Cyfarwyddyd ysbrydoledig
Mae GCeD Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn cael ei ddatblygu drwy bartneriaeth unigryw sy'n cynnwys holl AauALl Cymru, CBAC, learnthings ltd a BT a gellir cael mwy o fanylion ar www.ngfl-cymru.org.uk
Amcan y prosiect yw cynnig ystod ymarferol a defnyddiol o adnoddau dysgu ac addysgu TGC, deunyddiau cefnogi a gwybodaeth i ysgolion, athrawon a disgyblion. Athrawon sy'n ysgrifennu adnoddau GCeD Cymru ar gyfer athrawon ac ag anghenion disgyblion mewn golwg. Mae'r flaengaredd hon yn rhoi cyfle gwerthfawr i ni yng Nghymru ddatblygu gwefan ddwyieithog sy'n cefnogi llawer o agweddau'r Cwricwlwm Cymreig.
Mae meysydd allweddol y ddarpariaeth yn perthyn i (cliciwch ar y cysylltiadau i weld enghreifftiau):
Mynediad am ddim i adnoddau dysgu ac addysgu ar-lein sy'n addas ar gyfer pob ystod oed
Adnoddau bywiog a diddorol a gategoreiddir yn ôl cyfnod allweddol a phwnc
Adnoddau bwrdd gwyn rhyngweithiol
Cynlluniau gwersi a thaflenni gwaith
Adnoddau sy'n cefnogi'r Cwricwlwm Cymreig
Enghreifftiau o arfer da
Adnoddau yn Saesneg, Cymraeg ac yn ddwyieithog
Ar y cyd â:
Cysylltiadau â gwefannau addysg defnyddiol
Fforymau cynadledda a thrafod ar-lein
Cronfa ddata o holl ysgolion Cymru
A gwybodaeth:
Am flaengareddau cenedlaethol
Ar gyfer rhieni
Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn a fydd yn sicrhau y gall holl ddisgyblion Cymru gael budd o ddatblygiad technoleg yn y dosbarth.
Os hoffech fwy o wybodaeth neu os hoffech wneud unrhyw sylwadau, cysylltwch ag info@ngfl-cymru.org.uk neu ffoniwch 029 20265177.
Cofiwch mai chi sy'n berchen ar GCeD Cymru - ewch i www.ngfl-cymru.org.uk i wybod mwy.
|