Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Caffaeliad Cyngor

 

Mae caffael nwyddau, gwaith a gwasanaethau’n weithgaredd gwerth uchel yn y Cyngor sy’n cael effaith fawr ar ei berfformiad a llwyddiant.  Mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn gwario rhyw £80 miliwn y flwyddyn ar nwyddau, gwaith a gwasanaethau.

Anelwn at wella’r broses gaffael er mwyn cael y gorau o’r contractau sydd gennym a gostwng y costau gweinyddol o brynu.

Pwysigrwydd Caffaeliad

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd caffaeliad wrth gyflawni ein nodau a bod cafael nwyddau, gwaith a gwasanaethau o bwysigrwydd strategol am y rhesymau canlynol:

  • mae’n cael effaith uniongyrchol ar wariant cyffredinol y Cyngor, a’r gost o ddarparu gwasanaethau i bobl Bwrdeistref Sirol Wrecsam
  • mae’n effeithio’n uniongyrchol ar ddarpariaeth y Cyngor o’i wasanaethau
  • mae’n cyfrannu at gyflawni nodau corfforedig, adrannol a gwasanaeth
  • mae’n ffordd o gyflawni nodau polisi allweddol, gan gynnwys cynaladwyedd, gweithio mewn partneriaeth, cydraddoldeb a datblygiad economaidd
  • mae’n gweithredu o fewn fframwaith rheoleiddio cymhleth y mae’n rhaid cadw ato
  • gall gynnwys risgiau uchel; mae’n effeithio ar wasanaethau; mae yna faterion ariannol a chyfreithiol ac mae’n dylanwadu a chyfrannu at enw’r Cyngor
  • mae’n datblygu rôl y Cyngor fel ‘arweinydd cymunedol’ yn enwedig mewn perthynas â chynaladwyedd a datblygiad economaidd lleol

Strwythur

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn defnyddio ymagwedd ddatganoledig at gaffael gyda swyddogion sy’n prynu nwyddau a gwasanaethau ar sail gorfforedig ond a leolir o fewn adrannau hefyd.  

Mae rhwydwaith o swyddogion yn cael ei gefnogi gan Swyddog Caffael canolog yn yr Adran Cyllid a Pherfformiad.  Mae’r swyddog hwn yn cyd-drefnu gweithgareddau caffael, rhoi cyngor a chyfarwyddyd a sicrhau bod egwyddorion y Strategaeth Caffaeliad yn cael eu hwyluso a’u cyflawni. 

Cyswlltwch  Ni  

Os hoffech gysylltu â’r Uned Caffaeliad, mae yna fanylion cyswllt isod:

Ffacs: 01978 292763
E-bost: procurement@wrexham.gov.uk

Cyfeiriad:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Caffaeliad
Adran Cyllid a Pherfformiad
Stryt y Lampint
Wrecsam
LL11 1AR

 
English
 

Cysylltiadau Defnyddiol

Caffaeliad Cyngor
Strategaeth Caffaeliad
Siarter Agor Drysau
Canllaw Gwerthu i'r Cyngor
Canllaw Caffaeliad Cynaliadwy
Mynegai Cyngor
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint