Rydym yn darparu ystod o wasanaethau gofal cymdeithasol i gefnogi teuluoedd gyda phlant yn Wrecsam.

Pryderu am blentyn?

Dywedwch wrthym cyn gynted â phosib os ydych yn pryderu fod plentyn mewn perygl o gael ei niweidio neu ei esgeuluso. Gallwch wneud hyn drwy anfon e-bost at SPOAchildren@wrexham.gov.uk neu drwy ffonio Un Pwynt Mynediad Plant ar 01978 292039 yn ystod oriau gwaith arferol.

Gellir cysylltu â’n Tîm Dyletswydd Argyfwng drwy anfon e-bost at Emergency.Hours@wrexham.gov.uk neu drwy ffonio 0345 053 3116 y tu allan i oriau gwaith (cyn 8:30am ac ar ôl 5pm Dydd Llun - Dydd Iau, a chyn 8:30am ac ar ôl 4:30pm ar Ddydd Gwener, Dydd Sadwrn, Dydd Sul ac ar wyliau banc).

Os yw’r plentyn mewn perygl uniongyrchol, dylech ffonio’r heddlu yn syth ar 999.

Help a chyngor

Fel eich cyngor lleol, mae gennym ddyletswydd i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i deuluoedd yn ardal Wrecsam. Gall teuluoedd gysylltu â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam ynghylch nifer o bethau, gan gynnwys:

  • Gofal plant a chostau gofal plant
  • Pethau i'w gwneud ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam
  • Iechyd plant
  • Datblygiad ac ymddygiad plant
  • Cydbwysedd bywyd a gwaith
  • Addysg
  • Bwydo ar y Fron
  • Hyfforddiant defnyddio’r poti
  • Diogelwch plant
  • Bwlio
  • Camddefnyddio cyffuriau ac alcohol
  • Ynglŷn â gorchmynion gwarchodaeth arbennig

Mae ein Hadran Gofal Cymdeithasol Plant hefyd yn gweithio gyda phlant a theuluoedd sy’n wynebu heriau, gan gynnwys anabledd, tlodi, camddefnyddio sylweddau, cam-drin domestig a phroblemau iechyd meddwl.

Ymholiadau cyffredinol

Gallwch gysylltu â ni gydag ymholiadau cyffredinol ynghylch gofal cymdeithasol i blant trwy anfon e-bost at SPOAchildren@wrexham.gov.uk.

Caiff y blwch post ei fonitro ddydd Llun i ddydd Iau o 8:30-17:00 ac ar ddydd Gwener o 8:30-16:30.