Cefnogi Myfyrwyr 2008/2009
Beth rydym ni'n ei wneud
Lleolir Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Wrecsam yn Nhŷ Henblas, Sgwâr y Frenhines, Wrecsam, LL13 8AZ.
Rydym yn gyfrifol am asesu p’un a yw myfyrwyr sydd fel arfer yn byw yn ardal yr Awdurdod ac sy’n mynychu colegau a phrifysgolion ledled y Deyrnas Unedig yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol a faint o gymorth ariannol y gallant ei hawlio.
Ein prif ddiben yw sicrhau eich bod yn derbyn yr holl gymorth a chyngor sydd eu hangen arnoch i sicrhau bod eich cyfnod mewn addysg uwch mor ddidrafferth â phosibl.
Mae’r staff Cefnogi Myfyrwyr yn ymweld ag ysgolion yn y fwrdeistref sirol ac yn mynychu cynadleddau gyrfaoedd (UCAS) ac unrhyw ddigwyddiadau a drefnir yn Wrecsam i gynnig cyngor a chyfarwyddyd.
Sut i gysylltu â ni
Ebost: studentsupport@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 297406
Ffacs: 01978 297501
Cyfeiriad:
Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr
Tŷ Henblas
Sgwâr y Frenhines
Wrecsam LL13 8AZ
Pwysig, sylwch os gwelwch yn dda : byddwn yn ymdrin â phob cyfathrebiaeth o bob cyfrwng yn ôl eu trefn gronolegol gan ddibynnu ar y dyddiad a’r amser y’i derbyniwyd.
yn ôl i'r brig
Sut a phryd i wneud cais
Myfyrwyr sy’n gwneud cais am y tro cyntaf
Dylai myfyrwyr sy’n gwneud cais am y tro cyntaf gyflwyno’r cais i’r Awdurdod Addysg Lleol sy’n gyfrifol am yr ardal y maent yn byw ynddi ar adeg gwneud y cais, oni bai eu bod wedi symud i’r ardal honno er mwyn astudio’n unig.
Dylech gyflwyno cais i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam os ydych chi neu’ch rhieni / gwarcheidwaid neu briod yn talu Treth y Cyngor i’r Awdurdod hwn.
Os ydych yn mynychu ysgol yn Wrecsam, bydd ffurflenni PN1 ar gael yn eich ysgol o ddechrau mis Ebrill.
Os nad ydych chi’n byw yn Wrecsam ar hyn o bryd ond yn teimlo mai ni yw’r Awdurdod perthnasol, ffoniwch ni ar un o’r rhifau a roddwyd yn flaenorol i drafod eich achos ac i gael ffurflen PN1.
Myfyrwyr sy’n parhau â’u cyrsiau
Byddwch yn derbyn ffurflen gais PR1/PR1a ffel mater o drefn, cyn belled â’ch bod wedi nodi hyd eich cwrs yn gywir ar ffurflenni blaenorol. Fodd bynnag, os ydych yn dechrau cwrs newydd eleni, bydd angen i chi lenwi PN1 a ffurflen Newid Amgylchiadau. Bydd hyn yn sicrhau bod manylion y cwrs cywir gennym.
yn ôl i'r brig
Pa gyrsiau sy’n gymwys i dderbyn cymorth ariannol i fyfyrwyr?
Cynigir cymorth ariannol i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr ar gyrsiau penodedig gan gynnwys y canlynol:
- Gradd gyntaf mewn prifysgol neu athrofa addysg uwch yn y Deyrnas Unedig.
- Diploma Addysg Uwch.
- Rhai Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch.
- Cymwysterau dysgu dechreuol gan gynnwys Tystysgrif Addysg Ôl-raddedig neu gyrsiau dysgu ôl-raddedig eraill sydd naill ai’n llawn amser neu’n rhan-amser.
- Gall cyrsiau eraill fod yn gymwys os ydynt wedi’u dynodi’n benodol fel rhai sy’n gyfatebol i gyrsiau gradd gyntaf gan yr Adran Addysg a Sgiliau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch pa gyrsiau sy’n gymwys i dderbyn cymorth ariannol i fyfyrwyr, mae pob croeso i chi gysylltu â ni trwy unrhyw un o’r dulliau a nodwyd yn flaenorol. Sicrhewch fod gennych fanylion llawn y cwrs gan gynnwys y côd UCAS. Gellir dod o hyd i hwn yn www.ucas.com
yn ôl i'r brig
Amserlen ar gyfer Ceisiadau am Gymorth Ariannol i Fyfyrwyr 2008 / 2009
Rhaid i chi gadw at y dyddiadau isod os ydych am dderbyn rhandaliad cyntaf eich cymorth ariannol ar ddechrau eich cwrs. Os nad ydych yn llenwi’r ffurflenni’n glir neu’n gyflawn, neu os nad ydych yn darparu’r holl dystiolaeth sydd ei hangen, bydd hyn yn arwain at oedi gydag unrhyw daliad.
