Swyddi Arlwyo

Ceiswyr Gwaith

Pen-cogydd(es)

A oes gennych chi awch am fwyd a brwdfrydedd i ddarparu diet iach a chytbwys i blant?

Mae rhai swyddi gwag yn ardal Wrecsam ar gyfer Cogyddion cymwysedig mewn nifer fechan o ysgolion cynradd. Telir cyfradd o £7.10 yr awr ac mi fyddai hyn yn ystod y tymor yn unig.

Ceir cyfleoedd i gwblhau hyfforddiant a datblygiad pellach yn y gwasanaeth prydau ysgol, ac os oes gennych blant ifanc mae’r oriau gwaith yn gyfleus i deuluoedd.

Os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch, ffoniwch Denise Bartley ar 01978 297486.

Cynorthwywyr Arlwyo Wrth Gefn

Ydych chi’n chwilio am waith rhan-amser a fydd yn gyfleus o ran amserlen brysur eich teulu?

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn chwilio am Gynorthwywyr Arlwyo Wrth Gefn i weithio yn y gwasanaeth prydau ysgol. Telir cyfradd o £6.38 yr awr ac mae’r swyddi ar gael yn ystod y tymor yn unig.

Os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch, ffoniwch Denise Bartley ar 01978 298746.

yn ôl i'r brig