|
Mae Deddf Safonau a Fframwaith Ysgol (1998) yn eich galluogi i fynegi dewis am yr ysgol iau y dymunwch i’ch plentyn/plant ei mynychu. I’ch helpu, gofynnir i’r Awdurdod Addysg Lleol (AALl) gyhoeddi peth gwybodaeth am ei ysgolion a pholisïau a fydd, yn ogystal â’r prosbectws y mae’r ysgol wedi ei baratoi, yn eich helpu i ddatgan dewis. Gweler y cyswllt i Ganllaw Rhieni, Gwarcheidwaid a Gofalwyr i Wasanaethau Addysg yn Wrecsam am wybodaeth bellach. Mae copïau pellach ar gael yn ysgolion a swyddfeydd yr Awdurdod ac yn y llyfrgelloedd cyhoeddus, er mwyn i chi eu darllen. Os hoffech ymweld ag ysgol cyn mynegi dewis, dylech drefnu apwyntiad gyda’r pennaeth. Gallwch fynegi eich dewis ar sail y wybodaeth a geir yn y dogfennau a’ch ymweliad â’r ysgol(ion) wedyn.
Sylwer nad yw’r gyfraith yn caniatáu i chi ddewis ysgol i’ch plentyn, dim ond datgan dewis i’ch plentyn/plant fynd i ysgol benodol. Wrth gwrs, gwneir pob ymdrech i sicrhau bod eich plentyn yn cael lle yn eich dewis ysgol.
Bydd yr Awdurdod yn derbyn cyfeiriad cartref y disgybl yn unig ac nid, er enghraifft, cyfeiriad y gwarchodwr neu nain a thaid. Gellir gofyn i rieni ddarparu dogfennau swyddogol yn dangos cyfeiriad cartref. Cynghorir rhieni y gellir gwrthod lle ysgol os yw’r wybodaeth a roddir ar y ffurflen gais yn dwyllodrus neu’n gamarweiniol. Gallai hyn olygu na fydd lle ar gael i’ch plentyn yn eich ysgol agosaf nesaf. Os na all dau riant gytuno ar ddewis ysgol, rhaid iddynt gael cyngor cyfreithiol annibynnol ac, os bydd angen, gorchymyn llys priodol cyn cyflwyno’r un ffurflen gais i’r AALl.
Os oes gan eich plentyn anabledd a allai effeithio ei ch/gynnydd a chyfranogiad ym mywyd yr ysgol, nodwch hyn ar y ffurflen.
Os oes gan eich plentyn ddatganiad o angen addysgol arbennig, bydd yr AALl yn gwneud ei orau i ganiatáu eich dewis o ysgol iau ond mae’n rhaid iddo sicrhau y gall yr ysgol fodloni anghenion eich plentyn hefyd. Pan dderbyniwn eich ffurflen, bydd swyddog o’r AALl yn ysgrifennu atoch ac mae’n bosibl y bydd modd trefnu cyfarfod i drafod addysg eich plentyn yn yr ysgol iau.
Os oes gan eich plentyn frawd neu chwaer wedi eu cofrestru yn yr ysgol eisoes a fydd yn dal i fod ar y gofrestr pan fydd y plentyn iau’n dechrau, nodwch hyn ar y ffurflen dderbyn gan roi eu henwau a dyddiadau geni.
Sylwer nad oes sicrwydd o le mewn ysgol iau gan ei bod yn ysgol ar wahân i’r ysgol fabanod.
Bydd yr awdurdod derbyn yn derbyn disgyblion hyd at nifer derbyn ysgolion (dangosir y niferoedd hyn yn y rhestr ysgolion yn y ‘Canllaw Rhieni, Gwarcheidwaid a Gofalwyr i Wasanaethau Addysg yn Wrecsam’). Ymdrinnir â cheisiadau hwyr ar ôl y rhai sy’n cyrraedd erbyn y dyddiad cau. Felly, mae’n bwysig eich bod yn cofio’r dyddiad cau y cyfeirir ato uchod.
Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd yn eich dewis ysgol, bydd yr awdurdod derbyn yn defnyddio’r meini prawf a gyhoeddir yn y ‘Canllaw Rhieni, Gwarcheidwaid a Gofalwyr i Wasanaethau Addysg yn Wrecsam’ i ddosbarthu lleoedd yn yr ysgol honno.
Bydd yn cymryd peth amser i gwblhau’r broses ddosbarthu ond byddwch yn cael gwybod erbyn 17 Mawrth 2008 a roddwyd lle i’ch plentyn yn eich dewis ysgol neu beidio.
Os na all yr AALl roi lle i’ch plentyn yn eich dewis ysgol, bydd gennych hawl i gyflwyno achos ger bron panel apeliadau annibynnol.
Os dymunwch apelio yn achos ysgol gymunedol neu ysgol a reolir, dylech ysgrifennu at y y Prif Swyddog Dysgu a Chyflawniad. Ar gyfer disgyblion â datganiadau neu sydd yn y broses o gael datganiad, bydd y Swyddog Cefnogi Disgyblion, sy’n gweithio yn Nhŷ Henblas, yn delio â hyn a gallwch ei ffonio ar (01978) 297537.
Rheolir derbyniadau i ysgolion iau cymunedol ac ysgolion iau a reolir gan bolisi derbyniadau’r Awdurdod. Os dewiswch ysgol gymunedol neu a reolir heblaw am yr ysgol iau agosaf, ni fydd yr Awdurdod mewn sefyllfa i gynnig cludiant i’ch plentyn ac, o ganlyniad, chi fydd yn gyfrifol am wneud a thalu am y trefniadau hyn. Mae manylion am y polisi cludiant wedi eu gosod allan yn y ‘Canllaw Rhieni, Gwarcheidwaid a Gofalwyr i Wasanaethau Addysg yn Wrecsam’.
Dychwelwch y ffurflen gais at bennaeth eich dewis ysgol erbyn 22 Hydref 2007. Os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau am y gweithdrefnau, cysylltwch â’r Swyddfa Derbyniadau.
Cyswllt
Os bydd eich sefyllfa yn newid a bod angen newid eich dewis ysgol ond eich bod wedi dychwelyd y ffurflen dderbyniadau, cysylltwch â’r Swyddfa Dderbyniadau ar 01978 297568 / 297569.
Gweld
rhestr o ysgolion o'n Cronfa Ddata Ysgolion >>
yn ôl i'r brig
Pecyn
Derbyniadau Iau
Gellir
lawrlwytho'r Pecyn Derbyniadau Iau yn y ffurfiau canlynol:
Pecyn Derbyniadau Iau - Fformat PDF 230kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
|