Aelodau Panel Apeliadau Addysg

Mae Wrecsam yn chwilio am aelodau’r cyhoedd i ymuno â’i Banel Apeliadau Addysg.

Corff annibynnol yw’r panel a sefydlwyd i ystyried apeliadau rhieni yn erbyn penderfyniadau a wnaed gan yr Awdurdod Addysg / Corff Llywodraethol ysgol. Mae’r Panel yn cynnwys pobl gydag amrywiaeth eang o gefndiroedd. Mae eu gwaith yn cynnwys gwrando apeliadau perthnasol naill ai ar benderfyniad i beidio â derbyn plentyn mewn ysgol benodol neu benderfyniad i beidio â derbyn plentyn yn ôl a waharddwyd yn barhaol o ysgol.

Mae’r panel yn cyfarfod drwy gydol y flwyddyn gydag Apeliadau’n cael eu clywed yn ôl y gofyn. O ran apeliadau derbyn, mae’r mwyafrif yn cael eu clywed rhwng Mai a Gorffennaf.

Mae pob panel yn cynnwys o dri i bum aelod, a dynnwyd o gronfa. Fel arfer bydd pob apêl unigol yn para tua hanner awr ac mae’n arferol i’r un panel glywed amryw apeliadau.

Bydd aelodau newydd y panel yn cael hyfforddiant llawn ac mae’r Clerc bob amser ar gael i roi cyngor.

Mae’r gwaith yn ddi-dâl ond caiff treuliau teithio eu had-dalu a bydd lluniaeth yn cael ei ddarparu.

I sicrhau bod y Panel Apeliadau Addysg yn annibynnol a diduedd, nid yw rhai pobl yn gymwys i ddod yn aelodau – fel gweithwyr cyflogedig yr Awdurdod Addysg Lleol (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam).

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r panel, cysylltwch â Ffion Williams, Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY.

Gallwch hefyd gysylltu â Ffion ar (01978) 292228
neu trwy e-bost : EducationAppealsPanel@wrexham.gov.uk.

Ffurflen Gais Paneli Apêl Addysg Ysgol - Derbyn a Gwahardd

Ffurflen Gais Paneli Apêl Addysg Ysgol

Ffurflen Gais Paneli Apêl Addysg Ysgol - fersiwn Word 29Kb

Ffurflen Gais Paneli Apêl Addysg Ysgol - fersiwn PDF 26Kb

Ffurflen Gais Paneli Apêl Addysg Ysgolm - fersiwn Testun Plaen 30Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word

yn ôl i'r brig