Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
12 Mehefin 2008
Llai o Werthu Alcohol i Rai Dan Oed yn Wrecsam
Mae gwerthiant alcohol i unigolion dan oed bron wedi haneru yn Wrecsam yn dilyn menter lwyddiannus i leihau gwerthiant o’r fath.
Yn 2006 gwnaed 30 o bryniannau prawf mewn siopau trwyddedig gyda chanlyniad o 9 gwerthiant – graddfa o 30%. Er mwyn ceisio lleihau’r lefel gwerthiant, darparwyd cyllid drwy’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol i gyflogi Swyddog Gorfodaeth rhan amser dros dro gyda dyletswyddau i godi ymwybyddiaeth dalwyr trwyddedau am eu cyfrifoldebau ac i gynyddu nifer y pryniannau prawf i 80 y flwyddyn.
Mae ffigurau am y cyfnod mis Ebrill 2007 i fis Mawrth 2008 yn dangos bod y gwerthiannau i wirfoddolwyr y prawfbrynu dan oed bron wedi haneru. Rhoddwyd cynnig ar 92 prawfbryniant mewn 51 lleoliad, gydag 16 gwerthiant neu 17.4%. Yn dilyn y gweithgaredd gorfodaeth hwn cyflwynwyd 16 hysbysiad cosb benodedig i’r gweithwyr a werthodd yr alcohol, erlynwyd 7 daliwr trwydded, mae 3 daliwr trwydded yn dal yn destun ymchwiliad neu’n aros am wrandawiad llys, mae 2 ddaliwr trwydded wedi dirwyn eu busnes i ben a phenderfynwyd bod 4 wedi ymddwyn â gofal priodol i rwystro’r gwerthiannau ac nid erlynwyd hwy.
Mae gwaith i leihau’r nifer o werthiannau wedi bod yn parhau ac mae dalwyr trwyddedau yn y fwrdeistref sirol wedi cael cyngor helaeth gan Safonau Masnach ac wedi derbyn hysbysiadau, deunydd hyfforddiant ar gyfer staff a deunydd arall i’w cynorthwyo gyda gwrthod gwerthu. Yn ychwanegol, parheir i gyflwyno Cardiau Profi eich Oed i dros 90% o bobl ifanc cymwys yn Wrecsam. Mae’r cynllun wedi’i achredu gan Gynllun Safonol Profi eich Oed ac mae hologram ar y cerdyn fel na ellir gwneud rhai ffug. Fe’i cyflwynwyd fel canlyniad uniongyrchol i fasnachwyr yn mynegi pryderon am wirio oedran pobl ifanc.
Bydd y fenter nawr yn parhau i 2009 yn dilyn derbyn cadarnhad o gyllid pellach gan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.
Dywedodd y Cynghorydd David Bithell, Aelod Arweiniol dros Amgylchedd a Chludiant:
"Mae rhieni yn bryderus ynghylch y swm o alcohol y mae pobl ifanc yn gallu cael gafael arno ac mae’r fenter hon yn sicr yn cynorthwyo i leihau’r niferoedd o werthiannau dan oed. Nid yw mynd i’r afael â gwerthiannau uniongyrchol fodd bynnag ond yn un dull o leihau’r swm o alcohol y mae unigolion dan oed yn cael gafael arno. Mae oedolion yn prynu alcohol ar ran pobl ifanc hefyd yn cyfrannu at y broblem a byddwn yn parhau i weithredu yn erbyn y rhai sy’n torri’r gyfraith.”
|