|
Lleolir Canolfan Erlas mewn lleoliad gwledig yn ngogledd ddwyrain Wrecsam yn agos at yr Ystad Ddiwydiannol. Mae’n lleoliad perffaith i fodloni pob un o’ch anghenion hyfforddiant a chynadledda. Mae’r plas urddasol yn cydweddu’n dda â natur dawel a darluniadol ei amgylchoedd.
Mae’r Ganolfan wedi gweld sawl newid dros y blynyddoedd ac wedi gweld ad-drefniad arall yn ddiweddar wrth iddi ddod yn gartref i Ymgynghorwyr Dysgu ac Addysgu Adran Dysgu a Chyflawniad Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sef yr hen Adran Addysg.
Mae nifer o adrannau eraill Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam hefyd wedi’u lleoli yn yr adeilad.
Mae’r ystafelloedd hyfforddiant a chynadledda wedi’u cyfarparu i fodloni pob un o’ch anghenion hyfforddiant a chynadledda, ond pe byddai angen rhywbeth gwahanol arnoch, bydd staff Canolfan Erlas yn ymdrechu i fodloni eich anghenion. Mae yna hefyd gyfleusterau parcio da yn y Ganolfan.
Mae’r staff arlwyo ar gael i fodloni eich anghenion bwyd, ac mae ganddynt nifer o fwydlenni. Cysylltwch â function.catering@wrexham.gov.uk am fwy o wybodaeth. Mae te, coffi a bisgedi hefyd ar gael trwy gydol y dydd ar gais.
Byddem wrth ein bodd yn mynd â chi ar daith o gwmpas o Ganolfan os hoffech wneud hynny, felly mae pob croeso i chi fanteisio ar y cyfle hwn i gwrdd â staff cyfeillgar y Ganolfan a gweld yr awyrgylch rhyfeddol sydd yma yn Erlas.
Cysylltwch â Ni
Canolfan Erlas
Ffordd Bryn Estyn
Wrecsam
LL13 9TY
Ffôn: 01978 317600
Facs: 01978 317607
Ebost: erlascentre@wrexham.gov.uk
|