|
Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth
ar y cais a wnewch am Fathodyn Glas, a beth sy'n digwydd nesaf.
Gwneud cais ar lein am Fathodyn Glas
Gwneud cais am Fathodyn Glas gan ddefnyddio ffurflen
gais safonol
Cysylltu gyda Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwneud cais ar lein am Fathodyn Glas
Cam 1
Darllenwch yr holl ganllawiau er mwyn penderfynu a oes gennych hawl i gael Bathodyn Glas.
Cam 2
Os credwch bod gennych hawl i gael Bathodyn Glas ac os yw'r dogfennau perthnasol i gefnogi eich cais gennych, yna cwblhewch y ffurflen gais ar lein - gan sicrhau eich bod yn rhoi’r holl fanylion perthnasol pan ofynnir i chi wneud hynny. Rhaid gwirio neu newid unrhyw wybodaeth anghywir neu wybodaeth sydd ar goll a gall hynny olygu oedi yn y broses.
Cam 3
Bydd eich ffurflen gais ar lein yn cael ei derbyn a'i phrosesu gan adran Gofal Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Bydd yr adran Gofal Cymdeithasol yn anfon neges e-bost atoch i ddweud eu bod wedi derbyn eich cais.
Bydd adran Gofal Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gwirio a dilysu eich cais.
Efallai y bydd yr adran Gofal Cymdeithasol yn cysylltu â chi ymhellach i gael rhagor o wybodaeth am eich cais.
Efallai y cewch lythyr y bydd gofyn i chi ei roi i'ch meddyg teulu - gofynnir i'r meddyg gyflwyno gwybodaeth mewn perthynas â'ch cais.
Cam 4
Os bydd eich cais yn llwyddiannus bydd y adran Gofal Cymdeithasol
yn cysylltu gyda chi a gofyn am ddau ffotograff diweddar, tebyg i rai
pasbort, gyda llofnod yr ymgeisydd ar y cefn. OS GWELWCH YN DDA, PEIDIWCH
AG ANFON Y FFOTOGRAFFAU NES GOFYNNIR I CHI WNEUD HYNNY. Bydd angen hefyd
i chi roddi copi o'ch llofnod a gaiff ei ddefnyddio ar gyfer y Bathodyn
Glas.
Byddwn yn gofyn i chi ddod i swyddfa’r adran Gofal Cymdeithasol i nôl eich Bathodyn Glas, ac i gyflwyno'r dau ffotograff,
ynghyd ag unrhyw ddogfennau eraill sy'n rhan o'r broses o wneud cais.
Os bydd eich cais yn aflwyddiannus bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol
yn ysgrifennu atoch i esbonio pam fu'r cais yn aflwyddiannus.
Cysylltiad i'r Ffurflen Gais ar lein am Fathodyn
Glas
Bydd y wybodaeth a roddir gennych yn cael ei thrin yn gyfrinachol.
Diogelu Gwybodaeth
Bydd yr holl wybodaeth a gyflwynir gennych yn cael ei storio a'i defnyddio
dan delerau Deddf Diogelu Gwybodaeth 1998. Gweler hefyd ein Polisi
Preifatrwydd.
yn ôl i'r brig
Gwneud cais am Fathodyn Glas gan ddefnyddio
ffurflen gais safonol
Cam 1
Darllenwch yr holl nodiadau arweiniad
i benderfynu os oes gennych hawl i dderbyn Bathodyn Glas.
Cam 2
Os ydych yn credu bod gennych hawl i Fathodyn Glas, ac os yw'r dogfennau
perthnasol i gefnogi eich cais gennych, yna cysylltwch â’r adran Gofal Cymdeithasol i ofyn am gopi o'r ffurflen gais..
Ffoniwch: 01978 292066, neu cwblhewch y ffurflen
ymholiad ar lein, neu ebost: socialservices@wrexham.gov.uk.
Cam 3
Cwblhewch y ffurflen gais, gan sicrhau eich bod yn rhoi’r holl fanylion perthnasol pan ofynnir i chi wneud hynny. Rhaid gwirio neu newid unrhyw wybodaeth anghywir neu wybodaeth sydd ar goll, a gall hyn olygu oedi yn y broses.
Cam 4
Anfonwch y ffurflen gais wedi’i chwblhau at un o swyddfeydd
y Gwasanaethau Cymdeithasol, PEIDIWCH AG ANFON Y FFOTOGRAFFAU NES
GOFYNNIR I CHI WNEUD HYNNY.
Cam 5
Bydd eich ffurflen gais yn cael ei derbyn a'i phrosesu gan adran Gofal Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Bydd eich cais yn cael ei wirio a'i ddilysu gan adran Gofal Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Efallai y bydd yr adran Gofal Cymdeithasol yn cysylltu â chi i ofyn am fwy o wybodaeth ynglyn â'ch cais.
Efallai y cewch lythyr y bydd gofyn i chi ei roi i'ch meddyg teulu - gofynnir i'r meddyg gyflwyno gwybodaeth mewn perthynas â'ch cais.
Cam 6
Os bydd eich cais yn llwyddiannus bydd yr adran Gofal Cymdeithasol yn cysylltu â chi i ofyn am ddau ffotograff diweddar, tebyg i rai pasport, gyda llofnod yr ymgeisydd ar y cefn. PEIDIWCH AG ANFON Y FFOTOGRAFFAU NES GOFYNNIR I CHI WNEUD HYNNY OS GWELWCH YN DDA.
Byddwn yn gofyn i chi ddod i swyddfa’r adran Gofal Cymdeithasoli gasglu eich Bathodyn Glas ac i gyflwyno'r dau ffotograff, ynghyd ag unrhyw ddogfennau eraill sy'n rhan o'r broses o wneud cais.
Os bydd eich cais yn aflwyddiannus bydd yr adran Gofal Cymdeithasol yn ysgrifennu atoch i esbonio pam fu'r cais yn aflwyddiannus.
yn ôl i'r brig
Mae'r broses gyfan yn cymryd rhyw chwe wythnos fel arfer.
Cysylltu â’r adran Gofal Cymdeithasol
Adran Gofal Cymdeithasol
Llawr Cyntaf
Adeiladau'r Goron
Stryt Caer
Wrecsam
LL13 8ZE
Ffôn: 01978 292066
E-bost: socialservices@wrexham.gov.uk
Mae mwy o wybodaeth ar y cynllun Bathodyn Glas ar gael ar wefan yr
Adran Drafnidiaeth.
|