Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Derbyniadau Uwchradd ar gyfer Medi 2008

 

Trosglwyddo Disgyblion I Ysgolion Uwchradd Medi 2008

Atebion i’ch Cwestiynau

CYNGOR I RIENI/ WARCHEIDWAID/ OFALWYR YNGHYLCH CWBLHAU’R FFURFLEN ATODEDIG

1. Pam fo raid i mi gwblhau’r ffurflen ddewis?

Mae’r Awdurdod Addysg Lleol (AALl) yn gyfrifol am dderbyniadau i ysgolion cymunedol yr AALl ac ysgolion a reolir yn wirfoddol. Cyrff llywodraethol ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol ac ysgolion sefydliedig sy’n gyfrifol am eu derbyniadau nhw. Yn ôl y gyfraith, rhaid i’r AALl roi cyfle i chi fynegi dewis am yr ysgol a ddymunwch i’ch plentyn a rhoi rhesymau am eich dewis. Rhaid i’r AALl gynnig lleoedd yn unol â dewisiadau, hyd at nifer derbyn gyhoeddedig pob ysgol (gweler y rhestr ysgolion yn y Canllaw Rhieni, Gwarcheidwaid a Gofalwyr i Wasanaethau Addysg yn Wrecsam o dudalen 38 ymlaen am nifer derbyn pob ysgol). Er bydd yr Awdurdod yn ceisio sicrhau bod eich plentyn yn mynd i’ch dewis ysgol, nid oes hawl gennych i gael addysg i’ch plentyn yn eich dewis ysgol. Gall rhieni ddatgan hyd at 3 dewis ar y ffurflen gais, a nodi trefn eu dewisiadau o’r cyntaf i’r trydydd.

2. Beth sy’n digwydd os nad wyf yn cwblhau a dychwelyd y ffurflen ddewis?

Os nad ydych yn cwblhau a dychwelyd y ffurflen hon erbyn y dyddiad gofynnol, mae’n bosibl na fydd y Cyngor yn gallu cynnig lle i’ch plentyn yn eich dewis ysgol yn Wrecsam (mae hyn yn cynnwys ysgolion a gynorthwyir gan eglwysi ac ysgolion sefydliedig) ar gyfer Medi 2008.

3. Dymunaf le yn yr ysgol uwchradd benodedig – a oes raid i mi ddychwelyd y ffurflen hon a mynegi dewis am yr ysgol?

Oes, mae’n hanfodol eich bod yn dychwelyd y ffurflen hon. Os nad ydych yn datgan eich dewis am yr ysgol benodedig, a bod yr ysgol honno’n llenwi â disgyblion sydd wedi mynegi dewis amdani, mae’n bosibl na fydd yr Awdurdod yn gallu cynnig lle i’ch plentyn yno.

4. Os gofynnaf am ysgol wahanol i’r ysgol uwchradd agosaf briodol, a fyddaf yn cael cludiant am ddim?

Cyfeiriwch at bolisi cludiant yr Awdurdod ar dudalen 20 o’r Canllaw i Wasanaethau Addysg. Os mynegwch ddewis am ysgol nad yw’n ysgol agosaf briodol, byddwch yn gyfrifol am wneud a thalu am drefniadau i’ch plentyn fynd i’r ysgol honno.

5. Mae gennyf blentyn hŷn yn y dewis ysgol eisoes – a oes raid i mi ddychwelyd y ffurflen hon?

Oes, mae’n rhaid i chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen.

6. Os nad wyf yn cael lle yn fy newis ysgol ac nad yw’n ysgol uwchradd benodedig, a allaf gael lle yn yr ysgol benodedig wedyn?

Nid yn bendant. Os enwch ysgol heblaw am yr ysgol uwchradd benodedig fel eich dewis ysgol ac os yw eich cais yn aflwyddiannus, mae’n bosibl y bydd yr ysgol benodedig wedi cael ei llenwi â dewisiadau cyntaf rhieni eraill. Felly, fe'ch cynghorwn i ystyried sut i ddefnyddio eich dewis cyntaf yn ofalus. Mae Canllaw Rhieni, Gwarcheidwaid a Gofalwyr i Wasanaethau Addysg Wrecsam yn rhestru nifer y lleoedd sydd ar gael ym mhob ysgol a’r nifer a dderbyniwyd ar gyfer Medi 2005 a 2006. Mae’n rhoi gwybodaeth hefyd am sawl cais am le a dderbyniwyd ar gyfer Medi 2007. Dim ond canllaw yw hwn a gallai’r sefyllfa fod yn wahanol yn 2008.

7. Os oes mwy o ddewisiadau na lleoedd ar gael yn fy newis ysgol, sut fydd y lleoedd yn cael eu dosbarthu?

Ystyrir dewisiadau am le mewn ysgolion cymunedol yr AALl ac ysgolion a reolir yn wirfoddol ar sail meini prawf ‘gormod o geisiadau’ cyhoeddedig yr Awdurdod y gallwch eu gweld ar dudalen 11 y Canllaw Rhieni. Mae’r wybodaeth a ddarparwch ar y ffurflen gais yn bwysig. Ystyrir yr holl ddewisiadau a dderbyniwn o fewn y cyfnod 04/09/2007 i 19/10/2007 cyn ceisiadau hwyr. Os yw eich cais yn hwyr, mae’n bosibl na fydd eich plentyn yn cael cynnig lle yn eich dewis ysgol ar gyfer mis Medi 2008 gan y gallai’r ysgol fod yn llawn. Os dymunwch gyflwyno amgylchiadau meddygol a/neu seicolegol i gefnogi eich dewis am ysgol benodol, rhaid i chi atodi tystiolaeth ysgrifenedig oddi wrth ymarferydd meddygol neu seicolegydd. Ystyrir dewisiadau am le mewn ysgol a gynorthwyir gan yr eglwys neu ysgol sefydliedig yn sgil meini prawf derbyn cyhoeddedig yr ysgol honno.

8. Beth os nad yw fy newisiadau’n cael eu bodloni?

Os na ellir bodloni eich dewisiadau, byddwch yn cael gwahoddiad i fynegi dewisiadau pellach. Os bydd hyn yn digwydd, mae gennych hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â bodloni eich dewis cyntaf (neu ddewis arall) ger bron panel apêl annibynnol. Ni fydd cyflwyno apêl yn effeithio ar unrhyw le ysgol ail ddewis a roddwyd i’ch plentyn. Gallwch weld gwybodaeth am apeliadau ar dudalen 16 y Canllaw Rhieni.

9. Rwy’n ymgeisio i’r ysgol uwchradd Babyddol/Anglicanaidd a gynorthwyir yn wirfoddol (St Joseph) a’r ysgol sefydliedig (Ysgol Maelor, Llannerch Banna), a oes raid i mi gwblhau’r ffurflen?

Oes, gan fod yr Awdurdod yn casglu’r wybodaeth hon ac yn ei rhoi i’r ysgolion hynny. Fodd bynnag, gan nad yw’r AALl yn awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgolion hyn, rhaid i rieni sy’n dymuno ymgeisio am le yn Sant Joseff neu Ysgol Maelor gysylltu â’r ysgolion yn y lle cyntaf i wneud apwyntiad i ymweld â’r ysgol a chyfarfod â’r pennaeth. (Cofiwch nad yw hwn yn gyfweliad ond yn gyfle i rieni sy’n chwilio am wybodaeth ynghylch darpariaeth yn yr ysgolion hyn.)

10. Rwy’n ymgeisio am ysgol annibynnol neu ysgol mewn ardal awdurdod lleol arall ar gyfer mis Medi 2008 – a ddylwn gwblhau’r ffurflen hon?

Dylech, mae’n hanfodol eich bod yn cwblhau ffurflen gais Bwrdeistref Sirol Wrecsam gan fod yr Awdurdod yn caslgu’r wybodaeth hon ac yn ei rhoi i’r awdurdod allanol priodol. Hyd yn oed os yw eich dewis cyntaf yn ysgol tu allan i Fwrdeistref Sirol Wrecsam, mae’n hanfodol eich bod yn defnyddio’r ffurflen hon i ddatgan dewis am ysgol a gynhelir ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, rhag ofn i’ch cais am ysgol annibynnol neu ysgol tu allan i’r ardal fod yn aflwyddiannus. Os cynigiwyd lle pendant i’ch plentyn mewn ysgol annibynnol neu ysgol arall a gynhelir mewn ardal arall, nodwch hyn ar y ffurflen gais a dychwelwch hi gan ddatgan mai dyma’r rheswm pam nad ydych yn mynegi dewisiadau am ysgolion Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

11. A allaf ddefnyddio cyfeiriad gwahanol heblaw am fy nghyfeiriad cartref ar gais fy mhlentyn?

Na, bydd yr Awdurdod yn derbyn cyfeiriad cartref y disgybl yn unig ac nid cyfeiriad y gwarchodwr plant neu neiniau a theidiau, er enghraifft. Mae’n bosibl gofyn i rieni ddarparu dogfennau swyddogol sy’n dangos eu cyfeiriad cartref. Cynghorir rhieni y gellir tynnu lle ysgol yn ôl os yw’r wybodaeth ar y ffurflen gais yn dwyllodrus neu’n gamarweiniol. Un o ganlyniadau hyn yw y gallech golli lle yn yr ysgol agosaf nesaf hefyd. Os na all dau riant gytuno ar ba ysgolion sydd orau ganddynt, rhaid iddynt gael cyngor cyfreithiol annibynnol ac, os bydd angen, gorchymyn llys priodol cyn cyflwyno’r un ffurflen gais i’r AALl.

12. I ble wyf yn dychwelyd y ffurflen ac erbyn pryd?

Dychwelwch y ffurflen gyflawn at bennaeth ysgol iau/gynradd bresennol eich plentyn erbyn 22 Hydref 2007. Cofiwch y dyddiad hwn oherwydd os ceir mwy o geisiadau na lleoedd sydd ar gael, rhoddir blaenoriaeth i’r ceisiadau hynny a anfonwyd erbyn y dyddiad cau a byddant yn cael eu hystyried cyn y rhai a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau.

13. Pryd fyddaf yn gwybod a oes gan fy mhlentyn le yn y dewis ysgol?

Byddwch yn cael gwybod cyn gynted ag y daw’r broses ddyrannu i ben. Mewn unrhyw achos, byddwch yn cael gwybod erbyn 10 Mawrth 2008 a roddwyd lle i’ch plentyn yn eich dewis ysgol neu beidio.

14. Rwy’n dal i fod yn ansicr am y trefniadau ac mae gennyf gwestiwn arall – i ble ddylwn fynd i gael rhagor o gyngor?

Cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau yn Nhŷ Henblas, Sgwâr y Frenhines, Wrecsam, LL13 8AZ neu ffoniwch 01978 297568 / 297569. E-bost: education@wrexham.gov.uk.

Os yw eich amgylchiadau’n newid a’ch bod am newid eich dewis ysgol, ond eich bod eisoes wedi dychwelyd y ffurflen dderbyn, cysylltwch â’r Swyddfa Derbyniadau ar 297568 neu 297569.

Gellir rhestr o ysgolion o'n Cronfa Ddata Ysgolion >>

^ yn ôl i'r brig


 Pecyn Derbyniadau Uwchradd

Gellir lawlwytho'r Pecyn Derbyniadau Uwchradd yn y ffurfiau canlynol:

Pecyn Derbyniadau Uwchradd - fformat PDF 208kb Adobe Acrobat Document 


I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 
English
 

Cysylltiadau i

Derbyniadau Meithrin
Derbyniadau Babanod Derbyn/Cynradd
Derbyniadau Iau
Derbyniadau Uwchradd
Dychwelyd i'r Mynegai

Link to download this advice sheet
Lawrlwytho'r Pecyn Derbyniadau Derbyn
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint