Cyfrifoldeb Rhieni
Yn dilyn newidiadau yn y ddeddfwriaeth am blant yn Neddf Plant 1989,
a ddaeth i rym ym mis Hydref 1991, mae angen i ysgolion gael gwybod pwy
sydd â chyfrifoldeb rhieni am bob plentyn. Mae hyn yn sicrhau bod caniatâd
y rhai iawn yn cael ei roi pan fo ar yr ysgol eisiau caniatâd rhieni.
Mae hefyd yn sicrhau bod y rhai sydd â chyfrifoldeb rhieni ond nad ydynt
yn byw gyda'r plentyn yn derbyn adroddiadau ysgol a'u bod yn cael cyfle
i gyfrannu i addysg y plentyn.
-
Mae gan famau gyfrifoldeb rhiant bob amser.
-
Mae gan dadau gyfrifoldeb rhiant hefyd os yw’r tad yn briod â’r fam ar adeg genedigaeth
y plentyn. Mae hyn yn parhau ar ôl unrhyw ysgariad/gwahanu/ail briodas, hyd yn oed os
yw’r plentyn yn byw ar wahân iddynt.
- Mae gan dadau di-briod gyfrifoldenb rhiant os yw’r tad a’r fam wedi cofrestru
genedigaeth y plentyn gyda’i gilydd (mae hyn yn newid i’r Ddeddf Planmt 1989 a ddaeth i
rym ar 1af Rhagfyr 2003 ac nid yw’n ôl-weithredol)
- Gall tadau dibriod, llys-rieni, tylwyth ac unigolion eraill gael cyfrifoldeb rhiant, ond nid
ydynt yn cael hyn fel mater o drefn.
Gofynnir i rieni gydweithredu â staff ysgol trwy ddarparu manylion i'r
ysgol am y rhai sydd â chyfrifoldeb rhieni am ddisgybl. Dylid rhoi gwybod
i'r ysgol am unrhyw newid mewn cyfrifoldeb rhieni ac am unrhyw newid yn
y gofal beunyddiol a gaiff y plentyn.
Mae unrhyw gyfeiriad at "rieni" yn y llawlyfr hwn yn cynnwys unrhyw un
sydd â chyfrifoldeb am ddisgybl(ion).
Canllaw Rhieni, Gwarcheidwaid a Gofalwyr i Wasanaethau Addysg yn Wrecsam
Mae'r dogfen ar gael ar y ffurfiau canlynol:
Canllaw Rhieni, Gwarcheidwaid a Gofalwyr i Wasanaethau Addysg yn Wrecsam - fformat PDF 1.9Mb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
|