Ydych chi'n gyflogwr?
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC), trwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop (CGE), yn darparu cyllid i ITeC Wrecsam i hyfforddi pobl gyflogedig mewn ystod o feysydd galwedigaethol, heb unrhyw gost uniongyrchol i chi na’ch gweithiwr (yn amodol ar gymhwysedd).
Bydd gweithwyr sy’n cael eu hannog a’u cefnogi gan eu cyflogwyr i wella eu cymwysterau yn fwy cymelliadol ac mae canlyniadau’n dangos y cyflawnir allbynnau uwch a gwell safonau gwaith.
Gall ITeC Wrecsam helpu’ch gweithwyr i ennill CGCau lefelau 2 a 3 yn y meysydd canlynol – Busnes a Gweinyddiaeth, Gwasanaethau Cwsmer, Technoleg Gwybodaeth ac Arwain Timau (Lefel 2 yn unig), trwy eu cofrestru fel Prentisiaid Modern – Sylfaenol neu Uwch.
Bydd y gweithwyr yn ennill fframweithiau CGC trwy gasglu tystiolaeth o fedrusrwydd yn y gweithle yn erbyn cyfres o safonau cenedlaethol cydnabyddedig. Byddant yn cael cymorth un o hyfforddwyr/aseswyr ITeC Wrecsam a fydd yn ymweld â’u gweithle ac yn gweithio gyda’r gweithwyr. Ychwanegir at y fframweithiau â Sgiliau Allweddol a naill ai Llyfrau Gwaith neu Dystysgrifau Technegol. Byddai disgwyl i’r gweithiwr fynd i ITeC Wrecsam 1 diwrnod y mis ar gyfartaledd. Mae’n cymryd rhwng 12 a 36 mis i ennill cymhwyster CGC.
Mae ITeC Wrecsam yn rhan o Adran Datblygiad Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac, ynghyd â LlCC, rydym yn ymroddedig i hyfforddi’r gweithlu lleol.
|