|
Rydym ni, yn ITec Wrecsam - rhan o Adran Datblygiad Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - yn falch iawn o’r lefel o wasanaeth a roddwn i gymuned fusnes ardal Wrecsam.
Mae ein hymagwedd unigryw’n sicrhau cefnogaeth lawn i gwmnïau sy’n dymuno recriwtio a hyfforddi gweithwyr newydd, sicrhau bod eu staff yn ennill cymwysterau sy’n adlewyrchu’r cyfraniad y maent yn ei wneud i’r busnes neu’n galluogi’r budd mwyaf o’r pecynnau meddalwedd maent yn eu defnyddio.
Mae’r mentrau hyfforddi a gynigir gan ITeC Wrecsam yn sylfaen berffaith i gwmnïau sy’n dymuno ennill y wobr llawn bri Buddsoddwyr mewn Pobl.
Felly, os ydych wedi sylwi ar y manteision o gael gweithlu hyfforddedig a brwdfrydig a fyddai’n cael budd o sgiliau achrededig ym maes technoleg gwybodaeth, gweinyddiaeth fusnes neu wasanaeth cwsmer, beth am gysylltu â’n Swyddog Cyswllt Busnes i drafod sut gall ITeC eich helpu. Ffon: 01978 367100, e-bost: wrexhamitec@wrexham.gov.uk
|