Gweithiwr Cefnogi Ieuenctid - Gwobr Dug Caeredin ar 01978 292217 neu cwblhewch ffurflen ymholiadau cyffredinol ar-lein.
Gwybodaeth bellach (cyswllt allanol): www.dofewx.co.uk
Cyswllt i Ffurflen Cais Cyffredinol Arlein
yn ôl i'r brig
Partneriaethau gyda Grwpiau Cymunedol
Mae gan Wasanaeth Ieuenctid Wrecsam bartneriaeth a threfniant ariannol gyda'r cynghorau cymunedol, grwpiau gwirfoddol mawr a bach ac ag elusennau pobl ifanc cenedlaethol.
Rhaglenni Gweithgareddau Gwyliau Ysgol
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam mewn partneriaethau cymunedol yn gallu darparu rhaglenni gweithgareddau yn ystod gwyliau ysgol. Mae'r partneriaid yn cynnwys:
- Cyngor Cymunedol Rhos a Johnstown
- Cymdeithas Trigolion a Thenantiaid Johnstown
- Sefydliadau Cymunedau yn Gyntaf
- Partneriaeth Parc Caia
- Y Gronfa Weithgareddau Integredig
- Y Cynllun "Splash"
- Y Rhaglen Cynhwysiad Ieuenctid
- Cymdeithas Chwarae Wrecsam
Cyswllt i Ffurflen Cais Cyffredinol Arlein
yn ôl i'r brig
PGGW - Prosiect Gweithredu Gwledig Wrecsam
Mae gwasanaethau Prosiect Gweithred Gwledig Wrecsam yn cynorthwyo pobl ifanc o ardaloedd gwledig Wrecsam ac yn cefnogi clybiau ieuenctid gwirfoddol, annog a datblygu fforymau ieuenctid gwledig a datblygu gwaith arloesol gyda phobl ifanc arunig.
Mae Wrap yn gweithredu bob noswaith yn ystod yr wythnos yn ardaloedd Marchwiel, Owrtyn, Bangor Is-coed, Llannerch Banna a Bettisfield yn ogystal ag yn harddwch Dyffryn Ceiriog.
Cyswllt i Ffurflen Cais Cyffredinol Arlein
|