|
20.06.08
EISIN AR Y GACEN!
Mae Kayleigh Haycock weithgar wedi cwblhau'r Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Manwerthu Lefel 2 yn llwyddiannus gydag ITeC Wrecsam tra’n gyflogedig gan ‘Ecclestons Confectioners Ltd’ fel Rheolwraig Gynorthwyol.
Mae Kayleigh wedi gweithio yn ‘Ecclestons’ yn Wrecsam ers bron i 3 blynedd a bu’r profiad hwn yn werthfawr iawn i Kayleigh ac i’w chyflogwr. Roedd gallu parhau i ennill cyflog wrth ennill cymhwyster cydnabyddedig yn ateb perffaith i Kayleigh.
Kayleigh yw ymgeisydd Manwerthu cyntaf ITeC Wrecsam a phan ofynnwyd iddi beth a fwynhaodd fwyaf am ei chwrs ei hateb oedd, “Y cyfan ohono! “
Dywedodd Asesydd NVQ Kayleigh, “Roeddem yn gallu teilwra’r cwrs yn benodol ar gyfer swydd bresennol Kayleigh: Mae Kayleigh wedi rhoi ymdrech fawr i’w hyfforddiant ac mae wedi llwyddo i ennill cymwysterau sgiliau allweddol ychwanegol. Bu’n bleser pur cael gweithio gyda hi dros y 12 mis diwethaf ac rwyf wrth fy modd ei bod wedi llwyddo i gael ei NVQ. Rwy’n dymuno’r gorau iddi i’r dyfodol.”
Ychwanegodd bos Kayleigh, Mr Eccleston, “Mae Kayleigh yn aelod gwerthfawr o staff a dymunwn ddyfodol hir, hapus a llwyddiannus gyda ni.”
Mae ITeC Wrecsam yn cynnig llu o gyrsiau NVQ cwbl gymorthdaledig sy’n berthnasol i groestoriad o ddiwydiant a masnach.
I wybod mwy am gyrsiau ITeC Wrecsam, ffoniwch 01978 367124 neu ebostiwch:
wrexhamitec@wrexham.gov.uk.
17.08.07
A + B wedi rhoi’r meddwl ar waith!
Ross Sankey (Cyfarwyddwr y Cwmni) a Bod Griffin (Rheolwr Gwerthiant) yw gyflogwyr balch Holly Richards yn A&B Air Systems Cyf a leolir ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam.
Yn ogystal â gweithio’n llawn amser i A&B Air Systems Cyf mae Holly hefyd wedi llwyddo i gwblhau cymhwyster galwedigaethol cenedlaethol (NVQ) Fframwaith mewn Busnes, Gweinyddiaeth, a Thechnoleg Gwybodaeth yn ITeC Wrecsam a leolir ar Ystad Ddiwydiannol Whitegate, Wrecsam.
Ar ôl mwynhau a dysgu cymaint o’r cyrsiau mae Holly wedi penderfynu dechrau cwrs fframwaith NVQ arall yn astudio Gwasanaethau Cwsmeriaid, unwaith eto yn ITeC Wrecsam.
Ni fyddai Holly wedi llwyddo oni bai am gefnogaeth ac arweiniad Sarah Gaade (Hyfforddwr / Aseswraig yn ITeC Wrecsam) a holl staff A+B Air Systems Cyf. Da iawn pawb!
Gallwch ennill y cymwysterau yn eich gwaith ac ennill cyflog tra fyddwch chi’n dysgu. Nid ydynt yn costio ceiniog gan eu bod yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Gallwch hefyd dderbyn tocynnau rhodd i siopa ar y stryd fawr ar ôl cwblhau’r cwrs.
I ddarganfod sut all ITeC Wrecsam eich helpu chi, ffoniwch ITeC Wrecsam ar 01978 367124.
02.08.07
ITeC yn llwyddo eto!
Ym mlaen y llun fe welwch Nia Andrew a Teleri Hughes, sy’n Hyfforddwyr / Aseswyr yn ITeC Wrecsam. Unwaith eto, maent wedi helpu grÿp o ddysgwyr llawn amser i ennill llond y lle o gymwysterau cydnabyddedig.
Yn y llun, mae rhai o aelodau’r grÿp yn dal eu tystysgrifau, sef Mike Harmston, Irene Griffiths, Natasha Griffiths ac Yvonne Lloyd-Jones. Mae eu cyraeddiadau’n cynnwys Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewrop (ECDL), cymhwyster Technoleg Gwybodaeth, Sgiliau Allweddol mewn Cyfathrebu, Defnyddio Rhifau, Hyfforddiant Ysgogol a Jobsearch.
