Derbyniadau i Ysgol Fabanod/Gynradd Ar Gyfer Medi 2013

Mae Deddf Safonau a Fframwaith Ysgol (1998) yn eich galluogi i fynegi dewis am yr ysgol fabanod/gynradd y dymunwch i’ch plentyn/plant ei mynychu. I’ch helpu, gofynnir i’r Awdurdod Lleol (ALl) gyhoeddi peth gwybodaeth am ei ysgolion a pholisïau a fydd, yn ogystal â’r prosbectws y mae’r ysgol wedi ei baratoi, yn eich helpu i ddatgan dewis.

Mae copïau o Ganllaw Rhieni, i Wasanaethau Addysg yn Wrecsam ar gael yn ysgolion a swyddfeydd yr Awdurdod ac at ddibenion cyfeirio, mewn llyfrgelloedd cyhoeddus, neu cliciwch ar y cyswllt hwn i weld y ddogfen hon. Os hoffech ymweld ag ysgol cyn mynegi dewis, dylech drefnu apwyntiad gyda’r pennaeth. Yna byddwch yn gallu mynegi eich dewis ar sail y wybodaeth a geir yn y dogfennau a’ch ymweliad â’r ysgol(ion) wedyn.

Sylwer nad yw’r gyfraith yn caniatáu i chi ddewis ysgol i’ch plentyn, dim ond datgan dewis i’ch plentyn/plant fynd i ysgol benodol. Wrth gwrs, gwneir pob ymdrech i sicrhau bod eich plentyn yn cael lle yn eich dewis ysgol.

Bydd yr Awdurdod yn derbyn cyfeiriad cartref y disgybl yn unig ac nid, er enghraifft, cyfeiriad y gwarchodwr neu nain a thaid. Gellir gofyn i rieni ddarparu dogfennau swyddogol yn dangos cyfeiriad cartref. Cynghorir rhieni y gellir gwrthod lle ysgol os yw’r wybodaeth a roddir ar y ffurflen gais yn dwyllodrus neu’n gamarweiniol. Gallai hyn olygu na fydd lle ar gael i’ch plentyn yn eich ysgol agosaf nesaf. Os na all dau riant gytuno ar ddewis ysgol, rhaid iddynt gael cyngor cyfreithiol annibynnol ac, os bydd angen, gorchymyn llys priodol cyn cyflwyno’r un ffurflen gais i’r ALl.

Os oes gan eich plentyn anabledd a allai effeithio ei ch/gynnydd a chyfranogiad ym mywyd yr ysgol, nodwch hyn ar y ffurflen.

Os oes gan eich plentyn ddatganiad o anghenion addysgol arbennig, bydd yr ALl yn gwneud ei orau i ganiatáu eich dewis o ysgol fabanod/gynradd ond mae’n rhaid iddo sicrhau y gall yr ysgol fodloni anghenion eich plentyn hefyd. Pan dderbyniwn eich ffurflen, bydd swyddog yr Awdurdod Lleol yn ysgrifennu atoch ac mae’n bosibl y bydd modd trefnu cyfarfod i drafod addysg gynradd eich plentyn.

Os oes gan eich plentyn frawd neu chwaer wedi eu cofrestru yn yr ysgol eisoes a fydd yn dal i fod ar y gofrestr pan fydd y plentyn iau’n dechrau, nodwch hyn ar y ffurflen dderbyn gan roi eu henwau a dyddiadau geni.

Gallwch lawrlwytho a chwblhau ffurflen dderbyn a'i dychwelyd at bennaeth eich dewis ysgol gynradd/fabanod erbyn 3 Rhagfyr 2012. Bydd yr awdurdod derbyn yn derbyn disgyblion hyd at nifer derbyn safonol ysgolion; dangosir y niferoedd hyn yn y rhestr ysgolion yn y ‘Canllaw Rhieni i Wasanaethau Addysg yn Wrecsam’). Ymdrinnir â cheisiadau hwyr ar ôl y rhai sy’n cyrraedd erbyn y dyddiad cau; felly, mae’n bwysig eich bod yn cofio’r dyddiad cau y cyfeirir ato uchod.

Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd yn eich dewis ysgol, bydd yr ALl yn defnyddio’r meini prawf a gyhoeddir yn y Canllaw Rhieni, a Gofalwyr i Wasanaethau Addysg yn Wrecsam i ddosbarthu lleoedd yn yr ysgol honno. Atgoffwn rieni nad oes sicrwydd o le derbyn mewn ysgol hyd yn oed os yw eu plentyn eisoes yn yr ysgol feithrin honno.

Os mynegasoch ddewis am ysgol gymuned neu ysgol a reolir yn wirfoddol, yr ALl fydd yn ystyried eich cais. Fel arall, os ydych wedi mynegi dewis am ysgol Babyddol neu ysgol a gynorthwyir gan yr Eglwys yng Nghymru, corff llywodraethol yr ysgol honno fydd yn ystyried eich cais.

Bydd yn cymryd peth amser i gwblhau’r broses ddyrannu ond byddwch yn cael gwybod erbyn 22 Mawrth 2013 p’un a roddwyd lle i’ch plentyn yn eich dewis ysgol ai peidio.

Os na all yr ALl neu gorff llywodraethol yr ysgol yn achos y sector a gynorthwyir yn wirfoddol roi lle i’ch plentyn yn eich dewis ysgol, bydd gennych hawl i gyflwyno achos ger bron panel apeliadau annibynnol.

Os dymunwch apelio yn achos ysgol gymunedol neu ysgol a reolir yn wirfoddol, dylech ysgrifennu at y Pennaeth Dysgu Gydol Oes. Ar gyfer ysgol Babyddol, dylid cyfeirio unrhyw apêl at Ysgrifennydd y Pwyllgor Addysg Esgobaethol ac ar gyfer ysgol a gynorthwyir gan yr Eglwys yng Nghymru dylech gysylltu â’r Cyngor Addysg Esgobaethol. Gallwch ddod o hyd i’r cyfeiriadau priodol yn y Canllaw Rhieni i Wasanaethau Addysg yn Wrecsam. Ar gyfer disgyblion â datganiadau neu sydd yn y broses o gael datganiad, bydd y Swyddog Cefnogi Disgyblion, sy’n gweithio yn Stryt y Lambpit, yn delio â hyn a gallwch ei ffonio ar (01978) 297401.

Rheolir derbyniadau i ysgolion cynradd/babanod cymunedol ac ysgolion a reolir gan bolisi derbyniadau’r Awdurdod. Os dewiswch ysgol gymunedol neu ysgol a reolir yn wirfoddol heblaw am yr ysgol gynradd/fabanod agosaf, ni fydd yr Awdurdod mewn sefyllfa i gynnig cludiant i’ch plentyn ac, o ganlyniad, chi fydd yn gyfrifol am wneud a thalu am y trefniadau hyn. Mae manylion am y polisi cludiant wedi eu nodi yn y Canllaw Rhieni i Wasanaethau Addysg yn Wrecsam.

Manylion Cyswllt

Os yw eich amgylchiadau’n newid a’ch bod am newid eich dewis ysgol, ond eich bod eisoes wedi dychwelyd y ffurflen dderbyn, cysylltwch â’r Swyddfa Derbyniadau ar 01978 297401.

Gweld rhestr o ysgolion o'n Cronfa Ddata Ysgolion >>

yn ôl i'r brig


Pecyn Derbyniadau Derbyn

Gellir lawrlwytho'r Pecyn Derbyniadau Derbyn yn y ffurfiau canlynol:

Pecyn Derbyniadau Iau - Fformat PDF 145kb


I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.


Manylion Cyswllt

Cyfeiriad:
Galw Wrecsam
16 Stryt yr Arglwydd
Wrecsam
LL11 1LG

Ebost: A&T@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 297401

Wyneb yn wyneb:
Galw Wrecsam
16 Stryt yr Arglwydd
Wrecsam

yn ôl i'r brig