Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Gwasanaethau Cymdeithasol

 

A oes gennych rywbeth i'w ddweud?

  • Clod
  • Sylw
  • Cwyn
  • Cwestiwn

Os oes, dymunwn glywed amdano!

Dywedwch wrthym...

Yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Wrecsam, gwnawn ein gorau i ddarparu gwasanaethau o safon uchel i nifer fawr o bobl bob blwyddyn. Rhan fwyaf o’r amser, ni allwn wybod bod rhywbeth o'i le os na ddywedwch wrthym. Yn yr un modd, dymunwn wybod pan fyddwn yn cael pethau’n iawn!

Mae’r daflen hon yn dweud wrthych beth i’w wneud os dymunwch siarad â rhywun.

I wneud hyn, defnyddiwch y bonyn ateb neu ffoniwch neu galwch heibio i un o’r swyddfeydd isod:

Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid
2il Lawr
Adeiladau'r Goron,
Stryt Caer,
Wrecsam

Ffôn: 01978 292007 neu Rhadffôn: 0800 587 6708

E-bost: socialservices@wrexham.gov.uk

Beth i’w wneud os hoffech siarad â rhywun

Cam Un – Cyfnod Datrysiad Lleol

  • Anfonir eich cwyn at reolwr y tîm sy'n gyfrifol am y gwasanaeth yr ydych yn cwyno amdano.
  • Bydd y rheolwr tîm yn gwirio ffeiliau perthnasol ac yn siarad ag aelodau o staff sy'n gysylltiedig.
  • Efallai y bydd y rheolwr tîm yn cysylltu â chi am wybodaeth bellach.
  • Unwaith y bydd y rheolwr tîm yn glir ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd a pham, bydd yn anfon llythyr ymateb yn esbonio'r canlyniad ac yn disgrifio unrhyw gamau pellach a gymerir i ddatrys y broblem.
  • Anfonir y llythyr ymateb atoch o fewn:
  • 10 diwrnod gwaith
  • Os oes angen mwy o amser, efallai y bydd y Rheolwr Tîm yn cysylltu â chi i ofyn am eich cytundeb (hyd at 10 diwrnod gwaith arall).
  • Os byddwch yn dal i fod yn anfodlon ar ôl derbyn yr ymateb, gallwch ofyn i'r mater fynd ymlaen i ail gyfnod y gweithdrefnau

Cam Dau – Cyfnod Ystyriaeth Ffurfiol

  • Dylech gysylltu â rhywun yn nhîm y Gwasanaethau Cwsmeriaid i gadarnhau eich bod yn dymuno mynd â'r mater i'r ail gyfnod.
  • Gallwch naill ai wneud hyn trwy lythyr neu dros y ffôn.
  • Os bydd y berthynas rhwng defnyddiwr y gwasanaeth ac/neu eu teulu â staff y gwasanaethau cymdeithasol yn chwalu, efallai y bydd yn briodol penodi cyfryngwr annibynnol i geisio dod o hyd i ddatrysiad.  Os felly, trafodir yr opsiwn â chi.
  • Os bydd yn fwy priodol i'ch cwyn gael ei hymchwilio, bydd y tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yn trefnu bod rhywun annibynnol o'r gwasanaeth y mae'ch cwyn yn perthyn iddo yn ymchwilio. 
  • Byddant yn ysgrifennu atoch i'ch hysbysu pwy fydd yn ymchwilio i'ch cwyn.
  • Rôl y Swyddog Ymchwilio yw adolygu'r holl ddogfennau sy'n ymwneud â'r gŵyn, cyfweld â'r bobl berthnasol a chynhyrchu adroddiad i Bennaeth y Gwasanaeth yr ydych yn cwyno amdano.
  • Bydd Pennaeth y Gwasanaeth yn ysgrifennu atoch gyda'i (h)ymateb.
  • Hefyd cewch gopi o'r adroddiad ymchwilio.
  • Dylai'r broses hon gymryd 25 diwrnod gwaith.  Mewn achosion mwy cymhleth, efallai y bydd angen mwy o amser.  Os felly, bydd naill ai'r Swyddog Ymchwilio neu Reolwr y Gwasanaethau Cwsmeriaid yn cysylltu â chi i ofyn am estyniad amser priodol.
  • Os byddwch yn dal i fod yn anfodlon yn y cyfnod hwn, gallwch ofyn i'r mater gael ei adolygu gan banel annibynnol

Cam Tri – Panel annibynnol

  • Y Panel Annibynnol yw'r trydydd cam a'r cam olaf yng Ngweithdrefn Gwyno'r Gwasanaethau Cymdeithasol.
  • Dylid gwneud cais am Banel Annibynnol o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl derbyn ymateb Pennaeth y Gwasanaeth i'ch cwyn yn yr ail gyfnod (Ystyriaeth Ffurfiol).
  • Gofynnir i chi lenwi ffurflen yn rhoi'r rhesymau am eich anfodlonrwydd.  Os oes angen cymorth arnoch i wneud hyn, dylech roi gwybod i Reolwr y Gwasanaethau Cwsmeriaid.
  • Anfonir manylion eich cais at y Swyddfa Cwynion Annibynnol (sydd wedi'u penodi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru) i ymdrin â chyfnod y Panel Annibynnol ar gyfer cwynion sy'n ymwneud â'r Gwasanaethau Cymdeithasol.
  • Bydd y Swyddfa Cwynion Annibynnol yn ysgrifennu atoch o fewn dau ddiwrnod gwaith i gadarnhau eu bod wedi derbyn eich cais.
  • Bydd y Panel Annibynnol yn ymgynnull o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl derbyn y cais (neu cyn gynted ag sy'n bosibl ar ôl cael caniatâd yr achwynydd).
  • Mae'r Panel Annibynnol yn cynnwys Cadeirydd Annibynnol a dau aelod o'r Panel Annibynnol (un â chefndir yn y Gwasanaethau Cymdeithasol a'r llall yn Aelod Lleyg).
  • Ar ôl ystyried y materion, bydd y panel yn ysgrifennu adroddiad ac, os yn briodol, bydd yn rhoi argymhellion i Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol.
  • Anfonir yr adroddiad atoch chi a Phrif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol (PSGC).
  • Rhaid i'r PSGC ystyried yr argymhellion a phenderfynu pa gamau i'w cymryd.
  • Bydd y PSGC yn ysgrifennu atoch a phobl berthnasol eraill o fewn 20 diwrnod gwaith.

Yn dilyn y Panel Arolygu, os teimlwch na ymdrinniwyd â’ch cwyn yn gywir neu ei bod yn destun camweinyddiaeth, mae’n bosibl y byddwch yn dymuno cysylltu â’r Ombwdsmon lleol yn y cyfeiriad canlynol:

Public Services Ombudsman for Wales
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ

Ffon: 0845 601 0987
Ffacs: 01656 641199

e-bost: ask@ombudsman-wales.org.uk
gwefan: www.ombudsman-wales.org.uk

Clod

Cysylltwch â ni pan deimlwch ein bod wedi gwneud yn dda. Bydd yn ein helpu i geisio sicrhau y gellir darparu’r lefel hon o wasanaeth i eraill yn y dyfodol.

  • Gallech ddweud wrth y staff eu hunain; neu

  • ddweud wrth rywun yn ein swyddfeydd.

 
English
 

Cyswllt i

Nodau a Blaenoriaethau Adrannol Allweddol
Dogfennau Allweddol
Pa wasanaethau a ddarperir?
Pwy all gael help?
Cwestiynau Cyffredin
Sut i gysylltu â ni
Taflenni gwybodaeth
Gwybodaeth am ofalu am rywun
Hawliau Lles
Cynllun Bathodyn Glas
A-Y o Fudd-daliadau
Eich Barn
Gwasanaethau Cymdeithasol Wrecsam
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint