Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Gwasanaeth Iechyd Plant

 

Pwrpas y Gwasanaeth Iechyd Plant yw sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle gorau posibl i ddysgu, heb amhariaeth oherwydd problemau iechyd. I wneud hyn, mae meddygon a nyrsys yn ymweld ag ysgolion i drefnu asesiadau iechyd i blant ac i wneud profion ar gyfer problemau glywed, gweld, tyfu, siarad a datblygiad cyffredinol fel bo problemau iechyd yn cael eu hadnabod yn gynnar. Maent hefyd yn cynghori rhieni ac athrawon fel y gellir deall goblygiadau problemau iechyd plentyn yn llawn a threfnir cymorth a chefnogaeth lle bydd angen.

Mae meddygon a nyrsys ysgol hefyd yn rhoi archwiliad llawn i blant oddeutu'r adeg y maent yn dechrau ysgol. Ar ôl hyn, maent yn trefnu archwiliadau pellach os yw'n ddymunol o ganlyniad i ganlyniadau arolwg meddygol blaenorol, os yw plentyn yn datblygu problemau newydd neu os yw rhieni neu athrawon yn poeni bod rhywbeth o'i le; anogir rhieni i fod yn bresennol yn yr archwiliadau hyn.

Mae'r Gwasanaeth Iechyd Plant hefyd yn sicrhau bod plant yn cael eu gwrth-heintio'n llawn i'w diogelu rhag clefydau heintus difrifol. Lle'n angenrheidiol, cyngir gwrth-heintio mewn clinigau lleol neu mewn ysgolion.

Ariannir y gwasanaeth gan yr Awdurdod Iechyd.

 

 
English
 

Cyswllt i

Dyddiadau Tymor
Cysylltiadau Addysg
Dychwelyd i Dudalen Gynnwys Addysg
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint