|
Sefydlwyd ITeC Wrecsam gan Adran Datblygiad Economaidd yr awdurdod lleol yn 1983 fel sefydliad nad yw’n gwneud elw gyda’r prif bwrpas o gefnogi isadeiledd economaidd yr ardal. Cyflawnwyd hyn drwy sefydlu rhaglenni hyfforddi i gefnogi anghenion diwydiant a masnach.
Er mai technoleg gwybodaeth yr hyfforddir yn bennaf, yn cynnwys pecynnau Microsoft a’r rhyngrwyd, gellir astudio gweinyddiaeth busnes, gwasanaethau i gwsmeriaid a sgiliau cyffredinol - ysgrifennu CV, sgiliau allweddol, chwilio am waith a thechnegau cyfweld ac ati hefyd. Bu’r pwyslais ar ansawdd bob amser o fewn y sefydliad a chydnabuwyd hyn yn 1992 wrth iddynt ennill yr ISO 9001 a’r wobr Buddsoddwyr mewn Pobl yn 1994.
Mae ITeC Wrecsam yn cynnig ystod o gyrsiau technoleg gwybodaeth am brisiau cystadleuol i fusnesau a sefydliadau sy’n dymuno hyfforddi staff mewn meysydd penodol h.y. cronfeydd data, taenlenni, Powerpoint, prosesu geiriau ac ati.
Mae rhaglen prentisiaeth fodern lefel sylfaenol ac uwch ar gael yn ITeC Wrecsam hefyd ar gyfer gweithwyr o bob oed. Mae’r fframweithiau hyn fel sgiliau allweddol, CGC lefelau II a III a thystysgrifau technegol gan gynnwys technoleg gwybodaeth, gweinyddiaeth busnes a gwasanaeth i gwsmeriaid ar gael am ddim i weithwyr ac ITeC Wrecsam sy’n gwneud yr holl hwyluso, hyfforddi, asesu a gweinyddu.
Mae ITeC Wrecsam hefyd yn cynnig cyrsiau (yn amodol ar delerau) i’r di-waith, merched sy’n dychwelyd i’r gweithle, pobl ifanc 16 - 17 oed, y rhai dros 50 oed a’r rhai hynny sy’n ddi-waith o ganlyniad i ddiswyddiadau hysbysadwy ar raddfa fawr..
Os oes gan gwmni broblemau recriwtio gweithwyr, yn enwedig y rhai hynny â swyddogaethau llai, mae’n bosibl y gall ITeC Wrecsam fod o gymorth. Wrth ddefnyddio’u cronfa o hyfforddwyr gall ITeC Wrecsam gynnig cefnogaeth bellach fel hyfforddiant prentisiaeth fodern a CGC cymorthdaledig.
Cylch gwaith ITeC Wrecsam yw cynorthwyo a chefnogi sectorau diwydiannol a masnachol yr ardal, a thrwy hyn cynorthwyo â datblygiad yr economi lleol.
Mae yma i’ch cynorthwyo chi. Os na all ITeC Wrecsam eich helpu’n uniongyrchol, mae’n gwybod am rywun a all wneud!
Gwasanaethau ITeC Wrecsam
-
Hyfforddiant CGC wedi’i ariannu’n llawn ar gyfer lefelau II a III mewn Technoleg Gwybodaeth, Gweinyddiaeth Busnes a Gwasanaethau i Gwsmeriaid. Ar gael nawr i’r rhai dros 25 oed.
-
Cymhwyster mewnol wrth ddilyn cyrsiau TG i bob oed a gallu – yn amodol ar gymwysterau.
-
Gwasanaethau o werth i wella cyfleoedd gwaith ein cleientiaid.
-
Hyfforddi ymgeiswyr fel eu bod yn barod am swyddi ym meysydd TG, Gweinyddiaeth Busnes a Gwasanaeth i Gwsmeriaid.
-
Cyrsiau masnach yn defnyddio TG am brisiau cystadleuol.
|