Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Dechrau'n Deg

 

Beth yw Dechrau’n Deg?

Mae Dechrau’n Deg yn fenter newydd i blant o 0 hyd at eu 4ydd pen-blwydd, a’u rhieni neu ofalwyr. Mae’n grant penodol i Awdurdodau Lleol a ariannwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru hyd at 2010/11. Bydd Dechrau’n Deg yn digwydd ar hyd a lled llawer o ardaloedd yng Nghymru gan gynnwys rhannau dynodedig o Wrecsam.

Beth mae Dechrau’n Deg yn ei ddarparu?

Mae Dechrau’n Deg yn darparu nifer o wasanaethau am ddim i deuluoedd cymwys:

  • Gofal Plant
  • Ymweliadau Iechyd
  • Rhianta
  • Sgiliau Sylfaenol

Ymweliadau Iechyd amlach – golyga hyn fwy o gefnogaeth a chyswllt oddi wrth eich Ymwelydd Iechyd Dechrau’n Deg.  Mae tîm o weithwyr iechyd proffesiynol sydd hefyd yn atgyfnerthu’r gwaith hwn yn cynnwys Therapydd Lleferydd, bydwraig a gweithwyr cefnogi teulu.

Rhai sesiynau gofal plant am ddim i blant 2 i 3 blwydd oed  – golyga hyn y gall plant sy’n gymwys fynd i uned ofal plant Dechrau’n Deg am 2.5 awr y diwrnod, 5 diwrnod yr wythnos am 42 wythnos y flwyddyn.  Mae pob sesiwn yn hwyliog, am ddim ac mae 2 o ganolfannau cyfrwng Gymraeg ar gael.

Pan mae’r plant yn y tymor ar ôl eu 3ydd pen-blwydd gallant fynd i leoliad Addysg Gynnar am ddim.

Mynediad at gyrsiau rhianta a chyfleoedd  - golyga hyn y bydd nifer o gyrsiau am ddim ar gael i rieni cymwys i’w cefnogi yn eu rôl fel rhieni.  Maent yn hwyliog a gellir eu cyflwyno mewn grŵp neu un i un o fewn y cartref.  Un o’r prif gyrsiau sydd ar gael yw’r rhaglen Y Blynyddoedd Rhyfeddol.  Mae hwn yn gwrs 12 wythnos sy’n rhoi’r sgiliau i rieni i ddelio ag unrhyw ymddygiad heriol y gall eu plant arddangos.

Sgiliau Sylfaenol - Mae’r elfen hon ynglŷn â chefnogaeth i rieni i ddatblygu sgiliau sylfaenol eu plant. Mae Iaith a Chwarae a Rhif a Chwarae yn ddau gwrs byr lle caiff rhieni a phlant hwyl ynghyd â staff o’r tîm Iaith a Chwarae.  Gellir cyflwyno’r ddau gwrs yma hefyd yn y cartref.

Sut y gwn i os rwy’n gymwys?

Mae pob teulu cymwys wedi derbyn llythyr a thaflen yn rhoi gwybod iddynt os ydynt yn gymwys.  Byddant hefyd wedi derbyn ymweliadau oddi wrth eu Hymwelydd Iechyd Dechrau’n Deg a fydd wedi egluro mwy iddynt am Dechrau’n Deg.

Gyda phwy allaf gysylltu i gael gwybod mwy?

Gallwch ffonio Swyddog Datblygu Dechrau’n Deg ar 01978-317678 neu Dîm Iechyd Dechrau’n Deg ar 01978 265395 neu 823716.

 
English
 

Cysylltiadau Perthnasol:

Mynegai Addysg
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint