Polisi a Threfniadau Darparu Prydau Bwyd a Lluniaeth
Ysgafn
Efallai y gallwch hawlio cymorth ariannol neu Iwfansau i helpu gydag
addysg eich plentyn. Mae'r paragraffau canlynol yn cyfeirio at yr amrediad
o fudd-daliadau sydd ar gael i rieni sy'n cyfarfod y meini prawf.
Os dymunwch gael manylion pellach neu ffurflenni cais dylech ofyn yn
ysgol eich plentyn neu gysylltu â'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau
Hamdden, Ty Henblas, Wrecsam, Ffôn 01978 297489, email
Bydd yr Awdurdod yn sicrhau:-
-
Bod pryd bwyd canol dydd yn cael ei ddarparu ym mhob ysgol gynradd
ac ysgol arbennig, gyda dewis lle bo modd.
-
Bod pryd bwyd canol dydd yn cael ei ddarparu ym mhob ysgol uwchradd
ar ddul cafeteria gyda phris unigol i'r eitemau.
-
Mai i ddisgyblion y mae eu rhieni yn derbyn Ategiad Incwm neu sy'n
ei dderbyn eu hunain y darperir cinio am ddim.
Gellir cael manylion am y drefn o hawlio prydau ysgol am ddim gan Bennaeth
yr ysgol ac fe ymdrinnir â phob ymholiad yn gyfrinachol.
Bydd cyfleusterau ar gael ym mhob ysgol gynradd ac ysgol uwchradd i blant
sy'n dymuno dod â'u prydau bwyd canol dydd eu hunain.
Deddf Addysg 1996 - Polisi Codi Tâl a Pholisi Rhyddhad Rhag Talu
Mae Polisi llawn Codi Tâl a Pholisi Rhyddhad Rhag Talu Corff Llywodraethol
eich ysgol ar gael gan Bennaeth ysgol eich plentyn.
Polisi'r A.A.LL. Ar Ryddhad Rhag Talu
Y disgyblion sydd â hawl i gael rhyddhad rhag talu yw'r rhai hynny y
mae eu rhieni yn derbyn Ategiad Incwm neu Gredyd Teulu; neu Lwfans Ceisio
Gwaith neu Lwfans Anabledd Gweithio ar sail incwm.
Y siwrneiau/ymweliadau ysgol a fyddai'n gymwys ar gyfer rhyddhad llawn
rhag talu costau llety a chynhaliaeth yw'r rhai sydd: -
-
Yn digwydd yn ystod yr oriau ysgol diffiniedig
-
Yn rhan o ddarpariaeth y Cwricwlwm Cenedlaethol neu'n rhan o'r ddyletswydd
i ddarparu addysg grefyddol.
-
Yn darparu rhan o Faes llafur arholiad penodedig; ac yn bodloni rheolau
a rheoliadau A.A.Ll. sy'n berthnasol i siwrneiau ysgol.
Ychwanegiadau Disgresiwn
Gall disgyblion sydd â hawl i gael y rhyddhad statudol lleiaf gael eu
gwahodd o dro i dro i gynrychioli eu hysgol neu'r A.A.Ll. ar gyfnewidiadau
tramor neu gymryd rhan mewn cyrsiau maes neu anturiaethau arbennig. O
dan yr amgylchiadau hynny mae'r A.A.Ll. yn bwriadu rhoi ystyriaeth ddisgresiwn
i achosion unigol o'r fath.
Mae manylion am y drefn o hawlio rhyddhad ar gael gan Benaethiaid Ysgolion
ac ymdrinnir ag ymholiadau yn gyfrinachol. Caiff ceisiadau trwy'r Pennaeth
eu prosesu gan y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Hamdden, Ty Henblas,
Wrecsam, 01978 297489/297466, Ebost: education@wrexham.gov.uk
|