|
Cewch Fathodyn Glas os:
-
Ydych yn derbyn y gyfradd uwch o'r elfen symudedd yn y Lwfans
Byw i'r Anabl.
-
Ydych yn derbyn Atodiad Symudedd Pensiynwyr Rhyfel
-
Ydych wedi eich cofrestru yn ddall
-
Oes gennych anabledd difrifol yn y ddau aelod uchaf o'r corff, yn
gyrru cerbyd modur yn rheolaidd ond ni fedrwch droi'r llyw gyda llaw
hyd yn oed os oes nobyn troi ar y llyw.
-
Oes gennych anabledd parhaol a sylweddol sy'n golygu na fedrwch gerdded
neu y cewch anhawster sylweddol wrth gerdded.
yn ôl i'r brig
A oes tâl am y Bathodyn Glas?
OES. Mae tâl gweinyddu o £2 i dalu cost prosesu eich cais. Nid yw’n dâl am y bathodyn ei hun ac ni fyddwn yn ei ad-dalu os na fydd eich cais yn llwyddiannus. Rhaid talu’r tâl gweinyddu ar gyfer pob cais.
yn ôl i'r brig
Mae mwy o wybodaeth ar y Cynllun Bathodyn Glas ar gael ar wefan yr
Adran Drafnidiaeth.
|