Adran Gofal Cymdeithasol – PSNI/IL

Mae’r Gwasanaeth Nam ar y Synhwyrau, Nam Corfforol, a Niwrolegol yn cynnwys dau dîm: Tîm PSNI a’r Tîm Therapi Galwedigaethol.

Tîm PSNI

Mae’r Tîm PSNI yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol, swyddogion adsefydlu i’r rheiny sydd â nam ar y golwg a gweithwyr cefnogi pobl fyddar ac mae’n darparu cefnogaeth gwaith cymdeithasol i bobl sy’n iau na 65 oed sydd ag anabledd corfforol, synhwyrol neu niwrolegol.

Tîm Therapi Galwedigaethol

Mae’r Tîm Therapi Galwedigaethol yn cynnwys therapyddion galwedigaethol a swyddogion cefnogi anabledd ac yn cwblhau asesiadau am offer anabl ac addasiadau.

Gwybodaeth Berthnasol

Cysylltu â Chwsmeriaid

Cesglir safbwyntiau pobl sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth MCSN (Materion Corfforol, Synhwyraidd a Niwrolegol) drwy ddefnyddio holiaduron a roddir i bawb wrth dderbyn asesiad neu adolygiad. Mae hyn yn gyfle i chi ddweud wrthym yr hyn yr ydym wedi’i wneud yn dda, yr hyn y gallem ei wneud yn well, a pha welliannau y gallem eu cyflwyno yn eich tyb chi. Rydym hefyd yn awyddus i glywed eich sylwadau am wasanaethau a ddarperir gan y gwasanaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion. Gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy fynd i’r dudalen ganlynol.

Strategaeth MCSN (Drafft)


Gwasanaethau Lleol

(Gwasanaethau a sefydliadau lleol, cysylltu gydag eraill – corfforol, synhwyraidd, niwrolegol, grwpiau lleol, gwasanaethau).

Dolenni


Gwybodaeth Ddefnyddiol

(Llyfrau, taflenni, fideos a dogfennau, dogfennau cenedlaethol eraill, cyfeirlyfrau anabledd)

Dolenni


Taflenni

Efallai i’r taflenni canlynol fod o ddiddordeb i chi:

I weld rhestr gyflawn mae’r Adran yn ei chynhyrchu, cliciwch yma.

Gwadiad: Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

yn ôl i'r brig