Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Disgyblaeth a Gwaharddiadau

 

Gwaharddiadau am Gyfnod Penodol - Gwybodaeth i Rieni

Mae ysgolion yn cymryd y broses o wahardd disgyblion yn ddifrifol iawn ac nid yw’n gam a gymerir yn ddifeddwl.

Mae ysgolion yn cymryd y broses o wahardd disgyblion yn ddifrifol iawn ac nid yw’n gam a gymerir yn ddifeddwl.

  • Os yw fy mhlentyn wedi’i wahardd o’r ysgol am gyfnod penodedig, beth mae hyn yn ei olygu?
  • Beth os yw fy mhlentyn yn hÿn na’r oedran ysgol gorfodol e.e. y chweched dosbarth?
  • A oes gennyf hawl i weld cofnodion ysgol fy mhlentyn?
  • Beth fydd yn digwydd i addysg fy mhlentyn yn y cyfamser?
  • Beth os yw fy mhlentyn wedi’i wahardd am gyfnod penodol a bod disgwyl iddo sefyll arholiadau yn ystod yr amser hwnnw?
  • Beth ddylwn ei wneud os wyf yn anghytuno â gwaharddiad fy mhlentyn?
  • Pwy fydd yn y cyfarfod?
  • Beth fydd yn digwydd yn y cyfarfod?
  • Y Weithdrefn Waharddiadau

Os yw fy mhlentyn wedi’i wahardd o’r ysgol am gyfnod penodedig, beth mae hyn yn ei olygu?

Bydd y pennaeth wedi’ch hysbysu yn ysgrifenedig na all eich plentyn fynychu’r ysgol am gyfnod penodol.  Bydd dyddiad dychwelyd i’r ysgol yn cael ei bennu pan waherddir eich plentyn o’r ysgol.  Gall yr ysgol wahardd eich plentyn am hyd at 45 diwrnod mewn blwyddyn ysgol.

*Rhaid i ddisgyblion a waherddir gael eu cadw gartref nes eu bod yn cael dychwelyd i’r ysgol.  Ni ddylent ddod yn agos at yr ysgol yn ystod y cyfnod hwn.

yn ôl i'r brig

Beth os yw fy mhlentyn yn hŷn na’r oedran ysgol gorfodol e.e. y chweched dosbarth?

Oherwydd bod enw eich plentyn yn dal i fod ar gofrestr yr ysgol, dilynir y gweithdrefnau gwahardd arferol.

yn ôl i'r brig

A oes gennyf hawl i weld cofnodion ysgol fy mhlentyn?

Oes.  O dan Reoliad 6 a 7 o’r Rheoliad Addysg (Cofnodion Ysgol) 1989, mae gennych hawl i gael mynediad at gofnodion cwricwlaidd yr ysgol a chofnodion addysgol eraill ar gyfer eich plentyn.

Dylech wneud cais am weld cofnodion eich plentyn i gorff llywodraethol yr ysgol.  I wneud hyn, gellwch ysgrifennu at y pennaeth neu gadeirydd y llywodraethwyr yng nghyfeiriad yr ysgol.

yn ôl i'r brig

Beth fydd yn digwydd i addysg fy mhlentyn yn y cyfamser?

Bydd yr ysgol yn trefnu bod gwaith yn cael ei osod i’ch plentyn ei wneud gartref a’i fod yn cael ei farcio nes bod ef neu hi yn dychwelyd i’r ysgol.  Cysylltwch â’r ysgol i drefnu hyn.

yn ôl i'r brig

Beth os yw fy mhlentyn wedi’i wahardd am gyfnod penodol a bod disgwyl iddo sefyll arholiadau yn ystod yr amser hwnnw?

Fel arfer, trefnir bod eich plentyn yn cael sefyll yr arholiadau.  Cysylltwch â’r ysgol i drafod y mater.

yn ôl i'r brig

Beth ddylwn ei wneud os wyf yn anghytuno â gwaharddiad fy mhlentyn?

Os nad ydych yn cytuno â phenderfyniad y pennaeth i wahardd eich plentyn am gyfnod penodol, mae gennych hawl i roi sylwadau (h.y. cyflwyno’ch achos) i bwyllgor disgyblu’r llywodraethwyr.  Os yw’ch plentyn wedi’i wahardd am fwy na 15 diwrnod (mewn unrhyw dymor) neu os bydd eich plentyn yn methu arholiad cyhoeddus, trefnir cyfarfod gan bwyllgor disgyblu'r llywodraethwyr i benderfynu p’un a ddylid derbyn eich plentyn yn ôl.

Os byddwch yn penderfynu cyflwyno achos i’r corff llywodraethol, fe’ch gwahoddir chi a’ch plentyn i gyfarfod pwyllgor disgyblu'r llywodraethwyr (tri llywodraethwr fel arfer) lle y bydd modd i chi ddatgan eich achos.

Trefnir y cyfarfod hwn cyn gynted ag y bo’n ymarferol ond pan fo disgybl wedi’i wahardd am gyfnod penodol byr, yn aml bydd wedi dychwelyd i’r ysgol cyn y gellir cynnal y cyfarfod.  Os cynhelir y cyfarfod ar ôl i’ch plentyn ddychwelyd, mae’n gyfle da i chi roi eich barn am y gwaharddiad i’r llywodraethwyr.

Wrth gyflwyno eich achos, bydd angen i chi ddangos bod eich plentyn wedi cael ei drin yn annheg naill ai oherwydd eich bod yn anghytuno â’r disgrifiad o’r drosedd/troseddau neu am fod gwaharddiad yn gosb rhy lym am yr hyn ddigwyddodd.  Os hoffech, gallech ddod â rhywun gyda chi (ffrind, aelod arall o’r teulu, cyfieithydd neu arwyddwr fel arfer) i’r cyfarfod i’ch helpu i roi eich barn neu i helpu i gadw cofnod o’r hyn sy’n digwydd.

Fe’ch hysbysir yn ysgrifenedig o benderfyniad pwyllgor disgyblu'r llywodraethwyr yn dilyn y cyfarfod a’r rheswm dros y penderfyniad hwnnw.

yn ôl i'r brig

Pwy fydd yn y cyfarfod?

Panel o lywodraethwyr, tri fel arfer, y pennaeth ac ambell waith bydd uwch aelodau eraill o staff yn bresennol.

Ambell waith bydd swyddog o’r adran addysg yn mynychu er mwyn cynghori ynghylch priodoldeb y gwaharddiad a’r gweithdrefnau.

yn ôl i'r brig

Beth fydd yn digwydd yn y cyfarfod?

Bydd cadeirydd pwyllgor disgyblu’r llywodraethwyr yn eich croesawu i’r cyfarfod, yn cyflwyno pawb sy’n bresennol ac yn esbonio beth fydd yn digwydd yn y cyfarfod a’r weithdrefn waharddiadau.  Bydd y pennaeth neu aelod priodol arall o staff, yn esbonio pam y gwaharddwyd eich plentyn.  Yna byddwch yn gallu gofyn cwestiynau i’r pennaeth am ei (h)adroddiad a bydd modd i chi gyflwyno eich achos.  Wedyn, gallai’r llywodraethwyr ofyn cwestiynau i chi neu’ch plentyn am naill ai adroddiad y pennaeth neu faterion yr ydych wedi’u codi.  Pan fydd y panel yn teimlo eu bod yn gallu dod i benderfyniad byddant yn cloi’r cyfarfod a bydd pawb yn gadael ac eithrio’r llywodraethwyr.  Byddwch yn cael eich hysbysu yn ysgrifenedig o benderfyniad y llywodraethwyr yn syth ar ôl y cyfarfod.

yn ôl i'r brig

Mae’r trefniadau hyn yn berthnasol ym mhob ysgol a gynhelir.  Am gyngor neu wybodaeth bellach, cysylltwch â’r canlynol:

Y Weithdrefn Waharddiadau:

Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol Addysg
01978 297532

Cyfeiriad ar gyfer y gwasanaeth uchod:

Tŷ Henblas,
Sgwâr y Frenhines,
Wrecsam,
LL13 8AZ.

Am gyngor annibynnol, gellwch hefyd gysylltu â:

Y Ganolfan Gynghori ar Addysg (ACE).  Rhif y llinell gymorth: 020 7704 9822

 
English
 

Cyswllt i

Dyddiadau Tymor
Cysylltiadau Addysg
Addysg
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint