Gwybodaeth i ddisgyblion ysgol uwchradd newydd a rhieni
Mae’r ysgol uwchradd y bydd eich plentyn yn ei mynychu’n gweithredu gwasanaeth bwyta di-arian â cherdyn. Rheolir y system hon gan y dechnoleg ddiweddaraf, sy’n osgoi’r angen i gario arian parod. Bydd pob disgybl yn derbyn cerdyn unigryw ym mis Medi. Ni fydd gwerth ariannol y cerdyn yn cael ei storio arno ar unrhyw adeg.
Rhai cwestiynau poblogaidd a’r atebion
Sut ydw i’n credydu’r cerdyn?
A allaf barhau i dalu â siec?
Pryd allaf ddefnyddio’r peiriant adbrisio?
Sut ydw i’n gwirio os oes gennyf gredyd ar fy ngherdyn?
Sut ydw i’n gwybod na fydd yr holl arian yn y cyfrif yn cael ei wario mewn un diwrnod?
Mae gennyf hawl i gael pryd ysgol am ddim, sut mae hyn yn gweithio?
Beth sy’n digwydd os nad yw’r lwfans am bryd bwyd am ddim wedi’i gredydu i’r cerdyn?
Pa wybodaeth sydd ar gael ar gyfrif fy mhlentyn?
Beth sy’n digwydd os ydw i’n colli fy ngherdyn?
A all unrhyw un arall ddefnyddio fy ngherdyn?
Beth os nad ydych wedi tynnu llun ohonaf ar gyfer y cerdyn?
Beth sy’n digwydd os ydw i’n anghofio’r arian i gredydu fy ngherdyn?
Pa mor hir y disgwylir i’r cerdyn bara?
Ydw i’n cael dweud fy marn am beth mae fy mhlentyn yn ei fwyta?
Sut ydw i’n credydu’r cerdyn?
Gellir gwneud hyn mewn 2 ffordd:
Gyda siec sy’n golygu nad oes raid i ddisgyblion gario unrhyw arian parod. Gwnewch sieciau’n daladwy i CBSW gan roi manylion eich cerdyn banc, enw’r disgybl a’i (d)dosbarth ar gefn y siec. Rhowch y siec yn y blwch yn yr ystafell fwyta.
Gydag arian parod gan ei roi i mewn i’r peiriannau adbrisio yn yr ysgol. Mae’r rhain yn derbyn papurau £5 a £10 a darnau £2, £1, 50c, 20c a 10c - nid ydynt yn derbyn darnau 5c nac arian cochion.
Nid oes unrhyw isafswm nac uchafswm y mae’n rhaid ei gredydu i’r cyfrif cyn y gellir ei ddefnyddio. Fodd bynnag, rhaid i’r cerdyn fod mewn credyd i brynu bwyd.
yn ôl i'r brig
A allaf barhau i dalu â siec?
Rydym yn annog sieciau gan eu bod yn golygu nad oes raid cario unrhyw arian parod. Gwnewch sieciau’n daladwy i CBSW ac NID i’r ysgol. Mae talu â siec yn golygu eich bod yn gwybod bod yr arian yn cael ei wario ar fwyd a diod yn yr ysgol.
yn ôl i'r brig
Pryd allaf ddefnyddio’r peiriant adbrisio?
Cyn y gloch 1af yn y bore, yn ystod egwyl y bore ac amser cinio. Cofiwch gredydu’ch cerdyn cyn prynu bwyd.
yn ôl i'r brig
Sut ydw i’n gwirio os oes gennyf gredyd ar fy ngherdyn?
Rhowch y cerdyn yn y peiriant adbrisio a bydd hyn yn rhoi balans eich cyfrif i chi.
yn ôl i'r brig
Sut ydw i’n gwybod na fydd yr holl arian yn y cyfrif yn cael ei wario mewn un diwrnod?
Mae terfyn gwario dyddiol o £3.50 y gellir ei addasu drwy roi gwybod i’r
pen-cogydd(es) yn ysgrifenedig gan ddefnyddio’r ffurflen atodedig.
yn ôl i'r brig
Mae gennyf hawl i gael pryd ysgol am ddim, sut mae hyn yn gweithio?
Bydd y lwfans yn cael ei gredydu i’ch cyfrif cyn amser cinio i’ch caniatáu i brynu eich pryd bwyd. (Ni fydd y lwfans hwn yn gael ei gario i’r diwrnod olynol os na chaiff ei ddefnyddio). Os ydych am brynu bwyd neu ddiod yn ystod amser egwyl, bydd angen i chi gredydu eich cerdyn gydag arian parod neu siec. (Caiff hyn ei gario i’r diwrnod olynol os na chaiff ei ddefnyddio).
yn ôl i'r brig
Beth sy’n digwydd os nad yw’r lwfans am bryd bwyd am ddim wedi’i gredydu i’r cerdyn?
Rhowch wybod i’r cogydd ar unwaith, a fydd yn gwirio gyda’r brif swyddfa:
- I gadarnhau os ydych yn dal yn gymwys i gael pryd am ddim
- Os ydych, bydd balans eich cerdyn yn cael ei newid
- Os nad ydych, bydd angen i chi gredydu eich cerdyn nes i’r ffurflen gael ei chwblhau a’i chymeradwyo gan y prif swyddfa yn Nhŷ Henblas.
yn ôl i'r brig
Pa wybodaeth sydd ar gael ar gyfrif fy mhlentyn?
Mae adroddiadau wythnosol ar gael ar y fantolen ac mae disgrifiadau o’r bwydydd a brynwyd ar gael i’w casglu o swyddfa’r cogydd (yn anffodus, nid oes gwasanaeth post ar gael). Rydym yn datblygu cyfleuster e-bost ar gyfer yr adroddiadau hyn ar hyn o bryd, a bydd hwn ar gael yn 2005. Os ydych am gael y newyddion diweddaraf am y cyfleuster hwn, cwblhewch y ffurflen atodedig.
yn ôl i'r brig
Beth sy’n digwydd os ydw i’n colli fy ngherdyn?
Rhowch wybod i’r cogydd ar unwaith. Byddwch yn derbyn rhif i’ch caniatáu i ddefnyddio/gredydu’r cerdyn y diwrnod hwnnw. Codir tâl o £2 ar y sawl sydd piau’r cerdyn am un newydd.
yn ôl i'r brig
A all unrhyw un arall ddefnyddio fy ngherdyn?
Na - mae gan bob cerdyn rif cyfresol unigryw a llun o’r disgybl sy’n ymddangos ar y system. Bydd y staff arlwyo’n rhoi gwybod i’r ysgol am unrhyw un sy’n ceisio defnyddio cerdyn rhywun arall.
yn ôl i'r brig
Beth os nad ydych wedi tynnu llun ohonaf ar gyfer y cerdyn?
Byddwn yn tynnu lluniau disgyblion newydd yn ystod wythnosau cyntaf y tymor.
yn ôl i'r brig
Beth sy’n digwydd os ydw i’n anghofio’r arian i gredydu fy ngherdyn?
Bydd raid i chi weld aelod o staff a fydd yn awdurdodi taliad i dalu cost y pryd bwyd – RHAID talu’r arian hwn yn ôl yn llawn y diwrnod canlynol.
yn ôl i'r brig
Pa mor hir y disgwylir i’r cerdyn bara?
Dylai bara o leiaf 3 blynedd os yw’n cael ei gadw yn y daliwr a ddarperir.
COFIWCH, BYDD RAID I CHI DALU £2 I AMNEWID CARDIAU SYDD WEDI’U DIFRODI.
yn ôl i'r brig
Ydw i’n cael dweud fy marn am beth mae fy mhlentyn yn ei fwyta?
Mae gan y system gyfleuster blocio sy’n nodi unrhyw eitemau nad yw’r plentyn yn cael eu bwyta, boed hynny trwy ddewis neu oherwydd anghenion dietegol. Mae angen i riant/warcheidwad gadarnhau hyn yn ysgrifenedig.
yn ôl i'r brig
Gwasanaeth Bwyta Di-arian â Cherdyn - Ffurflen
Yn anffodus, nid yw'r dogfen yma ar gael yn Gymraeg.
Mae’r ddogfen hon ar gael i’w lawrlwytho ar y ffurf ganlynol:
Gwasanaeth Bwyta Di-arian â Cherdyn - Ffurflen - Fersiwn Word 43Kb 
Gwasanaeth Bwyta Di-arian â Cherdyn - Ffurflen - Fersiwn PDF 74Kb 
Gwasanaeth Bwyta Di-arian â Cherdyn - Ffurflen - Fersiwn RTF 84Kb 
Os bydd angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch, ffoniwch yr Adran Addysg ar 01978 294791.
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe. |
|
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

|
|