|
Yn ystod cyfnod addysg gynradd a blynyddoedd cyntaf
addysg uwchradd (blynyddoedd 7,8 a 9) mae pob ysgol yn cynnig rhaglen
eang a chybwys sydd yn cynnwys pob pwnc yn y Cwricwlwm Cenedlaethol. Y
nod yw sicrhau sylfaen gadarn mewn sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth
sylfaenol a hybu datblygiad personol pob disgybl.
Mae pob disgybl blwyddyn 10 ac 11 (y 4edd flwyddyn a'r 5ed yn mynd yn
eu blaenau i astudio pynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol ond mae rhywfaint
o gyfle iddynt ddewis opsiynau priodol i'w dawn a'u diddordebau. Ymgynghorir
yn llawn â rhieni ynghylch yr opsiynau hyn ac am addysg barhaol, hyfforddiant
a chyfleoedd gwaith. Mae ymgynghorydd gyrfaoedd yn gysylltiedig â phob
ysgol ac mae cwnsela a chyngor ar gael yn hawdd felly.
Mae ysgolion Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn anelu at ddatblygu eu disgyblion
yn academaidd, yn bersonol ac yn gymdeithasol. Mae gan bob ysgol strwythur
bugeiliol sydd yn darparu ar gyfer gofal a lles.
Ar ddiwedd cyfnod olaf addysg orfodol mae pob ysgol yn darparu cyfleoedd
i ddisgyblion sefyll arholiadau cyhoeddus. Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion
yn sefyll arholiadau'r Dystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd (TGAU).
Mae rhai disgyblion yn dilyn cyrsiau galwedigaethol yn ogystal.
|