Wrth sôn am ei llwyddiant, dywedodd Yvonne Lloyd-Jones: “Mae newid gyrfa yn fy oedran i’n anodd iawn, ond bydd y cymwysterau dw i wedi eu hennill yma, ynghyd â fy mhrofiad a sgiliau, o fantais i mi wrth i mi chwilio am y swydd y gallaf gyfrannu’r mwyaf ati.”
I ddarganfod sut all ITeC Wrecsam eich helpu chi, ffoniwch ITeC Wrecsam ar 01978 367124.
13.07.07
Llongyfarchiadau i Mr Damien O'Reilly
Llongyfarchiadau i Mr Damien O'Reilly, rhiant sengl o Gorwen, sydd wedi ennill ei ECDL (Trwydded yrru gyfrifiadurol Ewropeaidd) Lefelau 1 a 2, ITQ (cymhwyster galwedigaethol technoleg gwybodaeth) a sgiliau allweddol mewn cyfathrebu, gweithio gydag eraill, gwella dysgu a thechnoleg gwybodaeth.
Prin iawn oedd profiad a chymwysterau Mr O'Reilly pan ymunodd ag ITeC Wrecsam am gwrs llawn amser ar gyfer pobl ddi-waith. Gan fod y cwrs yn cael ei ariannu gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cynulliad Cymru, nid oedd raid iddo dalu ceiniog, roedd cymorth ar gael ar gyfer talu treuliau teithio ac nid oedd yn effeithio ar ei fudd-daliadau.
Dywedodd Mr O'Reilly "Mae’r sgiliau, cymwysterau, profiad a hyder rwyf wedi eu hennill o ITeC Wrecsam heb eu hail. Buaswn yn annog pobl i ystyried ailhyfforddi neu ddysgu sgiliau newydd sbon. Cefais fy nhrin â pharch ac roedd y gwasanaeth cyfeillgar yn eithriadol. Dw i wedi cyfarfod llawer o bobl hyfryd."
14.02.07
Ailwampio ITeC Wrecsam
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, gwnaed newidiadau sylweddol yn ITeC Wrecsam, gan gynnwys gwaith tirlunio y tu allan i’r adeilad a newidiadau mawr i gynllun, addurn a chyfleusterau’r adeilad.
Crëwyd ystafelloedd hyfforddiant a chynadledda ar y ddau lawr, gosodwyd system aerdymheru newydd, gwellwyd y goleuadau brys a’r larwm dân yn ogystal â gosod byrddau gwyn rhyngweithiol ym mhob un o’r ystafelloedd hyfforddiant a chynadledda a gwella’r goleuadau a’r seddau. Ategwyd at hyn oll trwy ailaddurno’r adeilad a gosod carpedi newydd.
Yn ogystal â chreu amgylchedd sy’n fwy addas ar gyfer dysgu, mae hefyd yn darparu llety a gwasanaethau o ansawdd sydd eu heisiau ar bobl sydd am hurio ystafelloedd yn ITeC Wrecsam.
14.02.07
Arolygiad Estyn yn ITeC Wrecsam
Yn dilyn arolygiad Estyn – Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru – a barodd wythnos ym mis Tachwedd y llynedd, mae’r canlyniad newydd ei gyhoeddi’n swyddogol a bydd yn ymddangos ar wefan Estyn faes o law.
Treuliodd tîm o wyth o arolygwyr wythnos yn ITeC Wrecsam yn siarad â staff mewnol a dysgwyr yn ogystal â chwblhau archwiliad trwyadl o’n dogfennau, polisïau, gweithdrefnau, cofnodion ac ati.
Yn y saith cwestiwn allweddol, bu i ITeC Wrecsam sgorio dwy radd 1, pedair gradd 2 ac un radd 3. 1 yw “da gyda nodweddion rhagorol”, 2 yw “nodweddion da a dim diffygion pwysig” a 3 yw “nodweddion da’n gorbwyso diffygion”.
Mae hwn yn ganlyniad gwych yn ôl unrhyw safonau, gan adlewyrchu a chydnabod ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan holl staff ITeC Wrecsam.
Mae copïau o’r adroddiad llawn ar gael gan staff ITeC Wrecsam ac ar wefan Estyn, fel y crybwyllwyd eisoes.
14.02.07
ITeC Wrecsam i ddarparu tri fframwaith NVQ newydd
Yn unol â’r Datganiad Rhanbarthol o Anghenion a Blaenoriaethau, mae ITeC Wrecsam yn ymestyn ei bortffolio o fframweithiau NVQ trwy gyflwyno cyrsiau Dosbarthu a Chadw mewn Warws, Manwerthu ac Ymdrin â Galwadau Ffôn. Disgwylir i’r rhaglenni hyn gael eu lansio ar ddiwedd mis Chwefror/ddechrau mis Mawrth 2007 a disgwylir iddynt gwmpasu lefelau 1, 2 a 3 ar gyfer Adeiladu Sgiliau+, prentisiaethau modern sylfaenol a phrentisiaethau modern.
Mae ITeC Wrecsam wedi bod yn darparu fframweithiau NVQ lefelau 2 a 3 mewn Technoleg Gwybodaeth, Busnes a Gweinyddiaeth a Gwasanaeth Cwsmeriaid ers dros ugain mlynedd. Ychwanegwyd NVQ lefel 2 mewn Arwain Timau at ei bortffolio’n ddiweddar.
Mae safon uchel darpariaeth y rhaglenni hyn a’r cyfraddau llwyddiant eithriadol wedi’u mesur yn ddiweddar mewn arolygiad cynhwysfawr o ITeC Wrecsam gan Estyn – Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru.
Bydd y fframweithiau newydd - sy’n cynnwys sgiliau allweddol a thystysgrifau technegol - yn galluogi cwmnïau i fodloni eu hanghenion hyfforddiant NVQ gydag un darparwr.
Nid oes unrhyw gostau uniongyrchol. Mae’r holl fframweithiau a gynigir gan ITeC Wrecsam yn cael eu hariannu 100% gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) gan dynnu ar arian o Gronfa Gymdeithasol Ewrop – gan sicrhau nad oes raid i chi wario o’ch cyllideb hyfforddiant!
Os hoffech fwy o wybodaeth am y fframweithiau newydd neu’r rhai hen neu os hoffech drafod opsiynau hyfforddiant eich cwmni trwy ITeC Wrecsam, mae pob croeso i chi gysylltu ag unrhyw aelod o’n Tîm Cyswllt Busnes:
Graham Williams
Ebost: wrexhamitec@wrexham.gov.uk
Ffôn:
01978 367109
Julie Edwards
Ebost: wrexhamitec@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 367124 (Llun - Mercher)
Claire Tokarczyk -
Ebost: wrexhamitec@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 367124 (Mercher – Gwener)
Goliau Gwir...
Ymgymerodd staff ITeC Wrecsam â pheth hyfforddiant dwys yn ddiweddar i’w galluogi i ddarparu cwrs ysgogol newydd i gleientiaid. Enw’r rhaglen yw GOALS (Gaining Opportunities And Life Skills) a llongyfarchiadau i’r aseswyr, Nia Andrew, Natalie Booth, Peter Dagnall, Julie Edwards, Marlinn Jamieson ac Emma Roberts sy’n ymarferwyr trwyddedig o’r rhaglen erbyn hyn.
CGC Lefel 2 Arwain Tim
Fframwaith Prentis Modern Sylfaenol
Bydd ITeC Wrecsam yn gweithredu’r CGC Lefel 2 mewn Arwain Tîm ym mis Medi 2005.
Manylion y cwrs Cgc Lefel 2 Arwain Tîm
 |
Os oes gennych ddiddordeb ac yr hoffech fwy o wybodaeth, ffoniwch ITeC Wrecsam ar 01978 367109 neu e-ebost: wrexhamitec@wrexham.gov.uk |
Buddsoddi mewn Ieuenctid Lleol
Gyrfa mewn Llywodraeth Leol
Prentisiaeth 3 Blynedd
Wedi ei hanelu at bobl ifanc sy’n gadael ysgol, o ddewis
rhwng 16 a 18 oed. RHAID i chi feddu ar leiafswm o 5TGAU, A-C, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg. (Gwneir cynigion amodol fel sy’n briodol). Bydd y rhaglen yn para mwyafswm o dair blynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn gweithio ar ennill Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd (ECDL) a Chymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Lefel 3 mewn Defnyddio Technoleg
Gwybodaeth. Ar ôl 6 wythnos gydag ITeC Wrecsam, byddwch yn dechrau ar eich hyfforddiant mewn swydd mewn gwahanol adrannau o fewn y Cyngor. Anogir pawb i
ymgeisio am swyddi llawn amser gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Dylech gyfeirio ceisiadau am wybodaeth bellach a manylion ymgeisio at
Personel Corfforedig, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1WF Ffon: 01978 292012
|