Adran Gofal Cymdeithasol

Mae’r Adran Gofal Cymdeithasol yn gyfrifol am drefnu, comisiynu neu yn uniongyrchol darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol i’r rhai sydd mewn angen, au gofalwyr, er mwyn eu galluogi i fywn annibynnol lle bynnag y bo modd. Rydym yn sicrhau diogelwch y rhai syn agored i niwed trwy weithion agos gyda phartneriaid yn y gwasanaeth iechyd, y trydydd sector annibynnol a darparwyr eraill.

Yn dilyn eich adborth, mae’r tudalennau gwe Gofal Cymdeithasol wedi cael eu diweddaru er mwyn eich galluogi i fynd at yr wybodaeth yn haws. Byddwn yn parhau i ddatblygu’r tudalennau hyn dros y misoedd nesaf, a gofynnwn i chi fod yn amyneddgar tra bydd y gwelliannau hyn yn cael eu gwneud.

Gofalwyr

Ydych chin gofalu am ffrind neu berthynas syn sâl, yn fregus neun anabl heb dâl? Os ydych yn ateb ydw, eich bod yn. Gofalwr.

Pobl Hyn

Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i gefnogi pobl hŷn yn y cymuned neu i ddiwallu eu hanghenion am ofal mewn cartrefi preswyl neu nyrsio.

Gwasanaeth Dyletswydd Argyfwng

Mae’r Tîm Dyletswydd Argyfwng yn darparu gwasanaeth gwaith cymdeithasol y tu allan i oriau swyddfa arferol i unrhyw un sy’n byw yn Sir Ddinbych, Wrecsam neu Sir y Fflint.

Ymgysylltu ac Adborth

Gwybodaeth am y performiad Gofal Cymdeithasol i Oedolion, yn cynwys Ymgysylltu ac ymgynghori gyda phobl, defnyddwyr y gwasanaeth a gofalwyr.

Anableddau Dysgu

Rydym yn darparu cymorth a chefnogaeth i alluogi pobl ag Anableddau Dysgu i fwynhau ystod lawn o gyfleoedd a dewisiadau bywyd.

PSNI

Cymorth i pobl efo Materion Corfforol, Synhwyraidd a Niwrolegol gan gynnwys y Gymuned Fyddar Ddiwylliannol.

Iechyd meddwl

Timau o weithwyr proffesiynol profiadol yn gweithio gyda phobl sy’n cael anawsterau gydag iechyd eu meddwl.

Uned Hawliau

Mae’r Uned Hawliau Lles (WRU) yn cynnig cyngor a chynrychiolaeth ar holl faterion Budd-daliadau Lles gan gynnwys taliadau Nawdd Cymdeithasol a Chredyd Treth.

Adroddiadau

Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru);
Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol; Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru; Gweithredu’r Weledigaet

Gwasanaethau Gofal Cartref / Ail-alluogi

Gofal Cartref – mae hwn yn wasanaeth sy’n darparu staff yn eich cartref i’ch helpu gyda phob agwedd o’ch gofal personol. Ail-alluogi - mae hwn yn wasanaeth arbenigol a gewch i’ch helpu i ddysgu neu ail ddysgu sgiliau a fydd yn eich helpu i aros yn annibynnol.


Gofal Cymdeithasol i Oedolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam – Blaenoriaethau ac Amcanion Adrannol

Ein Cenhadaeth

Ceisiwn sicrhau ein bod yn trin pawb yn onest a theg gyda pharch er mwyn “darparu’r gofal cymdeithasol gorau bosib i bobl Bwrdeistref Sirol Wrecsam”.

Ein gweledigaeth

Rydym yn ymdrechu i fod yn adran ymatebol a chadarnhaol sy’n darparu gwasanaethau o safon lle ceir gogwydd gofalwr / defnyddiwr cadarn o fewn ffocws lleol a chymunedol. Ceisiwn ddarparu gwasanaeth integredig iawn yn seiliedig ar ethos parch ac arferion gwrth-wahaniaethu.

Yr hyn a wnawn

Darparwn neu trefnwn wasanaethau i bobl hŷn ac i bobl sydd ag anableddau dysgu, problemau synhwyrol neu niwrolegol neu iechyd meddwl. Rydym hefyd yn darparu gwasanaethau i bobl sydd â phroblemau ag alcohol neu gyffuriau, neu bobl a effeithir gan HIV. Rydym hefyd yn canolbwyntio ar gynorthwyo gofalwyr ac yn darparu gwasanaethau eraill i bobl yn y cymunedau lleol.

Yn ein gwaith byddwn yn

Cynorthwyo pobl hŷn a phobl ag anableddau i fyw bywydau mor llawn â phosibl. Ceisiwn hefyd i gynorthwyo pobl gyda gofal a chefnogaeth yn eu cartrefi eu hunain, neu â gwasanaethau dydd; neu mewn cartrefi preswyl / nyrsio lle gallant dderbyn cefnogaeth ychwanegol a chefnogi gofalwyr gydag amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys eu cynorthwyo i gael seibiant o ofalu.

Ein Cyfrifoldebau i Chi

  • Rhoi gwybod i chi am y gwasanaethau sydd ar gael a phwy sydd â hawl i’w derbyn.
  • Os bydd angen gwneud asesiad o’ch anghenion. Ymdrechwn i wneud hyn mor fuan â phosibl yn dibynnu ar anghenraid. Pan na ddarperir gwasanaethau, gwnawn esbonio pam na allwn eich cynorthwyo a chynigiwn gyngor lle gallwch gael help.
  • Pan ddarperir gwasanaethau, byddwn yn llunio cynllun gofal, a fydd yn eich hysbysu pan fydd y gwasanaethau’n dechrau a chewch gopi ohono. Fel rheol bydd cynlluniau’n cael eu hadolygu bob chwech neu deuddeg mis, neu fel bo angen os yw anghenion yr unigolyn yn newid.
  • Tra darperir gwasanaethau bydd gennych aelod o staff i gysylltu â nhw ynghylch unrhyw ymholiadau a fydd gennych.
  • Parchu eich hawliau a’ch cyfrinachedd.
  • Trin pawb yn deg beth bynnag fo’u hil, rhyw, rhywioldeb ac anabledd drwy sicrhau yr ystyrir yr holl anghenion.

Gwybodaeth Bydd Angen i Ni ei Wybod Efallai

  • Eich enw.
  • Eich dyddiad geni.
  • Eich cyfeiriad presennol neu eich cyfeiriad diweddaraf.
  • Enw eich perthynas agosaf (ffrind agos).
  • Enw a chyfeiriad eich meddyg teulu.
  • Enwau adrannau neu sefydliadau eraill sy’n eich helpu ar hyn o bryd neu yn ymdrin ach achos. Er enghraifft: adran tai, tîm nyrsio cymunedol, awdurdod lleol arall, gwasanaeth prawf, mudiad gwirfoddol ac ati.
  • Eich tarddiad ethnig, crefydd ac iaith y cartref.

yn ôl i'r brig