Ein Nod
Rydym yn anelu at sicrhau ein bod yn trin pawb yn onest, yn deg ac a
pharch er mwyn "darparu'r gofal cymdeithasol gorau posibl i bobl
Bwrdeistref Sirol Wrecsam".
Ein Gweledigaeth
Rydym yn anelu at fod yn adran gadarnhaol ac ymategol sy'n darparu gwasanaethau
o ansawdd lle ceir:
-
Cyfeiriad cryf tuag at ddefnyddwyr / gofalwyr.
-
Ffocws ar y gymuned.
-
Gwasanaethau integredig.
-
Ethos o ddarparu gwasanaethau ar sail arferion gonest a gwrthwahaniaethol.
-
Cysylltiadau cyfathrebu cryf.
-
Anogaeth i fod yn wreiddiol.
-
Tuedd i wella'n barhaol ac arolygu perfformaid.
Yr Hyn Rydym Yn Ei Wneud
Rydym yn darparu neu'n gwasanaethau ar gyfer:
-
Plant a theuluoedd mewn angen
-
Pobl hen
-
Pobl ag anableddau dysgu, corfforol neu salwch meddwl
-
Pobl a phroblemau alcohol neu gyffuriau neu rai a effeithir gan HIV
-
Pobl a nam syhwyraidd
-
Gofalwyr
-
Cymunedau lleol.
Mae ein gwaith yn cynnwys:
-
Cefnogi plant a'u teuluoedd
-
Gofalu am blant sydd angen gofal, cefnogaeth neu ddiogelwch a mwyhau
eu cyfleoedd mewn bywyd
-
Helpu pobl hen a phobl ag anableddau i fyw bywydau cyn lawned a phosibl
-
Helpu pobl gyda gofal a chenogaeth yn eu cartrefi preswyl/nyrsio
lle gallant gael cefnogaeth ychwanegol
-
Cefnogi gofalwyr gydag ystod o wasanaethau, gan gynnwys helpu nhw
i gael egwyl o ofalu.
Ein Cyfrifoldebau Atoch Chi
-
Dweud wrthych pa wasanaethau sydd ar gael a phwy sy'n gymwys i'w
derbyn
-
Ceisio ymateb i'ch cais cyntaf o fewn un diwrnod gwaith
-
Os bydd angen, cynnal asesiad o'ch anghenion. Ceisiwn wneud hyn cyn
gynted a phosibl yn ddibynnol ar ei bwysigrwydd
-
Lle na ddarperir gwasanaethau, byddwn yn esbonio pam na allwn helpu
ac un eich cynghori lle gallwch gael help
-
Lle darperir gwasanaethau, byddwn yn llunio cynllun gofal, byddwch
yn cael copi ohono yn dweud wrthych pryd fydd y gwasanaethau'n dechrau.
Ceisiwn arolygu'r rhain bob 6 mis i sicrhau eu bod yn dal i gwrdd
a'ch anghenion.
-
Tra bod gwasanethau'n cael eu darpau, bydd gennych aelod o staff
a enwir i gysylltu ag ef/hi gydag unrhyw ymholiadau
-
Os ydych yn anghytuno a'ch asesiad neu gynllun gofal, gallwch ofyn
i ni ailedrych ar hyn drwy ddefnyddio ein gweithdrefn gwyno.
-
Gwerthfawrogi eich hawl i gyfrinachedd.
-
Trin pawb yn deg beth bynnag eu hil, rhyw, cyfeiriad rhywiol neu
anabledd drwy sicrahau bod pob angen yn cael ei ystyried yn llawn.
Gwybodaeth y Mae'n Bosibl Y Bydd Angen i Ni Ei Chael
Yn ddibynnol ar eich amgylchiadau:
-
Eich enw
-
Eich dyddiad geni
-
Eich cyfeiriad presennol neu ddiweddaraf
-
Enw perthynas agos (neu ffrind agos)
-
Enw a chyfeiriad eich meddyg teulu
-
Enwau adrannau neu sefydliadau araill sy'n helpu chi neu'n delio
a'ch achos. Er enghraifft, adran tai, tim nyrsio cymunedol, awdurdod
lleol arall, gwasanaeth prawf, sefydliad gwirfoddol ayyb
-
Eich tarddiad ethnig, crefydd ac iaith eich aelwyd
|