Canllaw i Rieni / Warcheidwaid
Mae'r dudalen hon wedi ei hysgrifennu fel canllaw
i rieni/gwarcheidwaid sy'n ystyried addsysg feithrin ar gyfer eu plentyn/plant.
Y cwestiynau canlynol yw'r cwestiynau a ofynnir fwyaf aml gan rieni. Hyderwn
y bydd y dudalen hon yn ddefnyddiol. Os bydd angen cyngor neu wybodaeth
bellach arnoch, cysylltwch â chyfeiriad y Swyddfa Derbyniadau isod.
Pa oed all fy mhlentyn ddechrau addysg feithrin yn yr ysgol?
Gall plant ddechrau yn yr ysgol geithrin yn y mis Medi sy'n dilyn eu pen-blwydd
yn 3 oed. Mae ysgol feithrin yn bump sesiwn hanner diwrnod yr wythnos.
Mae rhai ysgolion yn cynnig sesiynau bore ac eraill sesiynau prynhawn.
Sut wyr yn cofrestru fy mhlentyn yn yr ysgol?
Cysylltwch â'r Awdurdod Addysg Lleol (AALl) a fydd yn esbonio're
gweithdrefnau ac yn anfon ffurflen derbyniadau atoch. Gellir gofyn i chi
ddarparu dogfennaeth swyddogol sy'n dangos dyddiad geni eich plentyn.
Bydd ffurflenni ar gael gan bob ysgol feithrin/babanode/cynradd ar ôl
y gwyliau Nadolig cyn y mis Medi pan fydd y plentyn yn gymwys i ddechrau
yn yr ysgol.
A allaf ddewis ysgol ar gyfer fy mhlentyn?
Gall rhieni fynegi dewis am unrhyw ddarpariaeth feithrin ar gyfer eu plentyn.
Bydd yr Awdurdod Derbyniadau yn ceisio cydymffurfio â'r dewis hwm.
Ond, os bydd nifer y deisiadau yn fwy na nifer y lleoedd ar gael yn yr
ysgol, mae'r Awdurdod yn defnyddio ei feini prawf gormod o geisiadau cyhoeddedig
i ddosrannu'r lleoedd. Mae hym yn rhoi blaenoriaeth i'r plant hynny sy'n
byw agosaf at yr ysgol; y rhai sydd â brodyr/chwiorydd eisoes yn
yr ysgol; a'r plant hynny â fogynion arbenning y gellir eu diwallu
yn yr ysgol honno yn unig.
Sut wyf yn gwybod pa ysgol i'w dewis?
Mae rhestrau o ysgolion ym mhob llyfrgell leol (gofynnwch am y 'Canllaw
Rhieni i Addysg').
Os nad yw fy mhlentyn yn siarad Cymraeg ac ni siaredir
Cymraeg gartref, a all ef/hi fynd i ysgol feithrin cyfrwng Cymraeg?
Gall, mae llawer o blant o deuluoedd sy'n siarad Saesneg yn mynd i addysg
cyfrwng Cymraeg are lefel feithrin. Er eu bod yn dechrau heb fod yn gallu
siarad Cymraeg o gwbl, maent yn cael eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac
yn dysgu'r iath yn gyflywm iawn. Mae mwyafrif y plant hym yn parhau mewn
addysg cyfrwng Cymraeg ac yn perfformion cystal â phlant sy'n siarad
Cymraeg yn naturiol mewn TASau a TGAU/CGCC.
Beth os nad yw fy mhlentyn yn siarad Saesneg?
Mae gweithgareddau meithrin yn darparu cyfleoedd arddechog i ddatblygu
iath. Bydd eich plentyn yn dysgu Saesneg drwy chwarae strwythuredig. Cofiwch
fod eich pletyn yn dal i ddatblydu ei h/iaith gyntaf yn dair oed. Mae'n
bwysid eich bod yn parhau i gynnal iaith eich aelwyd. Bydd hyn yn helpu
eich plentyn i ddysgu Saesneg yn gyflymach a bydd o fudd i ddysgu yn gyffredinol.
A allaf gael cludiant i fynd â'm plentyn i'r
ysgol feithrin?
Na, nid yw disgyblion meithrin yn gymwys i gael cludiant ysgol am ddim.
 phwy ddylwn gysylltu ag ymholiadau a chyngor
pellach a ffurflenni derbyniadau?
Swyddog Derbyniadau,
Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc,
Tŷ Henblas,
Sgwâr y Frenhines,
Wrecsam,
LL13 8AZ.
Ffôn: 01978 297568 / 297569 |