Strategaeth Gymunedol Wrecsam a'r Bwrdd Gwasanaethau Lleol
Mae Deddf Llywodraeth Leol 2000 yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i hyrwyddo ffyniant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol eu cymunedau lleol a chyfrannu tuag at gyflawni datblygiad cynaliadwy yn y Deyrnas Unedig. Mae'n ofynnol ar bob cyngor i ddatblygu strategaeth gymunedol mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill o'r sector cyhoeddus fel yr heddlu, iechyd, busnesau a grwpiau cymunedol a gwirfoddol, sy'n dangos targedau a chamau hirdymor i wella eu hardal leol.
Roedd gennym ran flaenllaw yn y Bartneriaeth Strategaeth Gymunedol sydd wedi diffinio'r weledigaeth, blaenoriaethau a nodau cymunedol i wella ardal Wrecsam dros y cyfnod 2004-2020. Mae Ffigur 3 yn dangos y chwe blaenoriaeth strategol allweddol a nodwyd yn y Strategaeth Gymunedol.
Mewn ymateb i adolygiad Beecham o gyflenwi gwasanaethau lleol, ymrwymodd Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu gwell perthynas gyda chylchoedd lleol ac atgyfnerthu arweinyddiaeth gwasanaethau lleol i ganolbwyntio mwy ar anghenion y dinesydd. Rhan o'r ymrwymiad hwn oedd datblygu Byrddau Gwasanaethau Lleol (LSB) o'r Partneriaethau Strategaeth Gymunedol presennol.
Roedd Wrecsam yn un o chwe ardal a ddewiswyd fel prosiect datblygu ac mae wrthi'n gweithio ar wneud y trawsnewid hwn. Ar hyn o bryd ffurfiwyd y LSB o gynrychiolwyr uchel yr awdurdod lleol, y sector iechyd, addysg uwch, yr heddlu, Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r sector gwirfoddol. Bydd y bwrdd yn gweithio ar faterion hollbwysig i sicrhau ymateb cyfundrefn gyflawn i anghenion dinasyddion, ac un o swyddogaethau allweddol y LSB fydd cytuno a sicrhau cyflawni nifer o flaenoriaethau allweddol ar sail Cytundeb Gwasanaethau Lleol (LSA). Bydd y Cytundeb Gwasanaethau Lleol yn adeiladu ar y themâu o'r Strategaeth Gymunedol a blaenoriaethau presennol Wrecsam ar y cyd.
Blaenoriaethau Strategol y Strategaeth Gymunedol

Mae'r chwe blaenoriaeth strategol allweddol a nodir yn niagram y Weledigaeth Gymunedol fel a ganlyn:
-
Lle sy'n gwerthfawrogi dysgu
-
Lle diogel
-
Lle gofalgar ac iach
-
Lle y gwerthfawrogir plant a phobl ifanc
-
Lle sy'n ffynnu'n economaidd
-
Lle sy'n gofalu am yr amgylchedd
Cyflawni'r Pethau Pwysig 2008/09
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn anelu at barhau i wneud Wrecsam yn lle ffyniannus a bywiog i fyw, gweithio ynddo ac i ymweld ag ef. Bydd gwaith sy’n mynd ymlaen gyda’n partneriaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol cyfredol yn ganolog er mwyn ‘Cyflawni’r Pethau Pwysig’ i bobl Wrecsam yn 2008/09 ac wedi hynny.
Mae’r diagram ‘Cyflawni’r Pethau Pwysig’ uchod yn darlunio blaenoriaethau’r Cyngor am 2008/09. Mae ‘Cyflawni’r Pethau Pwysig’ yn dangos y gweithgareddau a’r gwasanaethau allweddol y mae’r Cyngor yn eu gwella er mwyn gwneud cyfraniad pwysig i fywydau pobl Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Wrth sefydlu ein hagenda gwelliannau, buom yn ystyried perfformiad blaenorol, dadansoddiad o wybodaeth gan ein prosesau cynllunio corfforaethol a gwasanaeth, adolygiad risg strategol, cynaladwyedd ac asesiadau effaith cydraddoldeb, ymgynghoriadau gyda chwsmeriaid, archwiliad a gwaith effeithiolrwydd a darganfyddiadau arolygiadau. Mae proses ‘Asesiad Risg ar y Cyd’ trylwyr gyda Swyddfa Archwilio a weithredir ar y cyd â Swyddfa Archwiliadau Cymru hefyd yn tanategu ‘Cyflawni’r Pethau Pwysig’.
Mae ‘Cyflawni’r Pethau Pwysig’ wedi’i rannu’n dair lefel: ‘Blaenoriaethau Corfforaethol’, ‘Busnes Corfforaethol Craidd’ a ‘Blaenoriaethau Gwasanaeth’. Mae cynnwys ‘Cydraddoldebau’ a ‘Chynaladwyedd’ yn cynrychioli’n hymroddiad i sicrhau cyflwyno gwasanaeth teg mewn modd cynaliadwy i’n holl wasanaethau.

Swyddog Atebol
Œ = Prif Weithredwr
MR = Cyfarwyddwr Strategol, Malcolm Russell
TG = Cyfarwyddwr Strategol, Terry Garner
PR = Cyfarwyddwr Strategol, Paul Roberts
PW = Cyfarwyddwr Strategol, Phillip Walton
CO = Cyfarwyddwr Strategol
Blaenoriaethau Corfforaethol
Mae canol diagram ‘Cyflawni’r Pethau Pwysig’ yn dangos y saith Blaenoriaeth Gorfforaethol lle’r ydym yn canolbwyntio adnoddau ac ymdrech i newid a gwella gwasanaeth. Bydd y meysydd hyn yn cael sylw pennaf ein swyddogion, Aelodau a chwsmeriaid. Yn aml bydd cyflawni ein Blaenoriaethau Corfforaethol yn gofyn bod nifer o adrannau’n cydweithio. Er mwyn cydgysylltu’r gwaith hwn yn effeithiol, mae Cyfarwyddwr Strategol ar gyfer pob blaenoriaeth sy’n gyfrifol am sicrhau bod gwelliannau’n cael eu cyflawni ac Aelod Arweiniol sy’n gweithredu fel Hyrwyddwr. Ein Blaenoriaethau Corfforaethol yw:
Cyflwyno Strydlun – Strydoedd o Fri (PW)
Mae Strydoedd o Fri yn nodi symudiad sylweddol tuag at wasanaethau sydd wedi’u ffocysu ar y cwsmer a’i nod yw gwneud Wrecsam yn lanach, gwyrddach, diogelach a thaclusach. Mae gwella cyswllt gyda’n cwsmeriaid, lleihau’r amser a gymerir i gyflwyno gwasanaethau allweddol, a chynnydd yn y boddhad gyda’r amgylchedd lleol yn ddeilliannau allweddol i’r flaenoriaeth hon.
Y nifer o bobl hŷn sy’n derbyn cefnogaeth, ac ansawdd ac ystod y gwasanaethau a gânt (PW)
Mae gweithio gyda phartneriaid i gefnogi mwy o bobl hŷn i fyw’n annibynnol gartref yn flaenoriaeth i’r Cyngor. Bydd y flaenoriaeth hon yn canolbwyntio’n benodol ar alluogi mwy o bobl i fyw yn eu tai eu hunain am amser hirach, gwella mynediad at wasanaethau a chynyddu’r nifer o bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth ail-alluogi.
Gwella cyraeddiadau/sgiliau addysgol a lleihau gwaharddiadau (TG)
Yn y maes hwn byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar wella perfformiad mewn ysgolion - anelu at gynyddu’r ganran o ddisgyblion sy’n cael pump neu fwy o lwyddiannau TGAU ar raddfeydd A* i C o 51% i 55%, a chynyddu’r ganran o ddisgyblion ysgolion cynradd sy’n cyrraedd y Dangosydd Pynciau craidd yng Nghyfnod Allweddol 2 i 79%. Yn ychwanegol, rydym yn gweithio i wella cyflawniad grwpiau agored i niwed a chynyddu’r niferoedd o blant gwaharddedig sy’n cymryd mantais o’i hawl i gefnogaeth lawn.
Hyrwyddo datblygiad cynaliadwy a defnydd o dir yn y Fwrdeistref Sirol drwy Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) cadarn (PW)
Bydd gweithredu’r Cynllun Datblygu Unedol a mabwysiadu’r Cynllun Datblygu lleol newydd yn 2010/2011 yn rhoi arweiniad clir i gyfanswm, natur ac ansawdd y datblygiadau newydd. Bydd hyn yn ein cynorthwyo i gyflwyno cyflogaeth, tai fforddiadwy ac ystod o gyfleusterau cymdeithasol gan hefyd amddiffyn ardaloedd eraill rhag datblygiadau anaddas. Yn 2008/09 mae’r ffocws ar gysylltu’n effeithiol gyda chymunedau a phartneriaid i ddatblygu drafft o Gynllun Datblygu Lleol a sicrhau datblygu cynaliadwy.
Lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol (MR)
Mae lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Wrecsam yn golygu gweithio mewn partneriaeth gyda chyrff gwasanaeth cyhoeddus eraill gyda’r nod cyffredinol o leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gwnawn hyn trwy gynorthwyo i weithredu’r gweithgareddau yn y Strategaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, gan gynnwys darparu gweithgareddau dargyfeiriol ar gyfer y rhai sydd mewn perygl o ymddwyn yn wrthgymdeithasol a thrwy gynorthwyo i ariannu Swyddogion Cefnogi’r Gymuned yr Heddlu sy’n gwneud rhan sylweddol o’r gwaith gorfodaeth.
Rhoi'r Cynllun Trafnidiaeth Lleol ar waith er mwyn sicrhau buddsoddiad cynaliadwy i’r isadeiledd trafnidiaeth (PR)
Mae’r flaenoriaeth hon yn cefnogi angen pobl leol ac ymwelwyr am system ffordd, troedffordd a chludiant cyhoeddus ddiogel. Bydd y defnydd o adnoddau yn y maes hwn yn seiliedig ar gyflwr, defnydd a dirywiad disgwyliedig yn y dyfodol o ffyrdd cerbydau a throedffyrdd. Hybir dulliau cynaliadwy o gludiant ynghyd â gwella mynediad i Ystad Ddiwydiannol Wrecsam.
Cynyddu ailgylchu a lleihau tirlenwi (PW)
Rydym yn ymroddedig i drin gwastraff yn y dull mwyaf economaidd a’r dull mwyaf cynaladwy’n amgylcheddol - gan osod targed uchelgeisiol i ddargyfeirio 40% o wastraff bwrdeistrefol o dirlenwi. Rydym hefyd yn anelu at ailgylchu, ailddefnyddio neu gompostio 65% o’r gwastraff a dderbynnir yn y canolfannau ailgylchu gwastraff tŷ a chynyddu’r nifer o gartrefi sy’n cymryd rhan yn y casgliadau ailgylchu oddi ar y pafin i 85%.
Canlyniadau Busnes Corfforaethol Craidd
Y lefel nesaf o flaenoriaethau ‘Cyflawni’r Pethau Pwysig’ yw’r 10 maes ‘Busnes Corfforaethol Craidd’. Mae’r rhain yn wasanaethau strategol y bu’r Cyngor yn rhoi sylw ychwanegol iddynt er mwyn cyflawni gwelliannau. Fel gyda’r Blaenoriaethau Corfforaethol, mae llawer o’r meysydd yn golygu bod angen i adrannau gydweithio i sicrhau’r gwelliannau a ddymunir yn y gwasanaethau.
Blaenoriaethau Gwasanaeth
Trydydd lefel ‘Cyflawni’r Pethau Pwysig’ yw ein hymroddiad i wella gwasanaethau ym mhob adran. Amlinellir y blaenoriaethau hyn yng Nghynlluniau Gwasanaeth yr adrannau bob blwyddyn.
Gwybodaeth ac Atborth
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu os hoffech fwy o wybodaeth am feysydd penodol, yna cyfeiriwch eich ymholiadau at:
Prif Swyddog Perfformiad a Gwelliant
Uned Perfformiad a Gwelliant
Stryt y Lampint
Wrecsam
LL11 1AR
Ffôn: 01978 292253
E-bost: statistics@wrexham.gov.uk
|