Mae Pobl Hŷn yn defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ond maen nhw’n gwneud mwy na hynny. Mae ganddyn nhw alluoedd a phrofiadau, a theuluoedd a chyfeillion, ac maen nhw’n medru cyfrannu’n sylweddol i’w cymunedau. Ymhlith y pethau maen nhw’n eu cynnig yw ymaelodi â, neu redeg, clybiau a chyrff gwirfoddol lleol. Hefyd mae llawer ohonyn nhw’n gofalu am bobl eraill.
Mae Dewis, Urddas a Pharch yn bwysig i Bobl Hŷn, hyd yn oed wrth iddyn nhw orfod dibynnu’n gynyddol ar eraill mewn rhai ffyrdd. Mae cysylltiadau cymdeithasol yn bwysig wrth gynnal iechyd, hapusrwydd a bodlondeb ac yn medru lleihau’r galw am wasanaethau.
Mae Wrecsam wedi cyhoeddi Siarter Urddas Mewn Gofal ar gyfer Pobl Hŷn. Bwriad y siarter yw cynyddu’r ymwybyddiaeth o Urddas Mewn Gofal , ac i roi gwybod i Bobl Hŷn am eu hawliau er mwyn eu galluogi i benderfynu ar sail gwybodaeth ynglŷn â’r gwasanaethau maen nhw’n eu defnyddio. Cliciwch ar y ddolen gyswllt islaw er mwyn dysgu mwy am Siarter Urddas Mewn Gofal Wrecsam, i ymgeisio i fod yn Eiriolwr Urddas Mewn Gofal neu i gyfrannu at Rwydwaith Urddas Mewn Gofal.
Siarter Urddas Mewn Gofal Wrecsam
Siarter Urddas Mewn Gofal Wrecsam - Fersiwn PDF 932Kb ![]()
Apply to become a Dignity in Care Champion
This document is available to download in the following formats:
I ymgeisio i fod yn Eiriolwr Urddas Mewn Gofal - Ferwsiwn Word 96Kb ![]()
I ymgeisio i fod yn Eiriolwr Urddas Mewn Gofal - Fersiwn PDF 108Kb ![]()
I ymgeisio i fod yn Eiriolwr Urddas Mewn Gofal - Fersiwn Testun Plaen 1.0Mb ![]()
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’i bartneriaid yn ymrwymo i sicrhau fod gan bob un o Bobl Hŷn Wrecsam y cyfle i fod mor iachus, annibynnol, hapus a bodlon â phosib. Amcan ein timoedd yw darparu neu drefnu gofal canolraddol er mwyn rhwystro Pobl Hŷn rhag gorfod mynd i’r ysbyty heb reswm (sy’n digwydd yn aml mewn argyfwng), rhag aros yn yr ysbyty am ormod o amser a rhag cael eu hanfon i gartref gofal heb fod angen.
Mi fydd pob Person Hŷn sydd angen cymorth yn ôl yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion yn derbyn asesiad dwys, yn rhad ac am ddim a thros gyfnod o chwe wythnos gan ein Tîm Ail-alluogi. Gwaith y tîm yma yw cynorthwyo oedolion i ymdopi’n annibynnol yn eu cartrefi ar ôl cyfnod o salwch neu anabledd, neu os yw amgylchiadau eu bywydau wedi newid yn sylweddol.
Os byddwch chi’n dweud eich dweud wrthym a sôn wrthym am y profiadau a gawsoch, gallwch chi gynorthwyo i wella’r gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn yn eich cymuned leol. Dyma ichi enghreifftiau o’r hyn y gwnaethoch ei ddweud am y gwasanaethau yr ydych yn eu cael, a’r hyn yr ydym wedi’i wneud i wella pethau yn sgil hynny.
Fe ddywedoch chi hyn, Fe wnaethom ni hyn - fformat PDF 30Kb ![]()
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |