Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Cronoleg Fras o Fryn Estyn, Wrecsam A adnabyddir bellach fel Canolfan Erlas

 

Mae’r adeilad cyntaf ar y safle’n dyddio’n ôl i amser y Tuduriaid, ac mae’n debyg ei fod yn denement neu’n fferm a oedd yn rhan o Ystad Plas Erlas, sydd i dde-ddwyrain y safle presennol.

 

Hyd at 1783, roedd Bryn Estyn yn rhan o ystâd teulu’r Davies o Blas Erlas, nes i Williams Kyffin o Blas Maenan briodi un o ferched Roger Davies o Erlas, ac felly daeth Bryn Estyn i feddiant y Kyffiniaid.

1783

Gwerthodd Syr Thomas Bryn Estyn i Richard Lloyd, sef masnachwr gwlanenni cyfoethog ac arloeswr y diwydiant bancio yn Wrecsam.

1810

Ymsefydlwyd Syr William Lloyd ym Mryn Estyn gan ei dad.

1815

Bu farw hen Richard Lloyd ym Mryn Estyn.

1849

Bu i Fanc Lloyds yn Wrecsam (nid y banc stryd fawr adnabyddus presennol) fethu a dwyn gwarth ar y teulu.

1857

Daeth Bryn Estyn i feddiant Capten Godfrey ar ôl i’w dad, Cyrnol Syr Williams Lloyd, Uchel Siryf y Sir (Sir Ddinbych bryd hynny) farw.

1893

Bu farw Capten Godfrey ac etifeddwyd Bryn Estyn gan ei fab.

^ Yn ôl i'r brig

Roedd y ty gwreiddiol, a oedd yn dyddio’n ôl i’r 18fed ganrif, yn blas a adeiladwyd o gerrig ar diroedd presennol Canolfan Erlas.  Bu i F.W Soames, a brynodd y ty a’r tir yn 1903, ddymchwel y plas hwnnw.  Adeiladwyd y plas newydd ar diroedd yr ystâd, ond nid yw ar yr un safle.

1903

Prynwyd y ty gan F.W Soames, bragwr o Wrecsam.

1904/05

Bu i Soames ddymchwel yr hen dy Sioraidd ac adeiladu plas ffrâm bren ag arddull Tuduraidd yn ei le.

1939/41

Defnyddiwyd y safle fel Depo Ordnans yn ystod yr Ail Ryfel Byd.  Ychydig iawn o wybodaeth a geir am yr adeilad yn ystod y cyfnod hwnnw oherwydd natur gyfrinachol y gwaith a gwblhawyd ar y pryd.

1942

Daeth Bryn Estyn yn Ysgol Warchod i Fechgyn o Lannau Merswy ac ymhellach oddi cartref.  Roedd Mr James Bennett yn bennaeth ar yr ysgol honno am 26 o flynyddoedd.  Roedd y bechgyn yn hoff ohono ac yn ei barchu, a bu iddo ennill enw da iawn i’r ysgol.

1975

Caewyd yr Ysgol Warchod.  Byrddiwyd yr adeilad, ac fe’i gadawyd yn segur.  Yn ddiweddarach, cymerwyd yr adeilad drosodd gan y Gwasanaethau Cymdeithasol (nid yw’r dyddiadau’n hysbys), ac ar ôl hynny, byrddiwyd yr adeilad unwaith eto.

1989

Adnewyddwyd Bryn Estyn, ac fe’i agorwyd fel Canolfan TVEI ac Uned Cefnogi Gwybodaeth ar gyfer ysgolion yng Nghlwyd.  Roedd y ganolfan yn darparu cefnogaeth dechnegol, gwricwlaidd a systemau rheoli gwybodaeth i ysgolion y sir, ynghyd â phrosiectau i ddisgyblion fynychu’r ganolfan a defnyddio’r ystafelloedd cyfrifiaduron, yr ystafell gyfryngau a’r cyfleusterau ecoleg a gwyddoniaeth.

1992

Newidiwyd enw’r adeilad i Dy Erlas.

1996

Pan ad-drefnwyd y llywodraeth leol, cymerwyd yr adeilad drosodd gan Awdurdod Unedol Wrecsam, a newidiwyd yr enw unwaith eto i Ganolfan Erlas.  Cyfunwyd y ddwy adran dan un strwythur rheoli, ond parhawyd i gynnig yr un gefnogaeth i’r un ysgolion, dan gytundebau â’r Awdurdodau Unedol eraill a oedd yn rhan o’r hen sir Glwyd, sef Wrecsam, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Chonwy.

1998-2006

O ganlyniad i’r siroedd eraill yn tynnu eu harian yn ôl ac yn sefydlu gwasanaethau annibynnol ar gyfer TG, newidiodd defnydd a strwythur Canolfan Erlas unwaith eto.

2006-i dyddiad

Erbyn hyn, mae’r Ganolfan yn darparu ystod o gyfleusterau swyddfa ar gyfer amrywiol adrannau’r Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc ac is-adrannau eraill Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.  Fe’i defnyddir fel Canolfan Hyfforddiant a Chynadledda yn bennaf, ond mae hefyd yn gartref i’r Ymgynghorwyr Dysgu ac Addysgu, y Swyddog Sgiliau Sylfaenol, Swyddogion Ysgolion Cynradd a Thîm y Blynyddoedd Cynnar.

 
English
 

Cyswllt i

Canolfan Erlas
Ystafelloedd
Hanes
Llyfrgell Addysg
Mapi / Cyfarwyddiadau
Cysylltwch â Erlas
Addysg Wrecsam
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint