Beth yw'n Gwaith?
Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc
8 – 17 oed er mwyn ceisio rhwystro troseddu ac aildroseddu. Rydym yn dîm amlasiantaethol o staff proffesiynol sy’n gweithio yn y system Cyfiawnder Ieuenctid, a chawn ein hariannu gan Fwrdd Cyfiawnder Lloegr a Chymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Phartneriaethau Strategol lleol.
Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Llysoedd Ieuenctid ac yn gweithredu ystod o orchmynion statudol y mae’r llysoedd yn eu gosod. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda phobl ifanc a roir yn y ddalfa.
Mae gennym Agenda Atal gynhwysfawr sy’n amgynnwys Tîm Ymyrraeth Buan. Mae hynny’n golygu gweithio gyda phartneriaid yn y gymuned ar fentrau sy’n canolbwyntio ar gefnogi plant a’u teuluoedd mewn ardaloedd yn Wrecsam.
Mae gennym nifer cynyddol o wirfoddolwyr, sy’n cynnig cefnogaeth i’r tîm trwy ymgymryd â nifer o swyddogaethau sy’n cynnwys mentoriaid, oedolion priodol ac aelodau o’r paneli atgyfeirio. Anogir pobl o bob oed i gymryd rhan.
Cynigir cyngor ac arweiniad i rieni sy’n cael trafferthion wrth reoli ymddygiad gwrthgymdeithasol eu plentyn.
Un prif ffocws o’n gwaith yw galluogi pobl ifanc i dderbyn cyfrifoldeb am eu hymddygiad a’u gweithredoedd, a deall y niwed y mae eu troseddu yn ei wneud i eraill. Rydym yn gweithio’n agos gyda dioddefwyr ac anogwn bobl ifanc i ymgymryd â gweithgareddau sy’n gwella’r niwed i unigolion a’r gymuned ehangach.
Gwelediad o Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam
Wrecsam sy’n ddiogel ac yn rhydd o drosedd i bawb lle mae pobl ifanc yn ddinasyddion gwerthfawr o fewn eu cymuned
Cenhadaeth neu Ddatganiad o Bwrpas a Gwerthoedd
Pwrpas Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam yw gweithio gyda phobl ifanc a’u teuluoedd, dioddefwyr, a chymdogaethau, gan ddarparu ymyriaethau strwythuredig wedi eu hanelu at ataliad, ailsefydlu a’r rhesymau dros droseddu o fewn sir Gymreig Wrecsam gan ostwng effaith, ofn a maint troseddu.
Yn ymlafnio bob amser i ddarparu’r gwasanaeth mwyaf proffesiynol, aml-ddisgyblaethol gorau, yn ymroddedig i arfer arloesol ac effeithiol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac yn wrth-wahaniaethol.
Cysylltiadau Perthnasol
Y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid
Mae Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr (YJB) yn goruchwylio’r system cyfiawnder ieuenctid.
Crime Reduction
Providing information and
resources for people working
to reduce crime in their
local area.
Manylion Cyswllt
Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam
Uned 21 Ystad Ddiwyddiannol Whitegate
Wrecsam
LL13 8UG
Ffôn: 01978 268140
Ffacs:01978 268169
Ebost: youthjusticeService@wrexham.gov.uk
Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?
|