Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Yr hyn a ddywedodd Estyn am Wasanaeth Ieuenctid Wrecsam

 

Rhannau o Adroddiad Arolwg Estyn am Wasanaeth Ieuenctid Wrecsam Chwefror 2003.

  • Bydd llawer o bobl ifanc gyda gwahanol alluoedd o wahanol gefndiroedd yn dangos mwy o hunan barch ac aeddfedrwydd cynyddol yn eu perthnasau gydag oedolion a'u cyfoedion o ganlyniad i gymryd rhan mewn prosiectau arbennig a gweithgareddau traddodiadol y ganolfan ieuenctid.

  • Mae pob un o'r bobl ifanc yn datblygu sgiliau defnyddiol, yn dysgu i wneud penderfyniadau a dylanwadu ar ddigwyddiadau yn eu cymunedau drwy gysylltiad â'u pedwar fforwm ieuenctid a fforwm ieuenctid Wrecsam.

  • Daw grwp bychan o bobl ifanc yn fwy ymwybodol o ansawdd y ddarpariaeth drwy gymryd rhan weithredol ym mhroses hunanasesu'r gwasanaeth.

  • Bydd llawer o bobl ifanc yn ennill achrediad ffurfiol am eu llwyddiannau drwy nifer o lwybrau sy'n cynnwys Gwobrau Llwyddiannau Ieuenctid ASDAN a Gwobr Dug Caeredin.

  • Mae safon y gwaith ieuenctid yn dda yn gyffredinol ac yn dda iawn mewn gwaith prosiect arbenigol. Bydd gweithwyr ieuenctid yn cynnig cyfarwyddyd arbenigol a chefnogaeth, yn ymgynghori â phobl ifanc ac yn annog cyfranogiad.

  • Mae pob un o'r gweithwyr ieuenctid yn datblygu perthnasau da â phobl ifanc ac yn eu hannog i ddatblygu parch a sensitifrwydd tuag at anghenion eraill.

  • Bydd y fforwm ieuenctid sirol a'r fforymau lleol yn rhoi cyfleoedd i'r bobl ifanc sydd ynghlwm wrth hyn i drafod eu syniadau a chymryd rhan wrth ddod i benderfyniadau.

  • Mae un flaengaredd arloesol y gwasanaeth yn cynnwys pobl ifanc lleol wrth benodi eu gweithwyr ieuenctid rhan-amser eu hunain.

  • Mae rheolaeth yr hyfforddiant staff yn dda.

  • Ceir darpariaeth dda o wasanaethau gwybodaeth. Mae gan y prosiectau arbenigol drefniadau effeithiol iawn ar gyfer rhoi cyfarwyddyd a chyngor i bobl ifanc.

  • Mae'r presenoldeb yn y ddwy ganolfan ieuenctid a'r ddarpariaeth a dargedwyd yn dda, ac adlewyrchir y cydraddoldeb cyfle yn arferion gweithio'r gwasanaeth o ddydd i ddydd.

  • Ceir sawl enghraifft o bobl ifanc yn cymryd rôl weithredol yn eu cymunedau gyda chanlyniadau ymarferol a phendant. Mae'r enghreifftiau hyn wedi helpu i newid ymagweddau pobl ifanc a'r gymuned ehangach ac wedi hyrwyddo delweddau cadarnhaol o bobl ifanc yn Wrecsam.

 
English
 

Cyswllt i

Dychwelyd i'r mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint