Prydau Ysgol am Ddim

Gwybodaeth Bwysig i Rieni/Gwarcheidwaid.

Ydw I'n Gwmwys i dderbyn Prydau Ysgol Am Ddim ar Gyfer fy Mhlant?

DIM OND os oes gennych chi (neu eich partner) hawl i, ac os ydych ar hyn o bryd yn derbyn ATEGIAD INCWM, LWFANS CEISWYR GWAITH A SEILIWYD AR INCWM, CREDYD TRETH PLENTYN ag incwm sy’n llai na’r isafswm gosodedig, ond nid os ydych yn derbyn Credyd Treth Gwaith neu LWFANS MEWNFUDO A CHEISWYR NODDFA.
YN GYFREITHIOL, nid oes un math arall o fudd-dâl nac incwm yn gymwys.

yn ôl i'r brig

Sut Ydw I'n Gwmeud Cais?

Drwy gwblhau’r ffurflen gais atodedig a dod â hi i’r Gwasanaethau Cefnogi yn y cyfeiriad uchod, lle bydd yn cael ei phrosesu, ar yr amod y dangosir eich rhif Ywiriant Gwladol yn Rhan 1 ac yr atodir prawf o hawl yr ymgeisydd. Mae’n rhaid i dystiolaeth ddangos enw a rhif Y.G. yr hawliwr, ynghyd â’r math o fudd-dâl a dderbynnir â dyddiad cyfredol. Os na fyddwch yn ailgeisio mewn da bryd, bydd yn rhaid i chi dalu am gost lawn unrhyw brydau ysgol a gaiff eich plentyn(plant) o’r dyddiad y daeth eich budd-dâl i ben.

(Noder: Dangosir eich rhif Yswiriant Gwladol (rhif Y.G.) ar yr holl lythyrau a dderbyniwch gan yr Asiantaeth Fudd-daliadau neu gellir ei gael o’r swyddfa honno.)

Gall yr Awdurdod ofyn i’r Asiantaeth Fudd-daliadau ynghylch y budd-dâl a dderbynnir gennych.

yn ôl i'r brig

Beth I'w Wneud os Daw Fy Hawl I Fudd-daliadau I Ben?

Eich cyfrifoldeb chi yw dweud wrth y Gwasanaethau Cefnogi ar unwaith pan ddaw eich budd-dâl i ben. Os na fyddwch yn rhoi gwybod i ni, bydd yn rhaid i chi dalu am gost lawn unrhyw brydau ysgol a gaiff eich plentyn(plant) o’r dyddiad y daeth eich budd-dâl i ben.

Os oes angen gwybodaeth neu gymorth pellach arnoch i gwblhau’r ffurflen gais hon am brydau ysgol am ddim, mae croeso i chi gysylltu â Mrs C Pugh ar y rhif ffôn uchod. Bydd hi’n falch i drafod eich cais â chi – yn gyfrinachol – a dweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud.

Anfonwch unrhyw lythyrau ynghylch prydau ysgol am ddim i’r: Gyfarwyddiaeth Addysg a Gwasanaethau Hamdden, Gwasanaethau Cefnogi, Tŷ Henblas, Sgwâr y Frenhines, Wrecsam LL13 8AZ

yn ôl i'r brig

Ffurflen Gais ar Gyfer Prydau Ysgol am Ddim

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Ffurflen Gais ar Gyfer Prydau Ysgol am Ddim - fersiwn Word 43Kb

Ffurflen Gais ar Gyfer Prydau Ysgol am Ddim - fersiwn PDF 20Kb

Ffurflen Gais ar Gyfer Prydau Ysgol am Ddim - fersiwn RTF 61Kb

Ffurflen Gais ar Gyfer Prydau Ysgol am Ddim (Polish)

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Ffurflen Gais ar Gyfer Prydau Ysgol am Ddim (Polish) - fersiwn Word 61Kb

Ffurflen Gais ar Gyfer Prydau Ysgol am Ddim (Polish) - fersiwn PDF 59Kb

Ffurflen Gais ar Gyfer Prydau Ysgol am Ddim (Polish) - fersiwn RTF 194Kb

Ffurflen Gais ar Gyfer Prydau Ysgol am Ddim (Portuguese)

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Ffurflen Gais ar Gyfer Prydau Ysgol am Ddim (Portuguese) - fersiwn Word 60Kb

Ffurflen Gais ar Gyfer Prydau Ysgol am Ddim (Portuguese) - fersiwn PDF 42Kb

Ffurflen Gais ar Gyfer Prydau Ysgol am Ddim (Portuguese) - fersiwn RTF 209Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word

yn ôl i'r brig