Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Derbyniadau i Ddosbarthiau/Ysgolion Meithrin Ar Gyfer Medi 2008

 

Mae’r Cyngor, fel yr Awdurdod Addysg Lleol (AALl), yn sicrhau y darperir addysg feithrin o fewn ystod o ysgolion. Gall fod yn addysg cyfrwng Saesneg, Cymraeg neu’n ysgol a gynorthwyir neu a reolir. Cynigir addysg feithrin ar sail 5 sesiwn o 2 ½ awr yr wythnos yn ystod y flwyddyn ysgol 2008/2009. Bydd y pennaeth yn rhoi gwybod i chi pa sesiynau fydd eich plentyn yn gallu eu mynychu cyn gynted â phosibl ar ôl i chi gael gwybod am le meithrin i’ch plentyn.

Mae’r Polisi Derbyniadau Meithrin yn caniatáu i rieni fynegi dewis am le mewn unrhyw ysgol feithrin. Bydd yr Awdurdod Derbyn yn ystyried dewisiadau rhieni wrth ddyrannu lleoedd. Fodd bynnag, cynghorir rhieni y bydd lleoedd yn cael eu dyrannu yn y drefn ganlynol os bydd mwy o geisiadau nag sydd o leoedd:

  • bydd yr AALl yn ystyried anghenion plant mewn gofal cyhoeddus (Plant y Gofelir Amdanynt);

  • bydd yr AALl yn ystyried anghenion addysgol arbennig plant (gan gynnwys y rhai sy’n destun datganiadau dan Adran 324 o Ddeddf Addysg 1996); amgylchiadau arbennig eraill (gan gynnwys rhesymau meddygol); plant y gofelir amdanynt;

  • bydd yr AALl yn caniatáu i frodyr a chwiorydd iau gael eu derbyn i’r un ysgol â’r plentyn hŷn cofrestredig ar gyfer y flwyddyn dderbyn;

  • bydd yr AALl yn rhoi ystyriaeth lawn i agosrwydd cartref plentyn i’r dewis ysgol. Bydd yr AALl yn sicrhau y cynigir lle yn ysgol agosaf briodol y plentyn cyn belled ag sy’n bosibl. Wrth weithredu’r maen prawf hwn, rhoddir ystyriaeth hefyd i drefniadau cludiant ac unrhyw deithiau peryglus posibl rhwng y cartref a’r ysgol.

Os oes gan eich plentyn frawd neu chwaer hŷn wedi eu cofrestru yn eich dewis ysgol eisoes, a fydd yn dal ar gofrestr yr ysgol pan fydd y plentyn iau’n bwriadu cychwyn, nodwch hyn ar y ffurflen dderbyn, gan roi enw a dyddiad geni’r plentyn hŷn.

Fe’ch atgoffir na ddarperir cludiant i blant oed meithrin ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol. Sylwer hefyd nad yw derbyn plentyn i ddosbarth meithrin mewn ysgol benodol yn gwarantu lle i’ch plentyn yn nosbarth derbyn yr ysgol honno.

Cwblhewch y ffurflen dderbyn a dychwelwch hi at bennaeth eich dewis ysgol feithrin, gynradd neu fabanod erbyn 20 Chwefror 2008. Gall yr Awdurdod Derbyn dderbyn nifer benodol o ddisgyblion i bob ysgol feithrin a bydd yn derbyn hyd at y nifer derbyn yn unig (dangosir y nifer hon yn y rhestr ysgolion yn y Canllaw Rhieni, Gwarcheidwaid a Gofalwyr i Wasanaethau Addysg Wrecsam). Ystyrir yr holl geisiadau a dderbyniwn cyn y dyddiad cau hwn (h.y. erbyn 20 Chwefror 2008) cyn y rhai a dderbyniwn ar ôl y dyddiad cau. Mae’n bwysig iawn felly eich bod yn cwrdd â’r terfyn amser y cyfeirir ato uchod.

Amlinellir meini prawf dyrannu lleoedd yr Awdurdod Derbyn yn y Canllaw i Rieni, Gwarcheidwaid a Gofalwyr. Mae copïau ar gael o ysgolion yr Awdurdod, ei swyddfeydd ac, at ddibenion cyfeirio, mewn llyfrgelloedd cyhoeddus.

Os ydych wedi mynegi dewis am ysgol feithrin neu gynradd gymunedol neu ysgol a reolir, bydd eich cais yn cael ei ystyried gan y Cyngor, fel yr AALl. Os ydych wedi mynegi dewis am ysgol babyddol neu ysgol a gynorthwyir gan yr Eglwys yng Nghymru, bydd eich cais yn cael ei ystyried gan gorff llywodraethol yr ysgol honno.

Bydd yn cymryd peth amser i gwblhau’r broses ddyrannu ond byddwch yn cael gwybod erbyn 31 Mawrth 2008 a roddwyd lle i’ch plentyn yn eich dewis ysgol feithrin neu beidio.

Er bydd yr Awdurdod Derbyn yn ystyried dewisiadau rhieni wrth ddyrannu lleoedd, dylech gofio nad oes gennych hawl ffurfiol i apelio yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod i beidio â rhoi lle i’ch plentyn yn yr ysgol honno.

Os teimlwch fod yna amgylchiadau arbennig y dymunwch dynnu sylw’r Awdurdod atynt, nodwch y rhain ar y ffurflen.

Os oes gan eich plentyn anabledd a allai effeithio ar ei g/chynnydd yn yr ysgol, nodwch hyn ar y ffurflen.

Os oes gan eich plentyn ddatganiad o angen addysgol arbennig, bydd y Cyngor, fel yr AALl, yn gwneud ei orau i ganiatáu eich dewis ysgol feithrin ond rhaid iddo fod yn sicr y gall yr ysgol fodloni anghenion eich plentyn yn llawn. Ar ôl i’r Awdurdod dderbyn eich ffurflen, bydd swyddog o’r AALl yn ysgrifennu atoch ac mae’n bosibl y bydd am drefnu cyfarfod i drafod addysg feithrin eich plentyn.

Os bydd eich amgylchiadau’n newid ac os bydd angen i chi newid eich dewis ond rydych wedi dychwelyd y ffurflen dderbyn, ffoniwch y Swyddfa Derbyniadau ar 01978 297568/29769.

Gweld rhestr o ysgoli


on o'n Cronfa Ddata Ysgolion >>

yn ôl i'r brig

 Pecyn Derbyniadau Meithrin

Dim pecyn.

Gellir lawrlwytho'r Pecyn Derbyniadau Iau yn y ffurfiau canlynol:

Pecyn Derbyniadau Meithrin - Fformat PDF 451Kb 


I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 
English
 

Cysylltiadau i

Derbyniadau Meithrin
Derbyniadau Babanod Derbyn/Cynradd
Derbyniadau Iau
Derbyniadau Uwchradd
Dychwelyd i'r Mynegai

Link to download this advice sheet
Lawrlwytho'r Pecyn Derbyniadau Derbyn
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint