|
Bydd yr Awdurdod Addysg Lleol (A.A.Ll.) yn cadw at ei ddyletswydd i sicrhau
darpariaeth addysg effeithlon a defnydd effeithlon o adnoddau. Wrth wneud
hyn, bydd yr A.A.Ll. yn rhoi ystyriaeth i'r holl adnoddau, gan gynnwys
yr adeiladau a'r staff sydd ar gael i bob ysgol ac unrhyw gyfyngiadau
o orfodir gan drefniadaeth a chwricwlwm yr ysgol. Bydd hefyd yn ystyried
yr oblygiadau i'r Awdurdod o ran adnoddau a'r effaith ar bolisïau addysg
eraill.
Isod rhestrir meini prawf yr A.A.Ll. ar gyfer derbyn plant i ysgolion.
Maent yn dibynnu ar:
-
Gyfrifoldeb yr A.A.Ll i sicrhau bod disgybl â Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig yn cael ei dderbyn gan ysgol sy’n gallu diwallu’r anghenion hynny;
-
Gyfrifoldeb yr A.A.Ll i gydymffurfio â'r cyfyngiad ar ddosbarthiadau
babanod.
-
Gyfrifoldeb yr A.A.Ll i sicrhau darpariaeth addysg effeithlon a defnydd
effeithlon o adnoddau; ac
-
Unrhyw gyfyngiad a all godi mewn perthynas ag ysgol arbennig oherwydd cadw at y nifer derbyn, sef nifer y plant y gellir eu derbyn ym mhob grŵp blwyddyn yn ystod y flwyddyn ysgol.
Meini Prawf Gormod o Geisiadau
Oherwydd hyn, wrth ystyried dewis y rhieni, defnyddir y meini prawf oni
bai fod yr A.A.Ll. wedi cytuno gyda chorff llywodraethol unigol ar drefn
Blaenoriaeth wahanol fel a gyhoeddwyd ym mhrosbectws yr ysgol. Lle mae
mwy o rieni wedi mynegi dymuniad ar gyfer ysgol mewn blwyddyn benodol
nag y mae lle ar eu cyfer defnyddir y meini prawf canlynol yn y drefn
a nodir:
-
Bydd yr A.A.Ll yn ystyried anghenion plant mewn gofal cyhoeddus (Plant y Gofelir Amdanynt);
-
Bydd yr A.A.Ll. yn cynnal cysylltiadau rhwng ysgolion babanod penodol
ac ysgolion iau penodol a rhwng ysgolion iau neu gynradd a rhai ysgolion
uwchradd penodol yn unol â phenderfyniad y Cyngor Bwrdeistref Sirol;
-
Bydd yr A.A.Ll. yn ystyried anghenion addysgol arbennig y plant (gan gynnwys y rhai y gwnaed datganiadau amdanynt dan Adran 324 o Ddeddf Addysg 1996) ac amgylchiadau arbennig eraill, yn cynnwys rhai medyggol;
-
Bydd yr A.A.Ll. yn caniatáu i frodyr neu chwiorydd iau gael eu derbyn
yn yr ysgol lle cofrestrir y plentyn hyn ar gyfer y flwyddyn dderbyn;
-
Bydd yr A.A.Ll. yn ystried yn ddwys agosrwydd cartref y plentyn i'r
ysgol mae wedi ffafrio. Bydd yr A.A.Ll. yn sicrhau cyn belled â phosibl
y cynigir lle yn yr ysgol addas agosaf ynWrecsam i gartref y plentyn
o fewn y Fwrdeistref Sirol. Wrth weithredu'r maen prawf hwn
rhoddir ystyriaeth hefyd i drefniadau cludiant ac unrhyw ffordd beryglus
rhwng y cartref a'r Ysgol.
Cyfyngiad
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i sicrhau na fydd unrhyw blentyn 5,6, a 7 oed mewn dosbarth o fwy na 30 o ddisgyblion i bob athro cymwysedig yn unol â Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Mae’r cyfyngiad statudol i 30 disgybl mewn dosbarth babanod yn berthnasol i ddosbarthiadau derbyn, blwyddyn 1 a blwyddyn 2.
Cyfweliadau
Ni ddefnyddir cyfweliadau fel rhan o'r cais na'r broses dderbyn ar gyfer yr ysgolion hynny a gynhelir gan yr Awdurdod. Efallai y bydd ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol yn cynnal trafodaethau, ond dim ond ar gyfer asesu ymroddiad crefyddol neu enwadol. Caiff rhieni gysylltu gyda'r ysgolion er mwyn cael prosbectws a fydd yn nodi pa ffactorau penodol a gaiff eu hasesu yn y drafodaeth.
Iaith Gymraeg
Mae'r A.A.Ll. yn darparu ar gyfer rhieni sy'n dymuno i'w plentyn/plant
dderbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gwybodaeth bellach ar gael gan y Tîm Derbyniadau ar 01978 297568 / 297569.
Ysgolion Enwadol
Bydd ar A.A.Ll. yn sicrhau bod rhieni sy'n dymuno i'w plant gael eu haddysgu
mewn ysgol enwadol yn cael cyfle i fynegi eu dewis o ysgol o'r fath. Mae
derbyniadau i Ysgolion a Gynorthwyir yn Wirfoddol yn dibynnu ar y meini
prawf a sefydlir gan gyrff llywodraethol ysgolion o'r fath.
Derbyniadau i Ysgolion Nad Ydynt Yn Cael Eu cynnal Gan yr A.A.Ll
Disgwylir i rieni sy'n dymuno dewis ysgol a gynhelir gan A.A.Ll. ar wahân
i Fwrdeistref Sirol Wrecsam gysylltu â'r Awdurdod hwnnw'n uniongyrchol.
Derbyn Disgyblion o du Allan i Fwrdeistref Sirol Wrecsam
Mewn achosion o'r fath oni bai mai honno yw'r ysgol briodol agosaf, ni
fydd yr A.A.Ll. hwn yn gyfrifol am dalu'r costau cludo rhwng y cartref
a'r ysgol.
Derbynnir plant sy'n byw y tu allan i Fwrdeistref Sirol Wrecsam yn unol
â'r meini prawf.
Ysgolion Annibynnol
Polisi'r Awdurdod hwn yw gosod plant o oed uwchradd mewn ysgolion annibynnol
addas mewn achosion eithriadol yn unig. Fe ystyria'r Awdurdod geisiadau
o'r fath lle mae'n ystyried bod dawn neu angen arbennig y plentyn yn gofyn
am addysg arbennig na ellir ei ddarparu yn y Fwrdeistref Sirol.
|