25 Ebrill 2008
Ni fydd angen i ymgeiswyr newydd a myfyrwyr sy’n parhau â’u cyrsiau sy’n dewis yr elfen gymorth ariannol nad yw’n destun prawf moddion lenwi’r manylion ariannol ar eu ffurflen PN1/PR1.
23 Mai 2008
Rhaid i fyfyrwyr sy’n parhau â’u cyrsiau ddychwelyd y ffurflen gais ariannol PR1 gan gwblhau’r holl rannau perthnasol, ac os ydynt am gael asesiad llawn, dylid darparu’r dogfennau angenrheidiol i gadarnhau’r incwm.
27 Mehefin 2008
Rhaid i ymgeiswyr blwyddyn gyntaf ddychwelyd y ffurflen PN1 wedi’i llenwi’n gywir ac yn gyflawn i’r swyddfa hon ynghyd â’r holl ddogfennau ategol sydd eu hangen.
Fel rheol, ni fydd eich cais yn cael ei dderbyn os byddwch yn ei gyflwyno fwy na 4 mis ar ôl i'r flwyddyn academaidd ddechrau. Sicrhewch eich bod yn pwyso'r ffurflen mewn Swyddfa Bost ac yn rhoi digon o stampiau ar yr amlen i dalu'r costau postio i'w dychwelyd atom.
Cefnogi Myfyrwyr a Mentrau Rhwystro Twyll
Mae Cynulliad Cymru wedi cyflwyno nifer o fesurau i leihau'r perygl o dwyll sy’n gysylltiedig â dogfennau prawf adnabod sydd wedi'u dwyn neu sy'n ffug. Bellach rhaid i dystysgrifau geni gael eu cyflwyno gyda Ffurflenni Tystysgrif Geni / Mabwysiadu wedi'u cwblhau gan drydydd unigolyn sy'n gallu cadarnhau pwy ydynt. Rhaid i'r trydydd unigolyn hwn fod yn 'unigolyn uchel ei barch' megis gweithiwr proffesiynol, gwas sifil, athro/athrawes dosbarth neu rywun uchel ei barch yn y gymuned.
Anfonwch y ffurflen wedi'i chwblhau atom ynghyd â'ch tystysgrif geni. Fel arall, gallwch ddefnyddio eich pasport fel tystiolaeth; gallwch ddod ag ef i'r swyddfa i'w lungopïo os dymunwch.
Ar ddechrau eich cwrs
Os ydych wedi cadw at y dyddiadau uchod ac nad yw manylion a roddwyd mewn perthynas â lleoliad eich cwrs wedi newid, dylai taliad cyntaf yr arian y mae gennych hawl i’w dderbyn gael ei drosglwyddo i’ch cyfrif banc yn fuan ar ôl i chi gofrestru yn eich coleg/prifysgol. Rhaid i chi fod â chyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu y gellir trosglwyddo rhandaliadau iddo’n electronig.
Bydd yr Awdurdod yn ymdrin â’r Lwfans Myfyriwr Anabl a/neu daliadau cymorth costau teithio ar wahân ac yn rhoi gwybod i chi am eich hawl i dderbyn taliadau a’r dull talu faes o law.
yn ôl i'r brig
Beth i’w wneud ar ôl i chi gael eich canlyniadau Lefel "A" ym mis Awst
Wrth anfon eich ffurflen gais byddwch wedi darparu manylion eich coleg a’ch cwrs dewisol. Pan fyddwch yn derbyn eich canlyniadau Lefel "A" mae’n bosibl y byddwch am ofyn rhai cwestiynau neu roi gwybod i ni am rai newidiadau.
Isod, rhestrir rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin ynghyd â’u hatebion, a allai roi’r cyngor sydd ei angen arnoch.
Dw i wedi cael y canlyniadau yr oedd eu hangen arnaf ac rydw i am fynychu’r cwrs yn y coleg / brifysgol a nodwyd ar fy ffurflen gais. Beth sydd angen i mi ei wneud?
Dim, ni fydd angen newid y manylion ar eich ffurflen Hysbysiad Ariannol na’ch Cais am Fenthyciad.
Mae’n rhaid i mi fynd trwy’r system "glirio". Beth sydd angen i mi ei wneud?
Ar ôl i chi dderbyn lle’n bendant, rhaid i chi roi’r manylion newydd i ni. Rhaid i chi gwblhau’r ffurflen "CO1", sydd ar gael gan Student Loans Company neu ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru a’i dychwelyd atom ar fyrder.
Dw i ddim am fynd i’r coleg / brifysgol a nodwyd ar fy ffurflen gais. Beth ddylwn ei wneud?
Rhaid i chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen "CO1" sydd ar gael gan Student Loans Company neu ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Dw i am newid cwrs ond yn yr un coleg / brifysgol a nodwyd ar fy ffurflen gais. Beth ddylwn ei wneud?
Rhaid i chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen "CO1" sydd ar gael gan Student Loans Company neu ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Dw i wedi dewis peidio â mynd i’r coleg / brifysgol eleni. Beth ddylwn ei wneud?
Rhaid i chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen "CO1" sydd ar gael gan Student Loans Company neu ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Pryd fyddaf yn derbyn rhandaliad cyntaf fy menthyciad?
Os ydych wedi cadw at yr holl ddyddiadau cau h.y. bod eich ffurflen PN1 wedi’i derbyn erbyn 27 Mehefin a’ch ffurflen PR1 erbyn 23 Mai, dylai’r rhandaliad cyntaf gael ei drosglwyddo i’ch cyfrif banc yn fuan ar ôl i’ch cwrs ddechrau.
Os bydd angen ffurflen Newid mewn Amgylchiadau "CO1" neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, mae pob croeso i chi ffonio’r Swyddfa Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr ar 0845 602 8845.
yn ôl i'r brig
Pa gymorth sydd ar gael i ymgeiswyr newydd?
Gweler wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru am fanylion.
Pwy sy’n fyfyriwr annibynnol?
Rydych yn fyfyriwr annibynnol os ydych yn bodloni unrhyw un o’r amodau canlynol:
- Rydych wedi cynnal eich hunan am o leiaf dair blynedd cyn dechrau’r flwyddyn academaidd.
- Rydych yn 25 oed neu’n hŷn cyn dechrau’r flwyddyn academaidd yr ydych yn gwneud cais ar ei chyfer;
- Rydych yn briod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd yr ydych yn gwneud cais am gefnogaeth ar ei chyfer - bydd angen i chi ddangos eich tystysgrif priodas;
- Nid yw eich rhieni’n fyw;
- Rydych yn fyfyriwr llawn amser sy’n gofalu am blentyn neu blant ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd yr ydych yn gwneud cais ar ei chyfer.
- Ymddieithrio – Os ydych eisiau hawlio statws annibynnol oherwydd nad oes cyswllt rhyngoch a’ch rhieni, rhaid i chi gyflwyno cadarnhad gan unigolyn annibynnol o’r tu allan i’ch teulu sy’n gwybod am eich amgylchiadau. Am fwy o fanylion ffoniwch y rhif ffôn a roddwyd eisoes er mwyn trafod eich achos.
yn ôl i'r brig
Cyfraddau benthyciadau i fyfyrwyr
Mae’r swm y mae gennych hawl i’w dderbyn yn dibynnu ar nifer o ffactorau:
- Y cwrs yr ydych yn ei astudio;
- Lle yr ydych yn byw yn ystod y tymor academaidd;
- Lleoliad y coleg / brifysgol y byddwch yn ei fynychu/mynychu;
- Ar ba flwyddyn o’ch cwrs yr ydych arni ar hyn o bryd
Am gyfraddau presennol a manylion pellach, ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Gwybodaeth am gefnogaeth ychwanegol:
Bwrsariaethau
Bwrsariaethau Colegau / Prifysgolion
Cymorth ariannol ychwanegol a roddir i fyfyrwyr y coleg neu brifysgol y byddwch yn ei fynychu yw bwrsariaethau.
Bydd Cynllun Bwrsariaeth Cenedlaethol yn gweithredu ar gyfer myfyrwyr mewn Addysg Uwch yng Nghymru. Mae mwy o fanylion ar gael ar dudalen gartref Cynllun Bwrsariaeth Cymru.
Os ydych yn astudio yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon, ac mae gofyn i chi dalu y ffi dysgu llawn o £3,145, ac rydych yn gymwys i dderbyn Grant Dysgu llawn y Cynulliad o £2,835, gallwch hefyd dderbyn bwrsariaeth o £310 gan eich coleg neu brifysgol. Bydd eich coleg neu brifysgol yn gallu rhoi manylion pellach.
Gwybodaeth bellach
Mae gan www.support4learning.org.uk gronfa ddata o ysgoloriaethau, bwrsariaethau, grantiau ac ymddiriedolaethau addysgol ac elusennol ynghyd â rhestrau o wybodaeth am gyllid i fyfyrwyr.
Llyfrau defnyddiol:
University Scholarships and Awards, Brian Heap, £22.99 o www.ucasbooks.co.uk:
Mae gan www.everythingyouwantedtoknow.com arolwg o’r cwmnïau sy’n cynnig nawdd a lleoliadau ac maent yn cyhoeddi Everything You Wanted to Know About Sponsorship, Placements and Graduate Opportunities (£15.95 gan gynnwys costau postio a phecynnu).
Oherwydd natur y dudalen hon, gallai rhai cysylltiadau ymddangos yn Saesneg.
|