Help i hawlio budd-daliadu y gallech fod yn gymwys i'w derbyn
Llinell Gymorth Uned Hawliau Lles Wrecsam
Ffôn: 01978 298254
Dydd Llun i ddydd Iau: 8.30am hyd 5.00pm Dydd Gwener: 8.30am hyd 4.30pm
Mae'r Uned Hawliau Lles yn dīm o weithwyr sy'n cynnig cyngor a chynrychiolaeth am faterion budd-daliadau lles. Mae'r gwaith hwn yn helpu unigolion a'r awdurdod sy'n ymroddedig i hybu cynhwysiad cymdeithasol.
I gael gweld swyddog hawliau lles, rhaid i unigolyn fodloni rhai meini prawf penodol. Yn gyffredinol, golyga hyn eu bod wedi cael rhyw fath o gyswllt blaenorol neu gymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Fodd bynnag, gall unrhyw un sy'n byw neu'n gweithio yn ardal Wrecsam ffonio llinell gymorth yr Uned i gael cyngor. Anelwn at ateb cwestiynau mewn ffordd glir a defnyddiol o fewn 24 awr. Y rhif ffôn ar gyfer hyn (a phob ymholiad arall) yw 01978 298254. Mae'r llinell ar agor o 8.30am hyd 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Iau ac o 8.30am hyd 4.30pm ar ddydd Gwener.
A-Y o Fudd-daliadau
Canlyniadau Blynyddol
Cysylltiadau i wefannau defnyddiol eraill
Grwp Gweithredu Tlodi Plant
Mae'r grwp hwn yn hybu gweithrediadau i arbed tlodi ymysg plant a theuluoedd sydd â phlant. Gweithiwn i sicrhau bod y rhai ar incwm isel yn cael eu budd-daliadau lles perthnasol. Yn ein gwaith ymgyrchu a gwybodaeth, ceisiwn wella budd-daliadau a pholisļau i deuluoedd ar incwm isel er mwyn cael gwared ar anghyfiawnder tlodi.

Cynghrair Anabledd
Dyma wefan y Gynghrair Anabledd, cyhoeddwyr y llawlyfr am hawliau pobl anabl. Ystyrir ni fel yr awdurdod arweiniol ar fudd-daliadau nawdd cymdeithasol i bobl anabl.

Cyngor ar Bopeth
Mae'r gwasanaeth yn cynnig cyngor am ddim, cyfrinachol, diduedd ac annibynnol. O'i wreiddiau yn 1939 fel gwasanaeth brys yn ystod yr Ail Ryfel Byd, mae wedi datblygu i fod yn asiantaeth genedlaethol broffesiynol.

Datrys Tlodi Ymhlith Plant Cymru
Cafodd y wefan hon ei chreu i helpu ymarferwyr lleol, pobl sy'n creu polisïau a strategaethau, a rheolwyr i ddatblygu ymateb lleol i'r broblem o gwtogi ar dlodi ymhlith plant Cymru. Mae'n cynnig pecyn cymorth sy'n disgrifio proses y gellid ei dilyn wrth fynd ati i wneud y gwaith, a chanllawiau i'ch helpu bob cam o'r ffordd. Cafodd wefan Datrys Tlodi Ymhlith Plant Cymru ei chreu gan fudiad Achub y Plant a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gyda chymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru .

Adran Gwaith a Phensiynau
Mae'r Adran yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth a chyngor trwy rwydwaith cyfoes o wasanaethau i bobl o oed gwaith, cyflogwyr, pensiynwyr, teuluoedd a phlant, a phobl anabl.

Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol
Mae'r comisiwn yn gorff cyhoeddus gweithredol anadrannol a sefydlwyd dan Ddeddf Mynediad i Gyfiawnder 1999 i gymryd lle'r bwrdd cymorth cyfreithiol.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Gwefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cymdeithas Genedlaethol Cynghorwyr Hawliau Lles (NAWRA)

Rightsnet

Gwadiad: Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
|