Faint o staff a pha fath o swyddi
Ar hyn o bryd mae'r gwasanaeth ieuenctid yn cyflogi oddeutu 125 o staff, ac yn amrywio o weithwyr ieuenctid rhan-amser sy'n gweithio ddwy noswaith yr wythnos, i weithwyr ieuenctid llawn amser sy'n arwain prosiectau ac yn rheoli adnoddau a thimau o staff. Mae'r gwasanaeth ieuenctid hefyd yn cyflogi rheolwyr, tîm gweinyddol, gofalwyr a staff glanhau.
Ffurflen Gweithio i'r Gwasanaeth Ieuenctid Arlein
Telerau ac Amodau
Mae gwasanaeth ieuenctid Wrecsam yn talu pob gweithiwr ieuenctid yn ôl graddfa gyflog a gydnabyddir yn genedlaethol a adnabyddir fel telerau ac amodau JNC. Bydd y cyflogau'n dibynnu ar gyfrifoldeb a chymwysterau. Gall y swydd fod yn barhaol neu am gyfnod cyfyngedig yn dibynnu ar natur y gwaith a chyllid.
Mae'r holl ymgeiswyr am swyddi yn destun gwiriad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol cyn dechrau ar y gwaith.
Disgwylir i bob un gweithiwr ieuenctid weithio oriau anghymdeithasol, gan gynnwys gyda'r nos a phenwythnosau. Gall gweithiwr ieuenctid llawn amser ganfod ei fod yn gweithio hyd at wyth noswaith bob pythefnos, weithiau mewn rhai amgylchiadau eithaf heriol. Mae'r gwasanaeth ieuenctid yn cynnig hyfforddiant, cefnogaeth a siawns i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc. Nid yw hi'n swydd sydd at ddant pawb, fodd bynnag, mae'r gwasanaeth yn dda am gadw gweithwyr ac mae rhai o weithwyr ieuenctid Wrecsam yn arwain rhai o'r prosiectau mwyaf arloesol yng Nghymru.
Recriwtio gweithwyr ieuenctid
Er mwyn recriwtio staff rhan-amser bydd y gwasanaeth ieuenctid yn cynnal nifer o "Gyrsiau Hyfforddi Cyflwyniadol". Lluniwyd y cyrsiau hyn i roi blas o sut brofiad fyddai gweithio gyda phobl ifanc, a bydd cronfa ddata o'r bobl sydd wedi derbyn yr hyfforddiant cyflwyniadol yn cael ei chadw yn swyddfa'r gwasanaeth ieuenctid a dosberthir hysbysebion swyddi gwag i'r unigolion hyn yn rheolaidd . Hysbysebir swyddi ar wefan Bwrdeistref Sirol Wrecsam, mewn Canolfannau Gwaith yn y Fwrdeistref Sirol a'r wasg leol hefyd.
Hyfforddiant i Weithwyr Ieuenctid
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam yn cynnig ystod eang o gyfleoedd hyfforddi ar gyfer gweithwyr ieuenctid a gwirfoddolwyr gan gynnwys uned datblygiad proffesiynol (PDU).
- Cyflwyniad i Waith Ieuenctid
- Cwrs Sylfaenol mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned
- Tystysgrif AU mewn Addysg Ieuenctid a Chymuned
- Diogelu Plant
- Asesu Peryglon
- Cymorth Cyntaf
- Camddefnyddio Sylweddau
- Darparu Gwybodaeth
- TG
- Addysg Cyfoedion
- Gwaith Fforwm Ieuenctid
Yn ogystal ag amrywiaeth o gyrsiau mewnol a chyrsiau sy'n seilieidg ar agweddau penodol.
Uned Datblygiad Proffesiynol
Mae'r Uned Datblygiad Proffesiynol o Wasanaethau Ieuenctid Wrecsam yn elfen a sefydlwyd yn ddiweddar ac mae'n cynnwys hyfforddiant a datblygiad staff a sicrwydd ansawdd ynghyd â rheolaeth atebol i ddarparu strwythur cefnogaeth cydlynedig i'r staff sydd yn y gwasanaeth.
Mae'r uned yn trefnu rhaglen amrywiol o gyrsiau hyfforddi o sesiynau untro ar faterion megis Diogelu Plant, Cymorth Cyntaf ac Iechyd a Diogelwch i raglenni hyfforddi pwysig megis Tystysgrif Addysg Uwch (Addysg Ieuenctid a Chymunedol). Darperir amrywiol lefelau o gefnogaeth ar gyfer staff gan gynnwys cefnogaeth broffesiynol a bugeiliol, ynghyd â chynllun mentora sy'n benodol ar gyfer aelodau newydd y gwasanaeth.
Mae'r uned hefyd yn ymgymryd â rhaglen asesu ac archwilio trylwyr o glybiau a phrosiectau ieuenctid y Gwasanaeth Ieuenctid gan sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir i'r bobl ifanc yn gyson ac o ansawdd uchel.
Cynllun Prentisiaeth
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam ar y cyd ag Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru, yn darparu rhaglen gweithwyr ieuenctid dan hyfforddiant. Caiff gweithwyr ieuenctid eu cyflogi'n llawn amser gydag amser wedi ei glustnodi ar gyfer hyfforddiant. Mae'r rhaglen hyfforddi arloesol hon yn galluogi i staff gael eu hyfforddi hyd at lefel diploma tra'n manteisio ar yr hyfforddiant mewn swydd ac ennill profiad gwaith gwerthfawr hefyd.
Cefnogaeth i weithwyr ieuenctid
- Mae ystod eang o gefnogaeth ar gael i staff Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam gan gynnwys:
- Uned datblygiad proffesiynol
- Goruchwylia rheolwr atebol yn rheolaidd
- Cyfweliad adolygu a datblygu proffesiynol blynyddol.
- Rhaglen hyfforddi fewnol gynhwysfawr
- Y cyfle ar gyfer goruchwyliaeth an-reolaethol
- Cyfleoedd ar gyfer mentora a swydd-sodli
- Grwpiau cefnogi a chylchoedd ansawdd
|