Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Ystafelloedd Canolfan Erlas

 

Ystafelloedd Canolfan Erlas

D.S. Mae gan ein holl ystafelloedd fflipsiartiau, sgriniau, uwchdaflunydd, teledu ac mae peiriannau fideo, gliniaduron a thaflunwyr fideo ar gael ar gais ar gyfer cyflwyniadau Powerpoint. Mae byrddau gwyn rhyngweithiol ar gael hefyd.

Mae Canolfan Erlas yn cydymffurfio’n llawn â deddfwriaeth gwahaniaethu ar sail anabledd ac mae mynediad i’r ystafelloedd ar y llawr isaf a’r llawr cyntaf.

Y Neuadd (Ystafell 1)

Mae’r ystafell banelog fendigedig hon yn lleoliad delfrydol ar gyfer hyfforddiant a chynadleddau.

Mae’r paneli pren gwreiddiol yn dangos gwaith crefft flynyddoedd yn ôl a cheir allanfa i’r lawnt ar gyfer adegau egwyl. Mae lle i 18 – 20 eistedd yn yr ystafell hon.

Y Parlwr (Ystafell 2)

Lleoliad hamddenol ar gyfer eich cyfarfod. Ystafell â digon o le i 25 eistedd ar ffurf ystafell drafod. Mae maint yr ystafell yn cynnig lle eistedd i 70 o bobl ar ffurf ystafell ddarlith.

Ystafell Biliards (Ystafell 3)

Ystafell â phaneli derw gwreiddiol sydd â digon o le i weithio ynddi. Ystafell hyblyg iawn y gellir ei haddasu o ystafell drafod i ystafell ddosbarth i gynnig lle i 30 o bobl, neu 60 ar ffurf ystafell ddarlith.

Ystafell Ysgol (Ystafell 4)

Mae’r Ystafell Ysgol yn ystafell gyfarfod olau a chyfforddus sydd â lle i 16. Delfrydol ar gyfer cyfarfodydd neu gyrsiau hyfforddiant llai.

Ystafelloedd Y Dderwen

Gellir darparu Hyfforddiant Cyfrifiadurol yng Nghanolfan Erlas. Mae ein Hystafell Gyfrifiaduron ar gael i gynnig yr adnoddau uwch-dechnoleg sydd ei hangen ar gyfer hyfforddiant addas i’r swyddfa gyfoes neu hyfforddiant ysgol; 16 gweithfan, bwrdd gwyn rhyngweithiol, gliniadur a thaflunydd: cyfaddas i DVD/CD

yn ôl i'r brig

Gosodiad ystafelloedd

Ffoniwch os oes gennych unrhyw gwestiynau am osodiad yr ystafelloedd neu’r cyfleusterau sydd ar gael.

Gosodiad ystafelloedd

Mae’r ddogfen hon ar gael i’w lawrlwytho ar y ffurf ganlynol:

Gosodiad ystafelloedd - Fersiwn Word 225Kb

Gosodiad ystafelloedd - Fersiwn PDF 163Kb

Gosodiad ystafelloedd - Fersiwn RTF 12.0Mb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word

 
English
 

Cyswllt i

Canolfan Erlas
Ystafelloedd
Hanes
Llyfrgell Addysg
Mapi / Cyfarwyddiadau
Cysylltwch â Erlas
Addysg Wrecsam
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint