Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol Addysg

 

Datganiad Polisi

Mae gan bob plentyn sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam hawl i gael budd o’r cyfleoedd addysg a ddarperir gan y Fwrdeistref er mwyn iddynt gyrraedd eu llawn botensial.  I wneud hyn, bydd y Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol Addysg yn darparu gwaith cymdeithasol proffesiynol ac o ansawdd i bobl ifanc, teuluoedd ac ysgolion.

Cred y Gwasanaeth fod plant a phobl ifanc yn unigolion ac â’r hawl i gyfle cyfartal, beth bynnag fo’u gallu, hil, diwylliant, crefydd, rhyw, cyfeiriad rhywiol neu gefndir cymdeithasol.

Mae’r Gwasanaeth yn cydnabod bod angen gwahaniaethu cadarnhaol ar bobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig (AAA) a theuluoedd sy’n gymdeithasol amddifadus, ar adegau.

Mae gan y Gwasanaeth ddyletswydd i weithio ar y cyd ag asiantaethau eraill i gefnogi pobl ifanc gan bwysleisio’n benodol ar faterion diogelu plant.  Mae’n ymroddedig i weithio o fewn canllawiau’r ddogfen Fframwaith Asesu Plant mewn Angen.

Cynigiwn wasanaeth sy’n gweithredu o fewn y fframwaith cyfreithiol a’r polisïau a fabwysiadwyd gan CBSW er mwyn darparu addysg gynhwysol sy’n ystyried lles a diogelwch plant.

 
English
 

Cyswllt i

Dyddiadau Tymor
Cysylltiadau Addysg
Dychwelyd i Dudalen Gynnwys Addysg
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint