|
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam yn cynnig ystod o wasanaethau cyffrous a llawn her er mwyn addysgu, awdurdodi, a hysbysu pobl ifanc Wrecsam er mwyn iddynt gyfrannu'n gadarnhaol at eu cymuned a chynnig y gefnogaeth iddynt i ddatblygu'n oedolion iach, cynhyrchiol a bodlon. Mae'r Gwasanaeth Ieuenctid yn seiliedig ar berthynas wirfoddol rhwng y gweithwyr ieuenctid a phobl ifanc ac yn cydnabod gwerth dysgu drwy weithredu a dathlu llwyddiannau pobl ifanc.

|